AmeriCymru


 

Stats

Blogs: 393
events: 47
youtube videos: 122
images: 57
Files: 4
FAQs: 4
Invitations: 1
Item Bundles: 1
Groups: 2
videos: 2

CYHOEDDI ENILLWYR: GWOBRAU’R ACADEMI BRYDEINIG YNG NGHYMRU

user image 2015-11-26
By: AmeriCymru
Posted in: events

SAESNEG | MWY O LUNIAU YMA



James Dean Bradfield


Set Fire to the Stars Jack to a King a gynhyrchwyd yn Abertawe, yn ennill tair Gwobr yr un

Richard Harrington a Rhian Morgan yn ennill y Gwobrau ar gyfer Actor ac Actores

Adam Price a Streic y Glowyr yn ennill y Wobr ar gyfer Cyfres Ffeithiol a Gwobr Gwyn Alf Williams

Menna Richards OBE yn derbyn BAFTA ar gyfer Cyfraniad Arbennig i Deledu

Cyflwyno Gwobr Siân Phillips i Euros Lyn

Caerdydd, 27 Medi 2015: Mae’r Academi Celfyddydau Ffilm a Theledu Brydeinig yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi enillwyr 24ain Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, gan anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym myd ffilmiau a theledu yng Nghymru. Cyflwynwyd y seremoni gan Huw Stephens yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Roedd cyflwynwyr y gwobrau’n cynnwys James Dean Bradfield (Manic Street Preachers), Lee Mead (Casualty), Craig Roberts (Just Jim, Submarine), Kimberley Nixon (Fresh Meat) ac Alexander Vlahos (Merlin, The Indian Doctor), a chafwyd perfformiadau gan Amy Wadge ac Only Men Aloud.

Enillodd Set Fire to the Stars dair Gwobr yr Academi Brydeinig yng Nghymru, ar gyfer Coluro a Gwallt (Andrea Dowdall-Goddard), Dylunio Cynhyrchiad (Edward Thomas) a Cherddoriaeth Wreiddiol (Gruff Rhys).

Enillodd Jack to a King dair Gwobr hefyd, ar gyfer Cyfarwyddwr Ffeithiol (Marc Evans), Sain (Bang Post Production) a Golygu (John Richards).

Enillodd A Poet in New York ddwy Wobr ar y noson, ar gyfer Ffilm Nodwedd/Teledu (Griff Rhys Jones) ac Effeithiau Arbennig a Gweledol (Bait Studios). Enillodd Da Vinci’s Demons ddwy Wobr hefyd, ar gyfer Dylunio Gwisgoedd (Trisha Biggar) a Ffotograffiaeth a Goleuo (Owen McPolin).

Cyflwynwyd y Wobr ar gyfer Actor i Richard Harrington am ei bortread o DCI Tom Matthias yn y ddrama Gymraeg, Y Gwyll/Hinterland, sydd wedi ennill clod yn rhyngwladol; enillodd y gyfres yn y categori Teitlau a Hunaniaeth Graffeg (Sarah Breese) hefyd. Cyflwynwyd y Wobr ar gyfer Actores i Rhian Morgan am ei rôl fel Gwen Lloyd yn Gwaith/Cartref.

Enillodd Y Streic a Fi y categorïau Cyfarwyddwr Ffuglen (Ashley Way) a Drama Deledu ac enillodd Tir y wobr ar gyfer Awdur (Roger Williams).

Yn y categorïau rhaglenni ffeithiol, enillodd Jamie Baulch: Looking for my Birth Mum y Wobr am Raglen Ddogfen Sengl, ac enillodd Adam Price a Streic y Glowyr y Wobr am Gyfres Ffeithiol; enillodd y rhaglen Wobr Gwyn Alf Williams hefyd. Enillodd Y Byd ar Bedwar y wobr Materion Cyfoes am y drydedd flwyddyn yn olynol, ac enillodd Rhod Gilbert y wobr ar gyfer Cyflwynydd am RAF Fighter Pilot: Rhod Gilbert’s Work Experience.

Eleni, cyflwynwyd y Wobr Torri Drwodd i’r Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr, Clare Sturges, am ei rhaglen ddogfen, Sexwork, Love and Mr Right.

Cyflwynwyd Gwobr Siân Phillips i’r Cyfarwyddwr, Euros Lyn, gan ei gyfaill agos, a chydweithiwr, Russell T Davies.

Daeth y seremoni i ben trwy gyflwyno Gwobr BAFTA ar gyfer Cyfraniad Arbennig i Deledu i Menna Richards OBE, Rheolwr BBC Cymru Wales rhwng 2000 a 2011. Cyflwynwyd y wobr gan gyn-bennaeth Cenedlaethau a Rhanbarthau’r BBC, Pat Loughrey.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Wrth i BAFTA Cymru ddechrau ar ei 25ain blynedd yn dathlu a hyrwyddo diwydiant y cyfryngau creadigol yma yng Nghymru, mae wedi bod yn galonogol iawn gweld cymaint o ehangder o ran cynnwys a dawn yng Ngwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru heno. Mae’r sector cynhyrchu annibynnol wedi cael ei gynrychioli’n dda unwaith eto, gydag 13 o gwmnïau bywiog ledled y wlad yn ennill gwobrau, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n holl enwebeion ac enillwyr ar ddigwyddiadau BAFTA Cymru o bob cwr, yn annog ac ysbrydoli pobl ddawnus sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru, i fod yn rhan o’r diwydiant rhyfeddol hwn.”

Huw Stephens


GWOBRAU ACADEMI PRYDEINIG YN 2015: RHESTR ENILLWYR LLAWNT

GWOBR SIAN PHILLIPS a noddwyd gan Lywodraeth Cymru
Euros Lyn

Euros Lyn

GWOBR ARBENNIG BAFTA AM GYFRANIAD I DELEDU a noddwyd gan Sony
Menna Richards

GWOBR GWYN ALF WILLIAMS a noddwyd gan Archif Sgrîn a Sain Cenedlaethol Cymru
Adam Price Y Streic a Fi

GWOBR TORRI DRWODD a noddwyd gan HMV
Christian Britten ar gyfer Fog of Sex: Stories from the Frontline of Student Sex Work – Visual Influence
ClaRe Sturges ar gyfer Sexwork, Love and Mr Right
Owen Davis ar gyfer Gohebwyr: Owen Davis – Cwmni Da / S4C

FFILM / FFILM DELEDU a noddwyd gan Coleg Caerdydd a’r Fro
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer A Poet in New York - BBC Cymru Wales / Modern Television/ BBC Two
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Jack to a King: The Swansea Story - YJB Films
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Set Fire to the Stars - Mad as Birds Films / YJB Films / Ffilm Cymru

DRAMA TELEDU a noddwyd gan Access Bookings
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Under Milk Wood – BBC Cymru Wales / BBC Four
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Y Gwyll / Hinterland – Fiction Factory / S4C
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Y Streic a Fi - Alfresco – cyfadran o Boom Cymru / S4C

ACTORES a noddwyd gan Access Bookings
Jenna Coleman fel Clara Oswald yn Doctor Who: Kill the Moon – BBC Cymru Wales/ BBC One
Mali Harries fel DI Mared Rhys yn Y Gwyll/Hinterland – Fiction Factory / S4C
Rhian Morgan fel Gwen Lloyd yn Gwaith/Cartref – Fiction Factory / S4C

ACTOR a noddwyd gan Audi
Richard Harrington fel DCI Tom Matthias yn Y Gwyll/Hinterland – Fiction Factory / S4C
Peter Capaldi fel The Doctor yn Doctor Who: Dark Water – BBC Cymru Wales / BBC One
Rhys Ifans fel Captain Cat yn Dan y Wenallt – fFatti fFilms / S4C / Tinopolis / Goldfinch Pictures a Ffilm Cymru Wales

CYFLWYNYDD a noddwyd gan Deloitte
Owen Sheers ar gyfer Dylan Thomas: A Poet's Guide - Bulb Films, cyfadran o Boom Cymru / BBC Two Wales
Michael Sheen ar gyfer Michael Sheen: A Valleys Rebellion – Cwmni Da / BBC Two Wales
Rhod Gilbert ar gyfer RAF Fighter Pilot: Rhod Gilbert's Work Experience - Zipline Creative / Parasol Media / BBC Two

RHAGLEN BLANT (YN CYNNWYS ANIMEIDDIO) a noddwyd gan Bluestone
ELERI TINNUCHE ar gyfer #Fi – Boom Plant / S4C
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Llan-ar-goll-en – Cwmni Da / Cynyrchiadau Twt / S4C
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Wizards vs Aliens – BBC Cymru Wales / CBBC

Casualty

DYLUNIO GWISGOEDD a noddwyd gan Ganolfan Siopa Dewi Sant
SIAN JENKINS ar gyfer Cara Fi – Touchpaper Television / S4C
TRISHA BIGGAR ar gyfer Da Vinci’s Demons - Adjacent Productions / Phantom Four Films / FOX
Francisco Rodriguez WeiL ar gyfer Set Fire to the Stars – Mad as Birds Films/YJB Films/Ffilm Cymru Wales

MATERION CYFOES a noddwyd gan Great Western Railway
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Week in Week Out: Cardiff to Syria - BBC Cymru Wales / BBC One
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Y Byd ar Bedwar:  Y Felan a Fi - ITV Cymru Wales / S4C
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Ysbyty Dan Bwysau - BBC Cymru Wales / S4C

CYFARWYDDWR: FFEITHIOL a noddwyd gan Capital Law
Marc Evans ar gyfer Jack to a King: The Swansea Story – YJB Films
CARYL EBENEZER ar gyfer Malcolm Allen: Cyfle Arall – Rondo Media / S4C
STEVE FREER ar gyfer Visions of the Valleys – BBC Cymru Wales / BBC Four

CYFARWYDDWR: FFUGLEN a noddwyd gan Champagne Taittinger
KEVIN ALLEN ar gyfer Dan y Wenallt – fFatti fFilms / S4C
Pip Broughton & Bethan Jones ar gyfer Under Milk Wood – BBC Cymru Wales / BBC Four
ASHLEY WAY ar gyfer Y Streic a Fi - Alfresco – cyfadran o Boom Cymru /  S4C

GOLYGU a noddwyd gan Gorilla
JOHN RICHARDS ar gyfer Da Vinci’s Demons - Adjacent Productions / Phantom Four Films / FOX
WILL OSWALD ar gyfer Doctor Who: Dark Water – BBC Cymru Wales/ BBC One
JOHN RICHARDS ar gyfer Jack to a King: The Swansea Story – YJB Films
 
RHAGLEN ADLONIANT a noddwyd gan Manorhaus
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer BBC Young Musician 2014 - The Final – BBC Cymru Wales/ BBC Four
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Dim Byd – Cwmni Da / S4C
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Karl Jenkins - Pencerdd Penclawdd – Rondo Media / S4C

CYFRES FFEITHIOL a noddwyd gan Faes Awyr Cymru Caerdydd
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Adam Price a Streic y Glowyr – Tinopolis / S4C
Ian michael jones ar gyfer Great Welsh Writers: Dannie Abse - Bulb Films, cyfadran o Boom Cymru / BBC Two Wales
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer RAF Fighter Pilot:  Rhod Gilbert's Work Experience - Zipline Creative / Parasol Media / BBC Two

COLUR A GWALLT a noddwyd gan Ken Picton a MAC
Juliet Ireland ar gyfer Caryl a’r Lleill - Alfresco – cyfadran o Boom Cymru / S4C
Jaqueline Fowler ar gyfer Da Vinci's Demons - Adjacent Productions / Phantom Four Films / FOX
Andrea Dowdall-Goddard ar gyfer Set Fire to the Stars – Mad as Birds Films / YJB Films / Ffilm Cymru Wales

DARLLEDIADAU’R NEWYDDION a noddwyd gan Buzz Magazine
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Wales at Six (13/5/2014) – ITV Cymru Wales / ITV
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Wales at Six (20/1/2015) – ITV Cymru Wales / ITV
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Newyddion 9: Ymosodiadau Paris – BBC Cymru Wales / S4C

CERDDORIAETH GWREIDDIOL a noddwyd gan Access Bookings
RICHARD JAMES ar gyfer Cara Fi - Touchpaper Television / S4C
MARK THOMAS ar gyfer Dan y Wenallt - fFatti fFilms / S4C
GRUFF RHYS ar gyfer Set Fire to the Stars - Mad as Birds Films / YJB Film / Ffilm Cymru

Gruff Rhys accepts award

FFOTOGRAFFIAETH FFEITHIOL a noddwyd gan St Davids Hotel and Spa
NATHAN MACKINTOSH ar gyfer Fisherman: Rhod Gilbert's Work Experience - Zipline Creative / Parasol Media/ BBC Two
KEEFA CHAN ar gyfer Fog of Sex: Stories from the frontline of student sex work – Visual Influence
HAYDN DENMAN ar gyfer Karl Jenkins: Pencerdd Penclawdd – Rondo Media / S4C

FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO a noddwyd gan ELP
Owen McPolin ar gyfer Da Vinci’s Demons - Adjacent Productions / Phantom Four Films / FOX
Chris Seager ar gyfer Set Fire to the Stars – Mad as Birds Films / YJB Films / Ffilm Cymru
Stuart Biddlecombe ar gyfer TIR – Joio / S4C

DYLUNIO CYNHYRCHIAD a noddwyd gan Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
PHIL WILLIAMS ar gyfer Crimewatch – BBC Cymru Wales / BBC One
EDWARD THOMAS ar gyfer Da Vinci’s Demons - Adjacent Productions, Phantom Four Films / FOX
EDWARD THOMAS ar gyfer Set Fire to the Stars – Mad as Birds Films / YJB Films / Ffilm Cymru

FFURF BYR AC ANIMEIDDIO a noddwyd gan Brifysgol Aberystwyth
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Dancing in Circles
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer The Homing Bird – It’s My Shout Productions
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer The Hunchback in the Park - BBC Cymru Wales Online & Learning / Aardman / BBC NOW 

DOGFEN SENGL noddwyd gan Genero
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Jamie Baulch - Looking for my Birth Mum – Avanti Media / BBC One
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Malcolm Allen: Cyfle Arall – Rondo Media / S4C
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Michael Sheen's Valleys Rebellion – Cwmni Da / BBC Two Wales

SAIN a noddwyd gan AB Acoustics
Bang Post Production ar gyfer Jack to a King: The Swansea Story – YJB Films
MARK FERDA ar gyfer Under Milk Wood – BBC Cymru Wales / BBC Four
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Y Gwyll / Hinterland – Fiction Factory / S4C

EFFEITHIAU ARBENNIG A GWELEDOL a noddwyd gan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer A Poet in New York - BBC Cymru Wales / Modern Television / BBC Two
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Da Vinci’s Demons - Adjacent Productions / Phantom Four Films / FOX
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Doctor Who Last Christmas – BBC Cymru Wales / BBC One

CHWARAEON A DARLLEDIAD ALLANOL a noddwyd gan Gyngor Caerdydd
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Clwb Rygbi: Scarlets v Ospreys - BBC Wales Sport / S4C
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Welsh Sports Review 2014 - BBC Wales Sport / BBC Two Wales
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Y Sioe – Boom Cymru / S4C

TEITLAU A HUNANIAETH GRAFFEG a noddwyd gan AGFX
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Doctor Who: Deep Breath – BBC Cymru Wales / BBC One
BAIT STUDIO ar gyfer Jack to a King: The Swansea Story – YJB Films
TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Y Gwyll/Hinterland – Fiction Factory / S4C

AWDUR a noddwyd gan Ethos
ANDY GODDARD & CELYN JONES ar gyfer Set Fire to the Stars – Mad as Birds Films / YJB Films / Ffilm Cymru Wales
ROGER WILLIAMS ar gyfer TIR – Joio / S4C
GWYNETH LEWIS ar gyfer Y Streic a Fi – Alfresco: Cyfadran o Boom Cymru / S4C


Ynglŷn â BAFTA a BAFTA Cymru


Mae’r Academi Celfyddydau Ffilm a Theledu Brydeinig yn elusen annibynnol sy’n cefnogi, datblygu a hyrwyddo celfyddydau delwedd symudol trwy amlygu a gwobrwyo rhagoriaeth, ysbrydoli ymarferwyr a rhoi budd i’r cyhoedd. Yn ogystal â’i seremonïau gwobrwyo, mae BAFTA yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau a mentrau dysgu drwy gydol y flwyddyn – sy’n cynnwys gweithdai, dosbarthiadau meistr, ysgoloriaethau, darlithiau a chynlluniau mentora – yn y DU, UDA ac Asia; mae’n cynnig mynediad unigryw at rai o’r bobl ddawnus fwyaf ysbrydoledig yn y byd, gan gysylltu â chynulleidfa fyd-eang o bob oedran a chefndir.

Mae BAFTA Cymru yn ymestyn cenhadaeth elusennol yr Academi ar draws y Deyrnas Unedig i gefnogi cymunedau creadigol Cymru. Uchafbwynt calendr digwyddiadau BAFTA yng Nghymru yw seremoni flynyddol Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, sef llwyfan annibynnol sy’n arddangos y gwaith sydd wir yn adlewyrchu’r gorau yn y wlad ym myd ffilmiau, teledu a gemau, gan wneud gwahaniaeth i’r rhai sy’n cynhyrchu gwaith creadigol yn ogystal â’r rhai sy’n ei wylio. www.bafta.org/wales

Mae BAFTA yn dibynnu ar incwm o danysgrifiadau aelodaeth, rhoddion unigol, ymddiriedolaethau, sefydliadau a phartneriaethau corfforaethol i gefnogi ei gwaith allgymorth. I gael mynediad at y meddyliau creadigol gorau ym myd cynhyrchu ffilm, teledu a gemau, ewch i www.bafta.org/guru . I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.bafta.org .