AmeriCymru


 

Stats

Blogs: 393
events: 47
youtube videos: 122
images: 57
Files: 4
FAQs: 4
Invitations: 1
Item Bundles: 1
Groups: 2
videos: 2

Murmur - Mae Cyfweliad Gyda Menna Elfyn

user image 2014-03-11
By: AmeriCymru
Posted in: Cymraeg

Menna Elfyn

CYMRAEG ENGLISH

In this interview John Good speaks to Menna Elfyn, an award-winning poet and playwright who writes with passion of the Welsh language and identity. She is the best known and most translated of all modern Welsh-language poets. Author of over twenty books of poetry including Aderyn Bach Mewn Llaw (1990), winner of a Welsh Arts Council Prize; the bilingual Eucalyptus: Detholiad o Gerddi / Selected Poems 1978-1994 from Gomer and her previous collection, Cell Angel (1996) from Bloodaxe, children’s novels and educational books, numerous stage, radio and television plays, she has also written libretti for US and UK composers.

...

...

John: Fel person sy wedi dysgu''R Gymraeg yn America ar ôl gadael Cymru yn y saithdegau, mae diddordeb mawr ‘da fi mewn profiadau pobl Cymraeg eu hiaith Tramor. Fel awdures, a ydych chi byth wedi’ch synnu gan y brwdfrydedd a chroeso a gafodd eich gwaith ar draws Clawdd Offa oddi wrth bobl Ddi-Gymraeg?

Menna: Wel ydw mewn gwirionedd. Wnes i erioed freuddwydio y byddai fy ngwaith yn croesi dros Glawdd Offa na chyrraedd America, Tsieina, Sbaen, Norwy-- a gwledydd eraill ond mae''n deimlad hyfryd am fod hynny''n golygu bod cynulleidfaoedd yn dod i wybod fy mod yn sgwennu yn y Gymraeg yn gyntaf ond mae fy ngwelediad wrth gwrs yn ehangach na hynny. Rwy''n gweld y byd trwy ''r Gymraeg a does dim testun na ellid ysgrifennu amdano yn yr iaith honno. Dyna i chi Harlem yn y Nos, cerdd a luniais pan oeddwn yn ysgrifennu libreto ar gyfer Cerddorfa Ffilharmonic Efrog Newydd ac yn gorfod byw yno am wythnosau ar y tro , dros gyfnod o flwyddyn a hanner ac yn gorfod mynd i gwrdd a''r cyfansoddwr a oedd yn byw yn Washington Heights... a dychwelyd wedyn trwy Harlem.

Un enghraifft efallai ond rwy''n dal i ddweud wrth bawb pan af ar Wyliau Llenyddol -- mod i''n ysgrifennu ar gyfer y byd i gyd felly dyw e ddim yn syndod mewn gwirionedd.. Ers Tachwedd 2013, rwy wedi darllen yn Tsieina, Hong Kong, Vancouver, Seattle, St Andrews yr Alban a''r wythnos nesa'' yn Grasmere, cartre Wordsworth , yna yng Nghernyw ddiwedd Mai. Felly rwy wastad ar grwydr a wastad yn dechrau darlleniadau gan ddarllen yn Gymraeg ac yna''n darllen rhannau rhwng cerddi, fel bod y Gymraeg yn toddi''n naturiol i''r cyfieithiadau Saesneg. Fy ngherdd gynta'' bob tro yw '' Cusan Hances'' ar ol i RSThomas ( a wnaeth gyfieithu dwy o''m cerddi gyda llaw) ddweud bod cerdd mewn cyfieithiad fel cusanu trwy hances! Gwell hynny na pheidio a chusanu o gwbl!

Murmur by Menna Elfyn John: Darllenais eich llyfr dwyieithog MURMUR yn ddiweddar. Fyddech chi amlinellu ac egluro inni eich dull o drin cyfieithu gan awduron eraill a chi’ch hunan?

Menna: O''r cychwyn, pan oedd galw i mi ddarllen mewn mannau fel Sbaen a ''r Iwerddon roeddwn wedi pwyso ar gyfeillion o feirdd-- Nigel Jenkins, Gillian Clarke a''r un sydd yn ffrind gorau i mi Elin ap Hywel, ac eraill er mwyn cael y cyfieithiadau gorau posib. Roedd yn rhaid i mi wneud ambell un fy hun ond roedd Tony Conran yn dweud '' you are not worthy of the poet!'' achos roedd e''n credu fy mod yn mynd ar goll wrth drosi a ddim yn ffyddlon i''r gerdd . Ond pam ddylwn i? A dyna''r drwg wrth gwrs o wneud y cyfieithiad eich hun sef eich bod yn mynd i rywle arall yn lle glynu at y gwaith mewn llaw. Dyna pam mae cyfieithu yn gelfyddyd o''i wneud yn iawn. Un gorchymyn oedd gen i -- i''r cyfieithwyr - gwnewch y gerdd yn well -- trowch hi''n gerdd annibynnol ond gydag ambell gysgod o''r Gymraeg. Rhaid iddi fyw heb ei chwaer fel petai.

Mae cyfieithu i ieithoedd eraill yn fwy o broblem wrth gwrs ac mae''n cymryd amser. Mae cyfrol mewn Hindi ar waith, cyfrol Arabeg, cyfrol Gatalaneg, i enwi dim ond rhai. Lwc pur yw cael rhywun fel yn achos yr Arabeg i ddod atoch ar ddiwedd darlleniad a dweud ei bod yn mynnu fy nghael yn ei mamiaith hi sef Arabeg. Fel yna mae''r gwaith yn hedfan mae''n debyg. Bydd ambell wall wrth gwrs mewn ambell lyfr er enghraifft fel wnaeth cyfieithydd o Tsieieg gyfieithu '' Drws yn Epynt'' yn y llyfr o''m gwaith yn yr iaith honno yn '' Drws yn yr Aifft -- Door in Egypt! Wrth gwrs doedden nhw''n gwybod dim am Epynt yng Nghymru ac am y bobl yn cael ei hel o''r darn hwnnw o Bowys er mwyn i''r milwyr ymarfer yno.

Ond, erbyn meddwl roedd ysbryd newydd rhyfedd i''r gerdd ar ei newydd wedd ac roedd yn gweithio gyda phob dim sy''n digwydd yn y wlad drist honno y dyddiau yma. Yn Murmur mae dau o''m cyfieithwyr yn rhai newydd-- Damian Walford Davies ac rwy''n ceisio annog Paul Henry i wneud mwy gan ei fod yn fardd mor wych ac yn siarad Cymraeg. Fe gollais fy nghyfieithydd cyntaf eleni, gan y bu Nigel Jenkins farw a fe a fi oedd yn cyfieithu ein gilydd ar y dechrau nol yn yr wythdegau. Colled bersonol i mi a cholled fwy i''w deulu a Chymru. Ond dyma fi wedi crwydro oddi ar y cwestiwn. Nigel ddarllenodd y cerddi mewn cyfieithiad yn un o''m lansiadau yn Abertawe gan ei fod yn ffrind mor agos ac annwyl i mi .

John: Unwaith, mae athro Cymraeg wedi fy ngofyn i a allwn i siarad Cymraeg. “Dim ond Cymraeg ‘Cwmafan’ oedd f’ateb. Yn syth ymlaen , mae fe wedi dweud rhywbeth fel “Hynny yw Cymraeg!” Beth ydy’ch meddyliau chi ar y pwysigrwydd o dafodieithoedd a sut all pobl gyffredin, lenyddol a chymdeithasau fel AmeriCymru camu i’r adwy’u hachub nhw?

Menna: Rwy''n dotio ar dafodieithoedd ac yn casglu pob dim a medraf er mwyn eu defnyddio rywbryd mewn cerddi. Mae''r bardd yn wiwer wedi''r cyfan a''i chnau yw geiriau. Ie, dylid ar bob cyfri eu casglu, eu harfer, eu cadw a llunio geiriau newydd sbon. Er enghraifft mae''r gair '' selfie'' wedi ei droi erbyn hyn yn hunlun sy;n reit dwt dwi''n meddwl.

John: Bob hyn a hyn ac weithiau yn aml, ceir yr ysbryd neu gysgod o Gynghanedd yn eich gwaith chi. Ydy harmoni a gwrthbwynt y geiriau yn gymar cyfartal i ystyr yn y cyfansoddiad?

Menna: Pan oeddwn i''n ysgrifennu yn chwedegau, doedd gen i ddim amser i ddysgu''r rheolau a cheisio ffrwyno fy ngwaith -- roedd gen i bethau own i am eu dweud heb hualau ''r gynghanedd. A hynny er bod fy nhad yn cynganeddu ond roedd mynd ato a dangos ambell linell o gynghanedd ac yntau''n dweud bod yna gam acennu yn ddigon i mi roi''r gorau iddi. Ond mae''r gynghanedd fel un haen yn hyfryd -- ac er fy mod erbyn hyn yn medru cynganeddu a gwneud ambell englyn neu gywydd digon teidi, dwi ddim yn meddwl ei fod yn fy nghyfffroi yn gymaint a cherddi rhydd.

Dwedodd Robert Hass.. I love the line, following the line - I''ve never written a sonnet in my life''. Wel dwi wedi ysgrifennu mewn ffurf pan yw''n gweithio''n ddiymdrech ond rwy''n dwlu ar farddoniaeth Americanaidd - mae dull y beirdd mor eang , mor ddihualau a dyna dwi''n treio ei wneud yn fy ngwaith innau. Rhaid cael yr angerdd cychwynnol a bwrw iddi wedyn ac os daw llinell o gynghanedd i''r golwg neu dan yr wyneb, wel gorau oll, ond nid cychwyn yn y fan honno dwi''n ei wneud. Rwy''n ei weld fel nofio mewn pwll nofio -- i fyny ac i lawr, cadw o fewn eich ffiniau gyda''r nofwyr eraill tra bod y wers rydd yn gadael i mi nofio yn y mor, heb wybod ei ddyfnder , ac heb wybod ei berygl ac yn gallu mynd o un man i''r llall heb i neb fy rhwystro -- heblaw fi fy hunan wrth gwrs.

Menna Elfyn yn darllen '' Handkerchief Kiss '' / '' Cusan Hances '' a cherddi eraill YouTube


John: Ydych chi’n hoff o ddedleins? Fe ddywed rhai’u bod nhw yn symbylu ‘r dychymyg; eraill sy’n dweud y gwrthwyneb. Hefyd, beth ydy’ch meddyliau chi am gomisiynau?

Menna: Wel rwy''n byw ar gomisiynau erbyn hyn boed yn ddramau radio neu''n gerddi neu''n ddrama lwyfan. Ond gan fy mod yn ysgrifennu bod dydd mae''r bardd wastad a''i lygaid yn agored am y gerdd nesa'' . A''r annisgwyl sydd wastad wedi fy nghyffroi.

Fe ofynnwyd i mi lunio dwy linell am Catrin Glyndwr i gerflun a godwyd iddi yn Llundain ac mi luniais--

Godre twr adre nid aeth
[At the tower end –far away from home
Aria ei rhyw yw hiraeth
[Longing is a woman’s song]

Dyna un fan lle mae''r gynghanedd yn help i greu rhywbeth byr , twt. teimladwy gobeithio. Ond ar ol ei llunio roedd Catrin Glyndwr yn fy meddwl a bob hyn a hyn roeddwn yn meddwl am ei sefyllfa yno gyda''i phlant yn Nhwr Llundain ac yn tristau wrth feddwl am hynny. Ac er i''r cerddi gymryd deg mlynedd mewn gwirionedd - dyna oedd y cerddi rown i am eu gosod yn gynta'' yn Murmur. Mae''r gyfrol yn llawn Murmuron wrth gwrs ond mae''r cerddi hyn yn mynegi rhywbeth dwfn am fod mewn gwlad estron ar glo, heb eich mamiaith.

John: Mae Cymru a’r Cymry yn rhan annatod o’ch gwaith llenyddol chi. Ydy hi’n wahanol ysgrifennu oddi cartref? Oes hoff le gweithio ‘da chi?

Menna: Pan dwi adre ,dyna pryd y caf gyfle i feddwl, i ystyried popeth. Pan mae rhywun ar daith mae yna gymaint o bethau i''w gweld, ac i fod yn ofidus fel checo bagiau, cloi drysau stafelloedd yn y gwesty ac ati. Ond dyna pryd rwy''n rhydd sef gartre a hefyd lle mae''r Gymraeg i''w chlywed ar y stryd. Mae Llandysul yn dal yn un o''r pentrefi mwyaf Cymraeg yng Nghymru a chaf foddhad o fynd i bob siop a medru siarad Cymraeg. Ond rwy''n anniddig hefyd yn aml gyda'' mi fy hun a''m cyd- Gymru.

Gwnes ymgyrch bersonol yn ddiweddar o ddweud diolch nid unwaith wrth adael siopau mewn ardaloedd Cymraeg a mannau lle doedd y person ddim yn siarad Cymraeg gan ddweud diolch rhyw deirgwaith -- yn y gobaith y byddent efallai yn troi i''w ddweud yn Gymraeg. Amlach na pheidio dim ond ''thank you'' a gawn sy''n reit warthus wrth feddwl faint o weithiau y mae''n rhaid gen i -- iddyn nhw glywed y gair. A dyna''r gair cyntaf a ddysgaf o fynd i wlad dramor. Os na allwn fynd ymhellach na '' diolch'' yna... wel, mae''n well peidio a dechrau''r sgwrs honno!

John: Ers tro byd, mae beirdd Cymreig wedi bod crefftwr di-ofn, hyd yn oed gyda’r ddyletswydd o siarad am gamwedd. Rhowch inni eich barn ar wleidyddiaeth mewn celfyddyd, os gwelwch chi’n dda?

Menna: Rwy''n gweld y ddeubeth weithiau yn dod at ei gilydd. Fe wnaeth Nigel Jenkins a finnau ddechrau ymgyrch gwrth -apartheid yn yr wythdegau i beidio a gadael i''n gwaith gael ei ddangos gydag arddangosfa o Dde Affrica. Mae sefyll dros annhegwch wastad wedi bod yn rhan o waith bob dydd beirdd OND pan rydych yn ysgrifennu, mae''r gwaith yn galw amdanoch i fod yn ffyddlon i''r grefft a bydd pob mathau o deimladau, rhagfarnau, yn dod i''r wyneb. Felly, dwi ddim bellach yn ysgrifennu gwaith didactig na gwaith ffeminyddol gwleidyddol ei naws. Efallai bod hynny yn siom i rai oedd yn fy ngweld fel lladmerydd i achosion arbennig.

Ar ol dweud hyn i gyd, rwy''n gyffrous bod PEN Cymru ar fin ei lansio gan i mi ddechrau ymchwilio i''r posibiliad rhyw ddegawd yn ol ond roedd y teithiau yn ei wneud yn amhosib i mi ymrwymo i''w sefydlu. Rwy mor falch y bydd yn realiti cyn bo hir. Rhaid bod yn wleidyddol fel dinesydd wrth gwrs ac rwy''n cefnogi llawer o achosion gwleidyddol- rhy niferus i''w nodi yma.

John: Unrhyw beth diddorol ar y gweill? Unrhyw ddymuniad heb ei gwireddu?

Menna: Mae cyfrol am '' Gwsg'' i''w gyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn i Wasg Gomer ar gyfer ei gyhoeddi yn 2015. Bu ar waith ac ar stop oherwydd gweithiau eraill. Bydd cynhyrchiad theatr hefyd gyda Theatr Clwyd a hefyd mae '' Gair ar Gnawd'' sef oratorio a luniodd Pwyll ap Sion a finne yn mynd ar daith yn 2015 gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru ( cafwyd dau berfformiad yn 2013) ac rydym wedi ychwanegu ato cyn iddo fynd ar daith eto. Rwy am gyfieithu mwy o farddoniaeth Gymraeg i''r Saesneg fel yn Murmur - sydd a 3 cerdd o waith Waldo yno.

John: Oes unrhyw negeseuon terfynol ‘da ti am yr aelodau a darllenwyr AmeriCymru?

Menna: Rwy wrth fy modd gyda''r wefan hon ac yn llawenhau ei bod hi mor fywiog -- dylem ar bob cyfri ei hanwesu a diolch i Ceri Shaw amdani. Ers i mi ymweld gynta'' a''r Unol Daleithiau yn 1997 rwy wedi dychwelyd i ddarllen neu ymweld -- bob blwyddyn bron iawn. Rwy wrth fy modd yno felly os ydych am fy ngwahodd i roi darlleniad i chi -- byddwn wrth fy modd yn dod atoch. Hwyl am y tro a diolch am y cyfle i gael cyfweliad ar AmeriCymru.

Interview by John Good