• croeseiriau cymraeg.jpg


    Translation Exercise 8:  Diwrnod yng Nghaerdydd - A Day in Cardiff
    by Matt Spry

  • geograph2475945byRudiWinter.jpg

    Diwrnod yng Nghaerdydd - A Day in Cardiff  by Matt Spry


    Mae’n ddydd Llun ac mae Siân a Siôn yn cwrdd yn y gwaith

    Siân: Bore da Siôn, sut wyt ti?

    Siôn: Iawn diolch, a tithau?

    Siân: Da iawn, diolch. Gest ti benwythnos da?

    Siôn: Do, diolch.

    Siân: Beth wnest ti?

    Siôn: Es i i Gaerdydd ddydd Sadwrn. Daeth fy ffrind, Aled, gyda fi.

    Siân: Gwych! Wnest ti yrru?

    Siôn: Naddo. Wnes i ddim gyrru. Wnaethon ni ddal y trên. Ro’n i’n bwriadu gyrru ond wnes i gofio pa mor brysur yw Caerdydd o ran traffig ar ddydd Sadwrn.

    Siân: Call iawn! Beth wnaethoch chi yno ‘te? Sut oedd y tywydd?

    Siôn: Ro’n ni’n lwcus iawn. Roedd hi’n heulog drwy’r dydd. Ro’n i’n poeni ychydig achos bod y tywydd mor ofnadwy yn ystod yr wythnos. Ar ôl i ni gyrraedd gorsaf Heol y Frenhines, wnaethon ni ddal trên arall i lawr i’r Bae. Aethon ni am dro ac wedyn aethon ni i gaffi am ginio.

    Siân: Beth gawsoch chi?

    Siôn: Ces i frechdan gaws a phicl a phaned o de. Cafodd Aled frechdan gyw iâr a photel o sudd oren. Wedyn aethon ni i Ganolfan y Mileniwm ac i’r Senedd. Aethon i yn ôl i ganol y ddinas ar y ‘tacsi dŵr’ o’r Bae, i fyny afon Taf i Barc Bute ger y castell. O’r parc wnaethon ni gerdded i ganol y ddinas i ymweld â’r siopau.

    Siân: Wnaethoch chi brynu unrhyw beth?

    Siôn: Do. Wnes i brynu cwpl o albymau Cymraeg yn Spillers Records ond wnaeth Aled ddim prynu dim byd.

    Siân: Wnaethoch chi unrhyw beth arall?

    Siôn: Wnaethon ni benderfynu mynd am beint neu ddau yn yr Owain Glyndŵr. Roedd grŵp o ddysgwyr Cymraeg yno felly wnaethon ni ymuno â nhw a chawson ni sgwrs hyfryd. Ces i gwpl o beintiau o gwrw a chafodd Aled gwpl o beintiau o seidr.

    Siân: Pryd daethoch chi yn ôl?

    Siôn: Wnaethon ni ddal y trên am 5 o’r gloch felly wnaethon ni gyrraedd yn ôl tua 6 o’r gloch.

    Siân: Beth wyt ti’n mynd i wneud penwythnos nesa?

    Siôn: Dw i’n bwriadu mynd i weld y gêm bêl-droed. Beth amdanat ti?

    Siân: Dw i’n bwriadu mynd i Gaerdydd! A diolch i ti mae gen i lawer o syniadau am bethau i’w gwneud yno. Wna i roi gwybod i ti beth wnes i ddydd Llun nesa.

    ...


    This is the eighth in a new series of revision translation exercises written by Matt Spry  ( Eisteddfod Welsh Language Learner 2018). These exercises utilize the vocabulary and grammar that you have already learned on the Croeseiriau Cymraeg course so far (Parts 1 & 2). There may be one or two words that you are unfamiliar with but you can always look them up.  

    As you can see above the English and Welsh texts are on separate tabs SO you can translate from Welsh to English or vice versa. You can also use the Welsh text as a reading and comprehension exercise if you don't feel fully confident to translate it straight off the bat. We are sure that this resource will prove invaluable however you decide to use it. Mwynhewch!

    ,,,

    Translation Exercises

    Course 1 & 3 translation exercises can be found here and here.

    ...

    Ar y Trên - On The Train

    Diwrnod yng Nghaerdydd - A Day in Cardiff

    Llyfr Da - A Good Book

    Cwpl o Ddiwrnodau yn Eryri - A Couple of Days in Snowdonia

    Croesi'r Hafren - Crossing the Severn

    Cerdded yn y Bryniau - Walking in the Hills