• croeseiriau cymraeg.jpg

     
    Translation Exercise 9:  Llyfr Da - A Good Book by Matt Spry

  • 640pxOldbooks436498_480.webp.jpg

    Llyfr Da - A Good Book
    by Matt Spry


    Mewn dosbarth Cymraeg. Mae’r tiwtor yn gofyn cwestiynau i Aled am lyfr mae e wedi ei ddarllen


    Tiwtor:
    Pa lyfr ddarllenaist ti?

    Aled: Darllenais i ‘Yn Ei Gwsg’ gan Bethan Gwanas. Nofel i ddysgwyr yw e. Mae’n rhan o’r gyfres Amdani sy’n gyfres o lyfrau i ddysgwyr. Cafodd y llyfrau cyntaf eu cyhoeddi yn 2018.

    Tiwtor: Fwynheaist ti’r nofel?

    Aled: Do. Mwynheais i fe yn fawr iawn.

    Tiwtor: Wnei di ddweud wrthon ni ychydig am y stori?

    Aled: Wrth gwrs. Mae Dafydd yn cerdded yn ei gwsg ac un bore deffrodd e a chafodd e sioc. Gwelodd e waed dros y lle i gyd. Aeth e allan a gwelodd e olion traed gwaedlyd y tu allan i’r tŷ. Dilynodd e nhw a darganfyddodd e ei gymydog Mrs Roberts a’i Zimmerframe yn gorwedd ar ochr y ffordd wedi’i tharo gan gar. Mae’r nofel yn mynd yn ei blaen i esbonio beth ddigwyddodd.

    Tiwtor: Mae’n swnio’n dywyll!

    Aled: Ydy! Ond mae’n eithaf ysgafn a llawn hiwmor! Yn y diwedd llwyddodd Dafydd a’r heddlu i ddod o hyd i’r ateb ac mae diweddglo hapus!

    Tiwtor: Diolch byth! Beth am lefel yr iaith? Gest ti drafferth yn deall y Gymraeg?

    Aled: Naddo. Ches i ddim trafferth. Ysgrifennodd yr awdur y nofel i fod yn addas i bobl sy’n gwneud lefel Sylfaen. Mae geirfa ar waelod bob tudalen a rhestr o eiriau yng nghefn y llyfr. Arluniodd y cartwnydd Huw Aaron luniau ar gyfer y llyfr hefyd. Mae llawer o lyfrau yn y gyfres gan wahanol awduron a gweithion nhw gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol i wneud yn siŵr eu bod nhw’n addas i ddysgwyr. Mae’r cyhoeddwr, Atebol, wedi graddoli bob llyfr ar bedair lefel - Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.

    Tiwtor: Dwedaist ti fod llawer o awduron wedi cyfrannu at y gyfres. Wyt ti’n gwybod pwy arall sy wedi ysgrifennu llyfrau?

    Aled: Gad i mi feddwl! Mae llyfrau gan Manon Steffan Ros, John Gower, Mared Lewis, Elin Meek a mwy ac mae cwpl o gasgliadau o straeon byrion.

    Tiwtor: Wythnos diwethaf, siaradodd Megan am nofel arall yn y gyfres ac ysgrifennodd hi adolygiad. Hoffet ti ysgrifennu adolygiad o ‘Yn Ei Gwsg’?

    Aled: Hoffwn. Mae ysgrifennu yn Gymraeg yn ffordd dda o ddatblygu eich sgiliau.

    Tiwtor: Dw i’n cytuno! Nawr ‘te, yn y dosbarth diwethaf edrychon ni ar y amser gorffennol. Dechreuon ni gyda’r ffurf sy’n defnyddio bôn y ferf gyda therfyniadau e.e. prynu – prynais i, prynaist ti, prynodd e, prynodd hi, prynon ni, prynoch chi, prynon nhw. Aethon ni ymlaen i edrych ar y ffurf sy’n defnyddio ‘gwneud’ e.e. wnes i brynu, wnest ti brynu, wnaeth e brynu, wnaeth hi brynu, wnaethon ni brynu, wnaethoch chi brynu, wnaethon nhw brynu. I ddechrau heddiw dyn ni’n mynd i adolygu y treigladau. Mae treiglad meddal gyda chwestiwn e.e. brynaist ti? a threiglad llaes neu feddal gyda’r negyddol e.e. phrynoch chi ddim, ddarllenais i ddim. Mae’n ychydig yn haws gyda’r ffurf sy’n defnyddio ‘gwneud’ achos fel arfer mae pobl yn defnyddio’r ferf wedi’i threiglo, heb y ‘g’, ar gyfer y cadarnhaol, y negyddol a chwestiynau e.e. wnaethon nhw gerdded, wnaethon nhw ddim cerdded, wnaethon nhw gerdded? Pawb yn barod?

    Pawb: Ydyn!

    Tiwtor: Gadewch i ni ddechrau ‘te!

    ...


    This is the ninth in a new series of revision translation exercises written by Matt Spry  ( Eisteddfod Welsh Language Learner 2018). These exercises utilize the vocabulary and grammar that you have already learned on the Croeseiriau Cymraeg course so far (Parts 1 & 2). There may be one or two words that you are unfamiliar with but you can always look them up.  

    As you can see above the English and Welsh texts are on separate tabs SO you can translate from Welsh to English or vice versa. You can also use the Welsh text as a reading and comprehension exercise if you don't feel fully confident to translate it straight off the bat. We are sure that this resource will prove invaluable however you decide to use it. Mwynhewch!

    ,,,

    Translation Exercises

    Course 1 & 3 translation exercises can be found here and here.

    ...

    Ar y Trên - On The Train

    Diwrnod yng Nghaerdydd - A Day in Cardiff

    Llyfr Da - A Good Book

    Cwpl o Ddiwrnodau yn Eryri - A Couple of Days in Snowdonia

    Croesi'r Hafren - Crossing the Severn

    Cerdded yn y Bryniau - Walking in the Hills