AmeriCymru


 

Stats

Blogs: 393
events: 47
youtube videos: 122
images: 57
Files: 4
FAQs: 4
Invitations: 1
Item Bundles: 1
Groups: 2
videos: 2

Category: Cymraeg


gwrs_haf_prifysgol_caerdydd.png

Why not learn Welsh by attending the Cardiff University Welsh Summer Course which has been running for over 40 years!


Courses  There are courses available for pure beginners right up to advanced levels, and you are able to attend the course for two, four, six or eight weeks. Also this year, for the first time, we're offering a 20% off Earlybird Discoun t, a 10% off Earlybird Discount and a Scholarship .

...
Please find all the information regarding the Summer Course here.

...
Unsure of your level?  There are descriptions of all levels in the link above. If you’re still unsure of your level , you’re very welcome to give us a call on +44 (0)29 2087 4710 and we will put you in touch with a tutor .

...
Immerse yourself in the Welsh language  When people attend our Summer Course we want to ensure that they benefit from gaining every opportunity to immerse themselves in the Welsh language . This year, to ensure this, we are offering the following:
-A brand new order of the week so that you're able to learn, practise and enjoy.
-A programme packed full of activities
...

...

Accommodation   University accommodation is available if you would like to stay whilst attending the course. Please find more information here. ..

....

learnwelsh.cymru/cardiff-university dysgucymraeg.cymru/prifysgol-caerdydd +44 (0)29 2087 4710
info@learnwelsh.co.uk


Cyrsiau  Mae cyrsiau ar gael ar gyfer dechreuwyr pur hyd at gyrsiau ar y lefel Uwch . Mae modd i chi fynychu'r cwrs am 2 wythnos, 4 wythnos, 6 wythnos neu 8 wythnos. Hefyd, eleni, am y tro cyntaf, dyn ni'n cynnig Gostyngiad Cyw Cynnar 20%, Cyw Cynnar 10% ac ysgoloriaeth.

...
Gweler yr holl wybodaeth am y Cwrs Haf yma.

...

Ansicr o'ch lefel?   Mae modd i chi weld disgrifiadau o'r cyrsiau yn y ddolen uchod. Os dych chi'n ansicr o'ch lefel o hyd, mae croeso mawr i chi gysylltu â ni ar 029 2087 4710 a bydd modd i ni drefnu eich bod chi'n cael sgwrs â thiwtor.

...

Ymdrochi eich hunan yn yr iaith Gymraeg   Pan fod pobl yn mynychu ein Cwrs Haf, dyn ni eisiau sicrhau eu bod nhw'n elwa o gymryd pob cyfle i ymarfer eu Cymraeg ac ymdrochi eu hunain yn yr iaith Gymraeg . Eleni, i sichrau hyn, dyn ni'n cynnig y canlynol:
-Trefn yr wythnos newydd sbon fel bod modd i chi ddysgu, ymarfer a mwynhau.
-Rhaglen yn llawn gweithgareddau i chi gael hwyl ac ymarfer eich Cymraeg
,,,

Llety   Mae llety ar gael yn y Brifysgol os hoffech chi aros yng Nghaerdydd pan dych chi'n mynychu'r cwrs. Gweler mwy o wybodaeth yma.
,,,

learnwelsh.cymru/cardiff-university dysgucymraeg.cymru/prifysgol-caerdydd +44 (0)29 2087 4710
info@learnwelsh.co.uk

Posted in: Cymraeg | 0 comments

There are many books available to help learners but few discuss issues linked with using the language outside class.

Speak Welsh Outside Class – You Can Do It  by Dr Lynda Pritchard Newcombe is a book for Welsh learners which gives tips on how to be more confident speaking Welsh outside the classroom and in the community. It offers tips on how to overcome these types of obstacles as learners progress with their Welsh.

The book is suitable for Welsh learners of all ages, Welsh for Adults tutors and there is also plenty of advice for Welsh speakers who would like to help learners develop and grow in confidence. 

Dr Lynda Pritchard Newcombe was born in Dowlais, Merthyr Tydfil and has lived in Cardiff since 1970. She became fluent in Welsh as an adult.
‘Despite a family background in Welsh – my grandparents on my father’s side were from Llanllechid and on my mother’s side from the Gwendraeth valley - I lacked confidence to speak Welsh until I attended WLPAN and further courses at Cardiff University in 1990.’ says Lynda.

She has written many articles and books about learning Welsh and has many years’ experience teaching adults languages and has also been involved in several research projects on bilingualism and worked for Cardiff University and the Open University.

‘This is not a situation unique to Wales but experienced by second language learners in many other countries’ says Lynda, ‘Catalan learners in Spain for instance and farther afield Maori learners in New Zealand as well as Javanese learners in Indonesia.’

‘There are many books available to help learners but few discuss issues linked with using the language outside class.’ explains Lynda, ‘My experiences as a tutor and a researcher has led me to believe that many learners give up using Welsh in the community as they lack self-belief and may not always feel supported by Welsh-speakers.’

‘This is a complex issue and blame should not be apportioned to fluent speakers or learners.’ she explains,  ‘This book aims to help learners and Cymry Cymraeg understand one another.’

‘The Welsh language is a treasure to use, share and enjoy,’ added Welsh tutor Nia Parry, ‘This book gives invaluable advice and guidance to learners and Welsh speakers on their learning journey and to use Welsh at every opportunity.’

Dr Lynda Pritchard Newcombe will be at Maes D in the National Eisteddfod of Wales at 11am on Tuesday the 2 nd of August discussing her book.

Speak Welsh Outside Class – You Can Do It! by Dr Lynda Pritchard Newcombe (£5.99, Y Lolfa) is available now.

Posted in: Cymraeg | 0 comments

Online Welsh Class 'AmeriCymraeg' New Term


By AmeriCymru, 2015-12-31

AmeriCymraeg.jpg


  AS FEATURED IN THE DAILY EXPRESS AND WESTERN MAIL


ABOUT THE CLASS


The new term will start on the week beginning June 19th, 2023. This course is offered in two-month terms. There are two class times available: a class for Beginning students and an Intermediate class.

This class is delivered in an invitation-only video conference on Google Hangouts. Materials and written discussion are on an invitation-only group here on AmeriCymru. To engage in the class, you must have an internet connection sufficient to engage in a Hangout, a gmail account, an AmeriCymru account and a headset with earphones and a microphone. It would be good to have a webcam on your computer so that other class members and the teacher can see you but this is not necessary, as long as you can see and communicate with the teacher.


Read our interview with student Susan Floyd here.

,,  

  • Tuition for the term is $70.00. Register with the PayPal button, below.
  • The course will run for eight weeks. You may join at any time and your tuition will be prorated if you have missed classes prior to enrollment. We will not refund missed classes after enrollment.
  • Materials will be posted in the course group on AmeriCymru.
  • There will be weekly publicly moderated homework.
  • You will need a Google account and an AmeriCymru account to participate.
  • You will need a headset with microphone and headphones to hear and participate in the online class.

CLASS TERM AND SCHEDULE


The new term will start on the week beginning June 19th, 2023.

Classes are one hour in duration and times will be  5 p.m. (Pacific time) for the Beginners class and 6 p.m. (Pacific time) for the Intermediate class, as per last year. Please let us know by email at americymru@gmail.com whether you are enrolling for the Beginners or Intermediate class. Use this email address also for general inquiries.


REGISTRATION


To register, click the button, below.  Every week, you will receive an invitation to join that week's Google Hangout and will log in at your class time. Homework assignments will be sent out via email.



...


Class Level

.

The classes will be conducted on Google hangouts and will be fully interactive video and voice sessions. You will need a Gmail  account to participate, this is free and only takes a minute to set up. Be sure that you have a working webcam and headset for the hangout sessions AND do not forget to send us your Gmail address ( if it is different from your AmeriCymru sign up address ) so that we can invite you. .

ABOUT THE TEACHER

John Good is well known throughout the West, South, Midwest and in his native Wales as a multi-instrumentalist, Welsh piper, singer/songwriter, composer and poet. Veteran of many Celtic festivals and concerts, including Estes Park, Chicago, San Diego and Denver, he brings the subtly different flavor of traditional Welsh music to the stage. John speaks and teaches the Welsh language ( Y Gymraeg ), is a member of the traditional band Tramor and is the president of the Welsh League of Arizona .


A message from John Good:-

Hello everyone, John Good dw i, I am Sioni Dda and will be leading the newydd spon danlli /brand-spanking new flame-colored interactive, on-line Welsh course on AmeriCymru, to be known as Ameri Cymraeg .

Let me tell you a little about myself so that we can understand each other better from the dechrau. I was born in South Wales in the Afan Valley and Welsh/Y Gymraeg and English were spoken in the house. By the time I left school, I knew less Welsh than when I started … I had little interest in a dying language , and anyway the Beatles sang in English and all of my friends spoke it. Fast forward 25 years, having moved to San Francisco, LA then Phoenix all of a sudden I realized I had robbed myself of a major part of my cultural identity and I set about re-learning Yr Hen Iaith/the Old Language so that I could talk to my aging mother in the language of her youth. I achieved that and, in the last 15 years or so, have taught a surprising number of desert dwellers and others, among other things, how to pronounce popty-ping [popty /oven--that goes--ping] or microwave.

The language is now a passion of mine and I look forward to the opportunity to pass on what I cherish: The truly healthiest dying language in the world.

Y Driniaeth/The Approach

I’ve assembled my approach to teaching from a number of sources over the years: John Albert Evans, Rhodri Jones, Heini Gruffudd, and Gareth King to name but a few, but have also assembled a fairly large dossier on how not to teach Welsh. I’ll be working from my own play book, illustrated with the borrowings from the best teachers I know. As a musician I am attracted to the “by ear” method: Language as sound, much like a melody with meaning. After all young children don’t use grammar books (although for adults they have their place), they associate repeated sounds with objects and people.

Adnoddau ar-lein/On Line Resources

We are very lucky these days that there are a myriad of on-line resources that I would have killed for when I was first looking to revive my heritage. I’ll go through these in detail later on, as they all have special strong points, but for now….

Geiriaduron/Dictionaries

http://techiaith.bangor.ac.uk/GeiriadurAcademi/?lang=en

English to Welsh only but an incredible bargain am rad ac yn ddim /for free! The hard copy is $84 from Amazon!!

http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html

The first -- to my knowledge -- on line Welsh/English/Welsh dictionary; written by a Welsh learner. There’s inspiration for you.

http://www.geiriadur.net/

Another great free dictionary, with search features I’ll tell you about later.

http://www.cysgliad.com/cysill/arlein/Default.aspx

                                                Free spell-checker/Sillafydd

Well, I hope this has sparked your interest. I got pumped up just writing it! I look forward to seeing you on Google Hangout (Also free!).

Hwyl am y tro/Bye for now, Sioni Dda/John Good.

Posted in: Cymraeg | 11 comments

Murmur - Mae Cyfweliad Gyda Menna Elfyn


By AmeriCymru, 2014-03-11


Menna Elfyn

CYMRAEG ENGLISH

In this interview John Good speaks to Menna Elfyn, an award-winning poet and playwright who writes with passion of the Welsh language and identity. She is the best known and most translated of all modern Welsh-language poets. Author of over twenty books of poetry including Aderyn Bach Mewn Llaw (1990), winner of a Welsh Arts Council Prize; the bilingual Eucalyptus: Detholiad o Gerddi / Selected Poems 1978-1994 from Gomer and her previous collection, Cell Angel (1996) from Bloodaxe, children’s novels and educational books, numerous stage, radio and television plays, she has also written libretti for US and UK composers.

...


...


John: Fel person sy wedi dysgu''R Gymraeg yn America ar ôl gadael Cymru yn y saithdegau, mae diddordeb mawr ‘da fi mewn profiadau pobl Cymraeg eu hiaith Tramor. Fel awdures, a ydych chi byth wedi’ch synnu gan y brwdfrydedd a chroeso a gafodd eich gwaith ar draws Clawdd Offa oddi wrth bobl Ddi-Gymraeg?

Menna: Wel ydw mewn gwirionedd. Wnes i erioed freuddwydio y byddai fy ngwaith yn croesi dros Glawdd Offa na chyrraedd America, Tsieina, Sbaen, Norwy-- a gwledydd eraill ond mae''n deimlad hyfryd am fod hynny''n golygu bod cynulleidfaoedd yn dod i wybod fy mod yn sgwennu yn y Gymraeg yn gyntaf ond mae fy ngwelediad wrth gwrs yn ehangach na hynny. Rwy''n gweld y byd trwy ''r Gymraeg a does dim testun na ellid ysgrifennu amdano yn yr iaith honno. Dyna i chi Harlem yn y Nos, cerdd a luniais pan oeddwn yn ysgrifennu libreto ar gyfer Cerddorfa Ffilharmonic Efrog Newydd ac yn gorfod byw yno am wythnosau ar y tro , dros gyfnod o flwyddyn a hanner ac yn gorfod mynd i gwrdd a''r cyfansoddwr a oedd yn byw yn Washington Heights... a dychwelyd wedyn trwy Harlem.

Un enghraifft efallai ond rwy''n dal i ddweud wrth bawb pan af ar Wyliau Llenyddol -- mod i''n ysgrifennu ar gyfer y byd i gyd felly dyw e ddim yn syndod mewn gwirionedd.. Ers Tachwedd 2013, rwy wedi darllen yn Tsieina, Hong Kong, Vancouver, Seattle, St Andrews yr Alban a''r wythnos nesa'' yn Grasmere, cartre Wordsworth , yna yng Nghernyw ddiwedd Mai. Felly rwy wastad ar grwydr a wastad yn dechrau darlleniadau gan ddarllen yn Gymraeg ac yna''n darllen rhannau rhwng cerddi, fel bod y Gymraeg yn toddi''n naturiol i''r cyfieithiadau Saesneg. Fy ngherdd gynta'' bob tro yw '' Cusan Hances'' ar ol i RSThomas ( a wnaeth gyfieithu dwy o''m cerddi gyda llaw) ddweud bod cerdd mewn cyfieithiad fel cusanu trwy hances! Gwell hynny na pheidio a chusanu o gwbl!

Murmur by Menna Elfyn John: Darllenais eich llyfr dwyieithog MURMUR yn ddiweddar. Fyddech chi amlinellu ac egluro inni eich dull o drin cyfieithu gan awduron eraill a chi’ch hunan?

Menna: O''r cychwyn, pan oedd galw i mi ddarllen mewn mannau fel Sbaen a ''r Iwerddon roeddwn wedi pwyso ar gyfeillion o feirdd-- Nigel Jenkins, Gillian Clarke a''r un sydd yn ffrind gorau i mi Elin ap Hywel, ac eraill er mwyn cael y cyfieithiadau gorau posib. Roedd yn rhaid i mi wneud ambell un fy hun ond roedd Tony Conran yn dweud '' you are not worthy of the poet!'' achos roedd e''n credu fy mod yn mynd ar goll wrth drosi a ddim yn ffyddlon i''r gerdd . Ond pam ddylwn i? A dyna''r drwg wrth gwrs o wneud y cyfieithiad eich hun sef eich bod yn mynd i rywle arall yn lle glynu at y gwaith mewn llaw. Dyna pam mae cyfieithu yn gelfyddyd o''i wneud yn iawn. Un gorchymyn oedd gen i -- i''r cyfieithwyr - gwnewch y gerdd yn well -- trowch hi''n gerdd annibynnol ond gydag ambell gysgod o''r Gymraeg. Rhaid iddi fyw heb ei chwaer fel petai.

Mae cyfieithu i ieithoedd eraill yn fwy o broblem wrth gwrs ac mae''n cymryd amser. Mae cyfrol mewn Hindi ar waith, cyfrol Arabeg, cyfrol Gatalaneg, i enwi dim ond rhai. Lwc pur yw cael rhywun fel yn achos yr Arabeg i ddod atoch ar ddiwedd darlleniad a dweud ei bod yn mynnu fy nghael yn ei mamiaith hi sef Arabeg. Fel yna mae''r gwaith yn hedfan mae''n debyg. Bydd ambell wall wrth gwrs mewn ambell lyfr er enghraifft fel wnaeth cyfieithydd o Tsieieg gyfieithu '' Drws yn Epynt'' yn y llyfr o''m gwaith yn yr iaith honno yn '' Drws yn yr Aifft -- Door in Egypt! Wrth gwrs doedden nhw''n gwybod dim am Epynt yng Nghymru ac am y bobl yn cael ei hel o''r darn hwnnw o Bowys er mwyn i''r milwyr ymarfer yno.

Ond, erbyn meddwl roedd ysbryd newydd rhyfedd i''r gerdd ar ei newydd wedd ac roedd yn gweithio gyda phob dim sy''n digwydd yn y wlad drist honno y dyddiau yma. Yn Murmur mae dau o''m cyfieithwyr yn rhai newydd-- Damian Walford Davies ac rwy''n ceisio annog Paul Henry i wneud mwy gan ei fod yn fardd mor wych ac yn siarad Cymraeg. Fe gollais fy nghyfieithydd cyntaf eleni, gan y bu Nigel Jenkins farw a fe a fi oedd yn cyfieithu ein gilydd ar y dechrau nol yn yr wythdegau. Colled bersonol i mi a cholled fwy i''w deulu a Chymru. Ond dyma fi wedi crwydro oddi ar y cwestiwn. Nigel ddarllenodd y cerddi mewn cyfieithiad yn un o''m lansiadau yn Abertawe gan ei fod yn ffrind mor agos ac annwyl i mi .

John: Unwaith, mae athro Cymraeg wedi fy ngofyn i a allwn i siarad Cymraeg. “Dim ond Cymraeg ‘Cwmafan’ oedd f’ateb. Yn syth ymlaen , mae fe wedi dweud rhywbeth fel “Hynny yw Cymraeg!” Beth ydy’ch meddyliau chi ar y pwysigrwydd o dafodieithoedd a sut all pobl gyffredin, lenyddol a chymdeithasau fel AmeriCymru camu i’r adwy’u hachub nhw?

Menna: Rwy''n dotio ar dafodieithoedd ac yn casglu pob dim a medraf er mwyn eu defnyddio rywbryd mewn cerddi. Mae''r bardd yn wiwer wedi''r cyfan a''i chnau yw geiriau. Ie, dylid ar bob cyfri eu casglu, eu harfer, eu cadw a llunio geiriau newydd sbon. Er enghraifft mae''r gair '' selfie'' wedi ei droi erbyn hyn yn hunlun sy;n reit dwt dwi''n meddwl.

John: Bob hyn a hyn ac weithiau yn aml, ceir yr ysbryd neu gysgod o Gynghanedd yn eich gwaith chi. Ydy harmoni a gwrthbwynt y geiriau yn gymar cyfartal i ystyr yn y cyfansoddiad?

Menna: Pan oeddwn i''n ysgrifennu yn chwedegau, doedd gen i ddim amser i ddysgu''r rheolau a cheisio ffrwyno fy ngwaith -- roedd gen i bethau own i am eu dweud heb hualau ''r gynghanedd. A hynny er bod fy nhad yn cynganeddu ond roedd mynd ato a dangos ambell linell o gynghanedd ac yntau''n dweud bod yna gam acennu yn ddigon i mi roi''r gorau iddi. Ond mae''r gynghanedd fel un haen yn hyfryd -- ac er fy mod erbyn hyn yn medru cynganeddu a gwneud ambell englyn neu gywydd digon teidi, dwi ddim yn meddwl ei fod yn fy nghyfffroi yn gymaint a cherddi rhydd.

Dwedodd Robert Hass.. I love the line, following the line - I''ve never written a sonnet in my life''. Wel dwi wedi ysgrifennu mewn ffurf pan yw''n gweithio''n ddiymdrech ond rwy''n dwlu ar farddoniaeth Americanaidd - mae dull y beirdd mor eang , mor ddihualau a dyna dwi''n treio ei wneud yn fy ngwaith innau. Rhaid cael yr angerdd cychwynnol a bwrw iddi wedyn ac os daw llinell o gynghanedd i''r golwg neu dan yr wyneb, wel gorau oll, ond nid cychwyn yn y fan honno dwi''n ei wneud. Rwy''n ei weld fel nofio mewn pwll nofio -- i fyny ac i lawr, cadw o fewn eich ffiniau gyda''r nofwyr eraill tra bod y wers rydd yn gadael i mi nofio yn y mor, heb wybod ei ddyfnder , ac heb wybod ei berygl ac yn gallu mynd o un man i''r llall heb i neb fy rhwystro -- heblaw fi fy hunan wrth gwrs.

Menna Elfyn yn darllen '' Handkerchief Kiss '' / '' Cusan Hances '' a cherddi eraill YouTube



John: Ydych chi’n hoff o ddedleins? Fe ddywed rhai’u bod nhw yn symbylu ‘r dychymyg; eraill sy’n dweud y gwrthwyneb. Hefyd, beth ydy’ch meddyliau chi am gomisiynau?

Menna: Wel rwy''n byw ar gomisiynau erbyn hyn boed yn ddramau radio neu''n gerddi neu''n ddrama lwyfan. Ond gan fy mod yn ysgrifennu bod dydd mae''r bardd wastad a''i lygaid yn agored am y gerdd nesa'' . A''r annisgwyl sydd wastad wedi fy nghyffroi.

Fe ofynnwyd i mi lunio dwy linell am Catrin Glyndwr i gerflun a godwyd iddi yn Llundain ac mi luniais--

Godre twr adre nid aeth
[At the tower end –far away from home
Aria ei rhyw yw hiraeth
[Longing is a woman’s song]

Dyna un fan lle mae''r gynghanedd yn help i greu rhywbeth byr , twt. teimladwy gobeithio. Ond ar ol ei llunio roedd Catrin Glyndwr yn fy meddwl a bob hyn a hyn roeddwn yn meddwl am ei sefyllfa yno gyda''i phlant yn Nhwr Llundain ac yn tristau wrth feddwl am hynny. Ac er i''r cerddi gymryd deg mlynedd mewn gwirionedd - dyna oedd y cerddi rown i am eu gosod yn gynta'' yn Murmur. Mae''r gyfrol yn llawn Murmuron wrth gwrs ond mae''r cerddi hyn yn mynegi rhywbeth dwfn am fod mewn gwlad estron ar glo, heb eich mamiaith.

John: Mae Cymru a’r Cymry yn rhan annatod o’ch gwaith llenyddol chi. Ydy hi’n wahanol ysgrifennu oddi cartref? Oes hoff le gweithio ‘da chi?

Menna: Pan dwi adre ,dyna pryd y caf gyfle i feddwl, i ystyried popeth. Pan mae rhywun ar daith mae yna gymaint o bethau i''w gweld, ac i fod yn ofidus fel checo bagiau, cloi drysau stafelloedd yn y gwesty ac ati. Ond dyna pryd rwy''n rhydd sef gartre a hefyd lle mae''r Gymraeg i''w chlywed ar y stryd. Mae Llandysul yn dal yn un o''r pentrefi mwyaf Cymraeg yng Nghymru a chaf foddhad o fynd i bob siop a medru siarad Cymraeg. Ond rwy''n anniddig hefyd yn aml gyda'' mi fy hun a''m cyd- Gymru.

Gwnes ymgyrch bersonol yn ddiweddar o ddweud diolch nid unwaith wrth adael siopau mewn ardaloedd Cymraeg a mannau lle doedd y person ddim yn siarad Cymraeg gan ddweud diolch rhyw deirgwaith -- yn y gobaith y byddent efallai yn troi i''w ddweud yn Gymraeg. Amlach na pheidio dim ond ''thank you'' a gawn sy''n reit warthus wrth feddwl faint o weithiau y mae''n rhaid gen i -- iddyn nhw glywed y gair. A dyna''r gair cyntaf a ddysgaf o fynd i wlad dramor. Os na allwn fynd ymhellach na '' diolch'' yna... wel, mae''n well peidio a dechrau''r sgwrs honno!

John: Ers tro byd, mae beirdd Cymreig wedi bod crefftwr di-ofn, hyd yn oed gyda’r ddyletswydd o siarad am gamwedd. Rhowch inni eich barn ar wleidyddiaeth mewn celfyddyd, os gwelwch chi’n dda?

Menna: Rwy''n gweld y ddeubeth weithiau yn dod at ei gilydd. Fe wnaeth Nigel Jenkins a finnau ddechrau ymgyrch gwrth -apartheid yn yr wythdegau i beidio a gadael i''n gwaith gael ei ddangos gydag arddangosfa o Dde Affrica. Mae sefyll dros annhegwch wastad wedi bod yn rhan o waith bob dydd beirdd OND pan rydych yn ysgrifennu, mae''r gwaith yn galw amdanoch i fod yn ffyddlon i''r grefft a bydd pob mathau o deimladau, rhagfarnau, yn dod i''r wyneb. Felly, dwi ddim bellach yn ysgrifennu gwaith didactig na gwaith ffeminyddol gwleidyddol ei naws. Efallai bod hynny yn siom i rai oedd yn fy ngweld fel lladmerydd i achosion arbennig.

Ar ol dweud hyn i gyd, rwy''n gyffrous bod PEN Cymru ar fin ei lansio gan i mi ddechrau ymchwilio i''r posibiliad rhyw ddegawd yn ol ond roedd y teithiau yn ei wneud yn amhosib i mi ymrwymo i''w sefydlu. Rwy mor falch y bydd yn realiti cyn bo hir. Rhaid bod yn wleidyddol fel dinesydd wrth gwrs ac rwy''n cefnogi llawer o achosion gwleidyddol- rhy niferus i''w nodi yma.

John: Unrhyw beth diddorol ar y gweill? Unrhyw ddymuniad heb ei gwireddu?

Menna: Mae cyfrol am '' Gwsg'' i''w gyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn i Wasg Gomer ar gyfer ei gyhoeddi yn 2015. Bu ar waith ac ar stop oherwydd gweithiau eraill. Bydd cynhyrchiad theatr hefyd gyda Theatr Clwyd a hefyd mae '' Gair ar Gnawd'' sef oratorio a luniodd Pwyll ap Sion a finne yn mynd ar daith yn 2015 gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru ( cafwyd dau berfformiad yn 2013) ac rydym wedi ychwanegu ato cyn iddo fynd ar daith eto. Rwy am gyfieithu mwy o farddoniaeth Gymraeg i''r Saesneg fel yn Murmur - sydd a 3 cerdd o waith Waldo yno.

John: Oes unrhyw negeseuon terfynol ‘da ti am yr aelodau a darllenwyr AmeriCymru?

Menna: Rwy wrth fy modd gyda''r wefan hon ac yn llawenhau ei bod hi mor fywiog -- dylem ar bob cyfri ei hanwesu a diolch i Ceri Shaw amdani. Ers i mi ymweld gynta'' a''r Unol Daleithiau yn 1997 rwy wedi dychwelyd i ddarllen neu ymweld -- bob blwyddyn bron iawn. Rwy wrth fy modd yno felly os ydych am fy ngwahodd i roi darlleniad i chi -- byddwn wrth fy modd yn dod atoch. Hwyl am y tro a diolch am y cyfle i gael cyfweliad ar AmeriCymru.

Interview by John Good


Posted in: Cymraeg | 0 comments




Nadolig Llawen




ACXmas2016.jpg
Many thanks to John Good for the following list of Welsh Christmas words and phrases. John wishes it to be known that the list reproduced below is something that he found on the internet thousands of years ago and since he can no longer remember where, he is unable to attribute it. Check out John's recording of the pronunciations in the sound file embedded below. While you're here check out John's other excellent musical and lyrical contributions to the site. You will find his AmeriCymru profile page here: John Good on AmeriCymru

...



Nadolig  - Christmas n.m.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda - Merry Christmas and a Happy New Year

Nadolig llawen - Merry Christmas

Noswyl Nadolig - Christmas Eve

adeg y Nadolig - Christmas time , Yule-tide , at Christmas

bwrw'r Nadolig - to spend Christmas

carden Nadolig - Christmas card

carol Nadolig - Christmas carol

dydd Nadolig - Christmas -day

goleuadau Nadolig - Christmas illuminations

mae'r Nadolig ar ein gwarthaf - Christmas is just around the corner

mae'r anrhegion i gyd dan y goeden Nadolig - all the presents are under the Christmas tree

nos Nadolig - Christmas Eve

o gwmpas y Nadolig - about Christmas time

rhodd Nadolig - Christmas present

Siôn Corn - Santa Claus

corn simne - chimney

Blwyddyn o eira, blwyddyn o lawndra - A year of snow, a year of plenty

Chwedl a gynydda fel caseg eira - A tale increases like a rolling snowball

Mor wyn â'r eira - As white as snow

aderyn yr eira - starling n.

blodyn eira - snowdrop (Galanthus nivalis)

bwrw eira - to snow

cwymp eira - avalanche

disgwylir eira trwm yn y gogledd heno - heavy snow is expected in the north tonight

mae eira ar y ffordd - medden nhw - there's snow on the way - so they say

mae'n bwrw eira - it's snowing

pêl eira - snowball

anrheg - present n.f. (anrhegion) , gift n.f. (anrhegion) , gratuity n.f. (anrhegion)

anrhegu - to present v. anrheg- , to give v. anrheg- , to bestow v. anrheg-

dyma anrheg ddelfrydol i'r plant - here's an ideal present for the children

mae'r anrhegion i gyd dan y goeden Nadolig - all the presents are under the Christmas tree

Iesu - Jesus n.m.f.

eglwys - church n.f.

service - oedfa n.f. (oedfaon)

carol plygain - matin song

plygain - cock-crow n.m. (plygeiniau) , matins n.m. (plygeiniau) , dawn n.m. (plygeiniau)

carol Nadolig - Christmas carol

Yule-tide - adeg y Nadolig

gwyl - holiday n.m.f. (gwyliau) , festival n.m.f. (gwyliau) , feast n.m.f. (gwyliau)

gwyliau - holidays n. , vacation n.



Tawel Nos



Tawel nos dros y byd,
Sanctaidd nos gylch y crud;
Gwylion dirion yr oedd addfwyn ddau,
Faban Duw gydar llygaid bach cau,
Iesu Twysog ein hedd.

Sanctaidd nos gydai ser;
Mante
ll fwyn,cariad per

Mintair bugail yn dod i fwynhau
Baban Duw gydar llygaid bach cau,
Iesu Twysog ein hedd.

Tawel nos, Duw ei Hun
Ar y llawr gyda dyn;
Cerddir engyl, ar Nen trugarhau;
Baban Duw gydar llygaid bach cau,
Iesu,Twysog ein hedd.



Mae Llaw y Gaeaf (Jenkin Morgan Edwards, 1933)



Mae llaw y gaeaf oer
Yn cloi pob nant a llyn,
A bysedd bach y coed
I gyd mewn menyg gwyn;
Ar adar wrth y drws
Yn printior eiran dlws.

Nid oes mewn llwyn na gardd
Un nodyn bach o gan,
A saif y coed yn syth
Mewn gwisg o berlau glan;
Daw dawns yr haul cyn hir
Iw troi yn arian clir.

Caraf y gaeaf byth,
Er oernii awel fain,
Am ddod a gynau gwyn
Ir coed ar llwyni drain;
Ar adar wrth y drws
Yn printior eiran dlws.



menig: gloves
oerni: [m.](n.) cold, coldness, chillness

Posted in: Cymraeg | 1 comments