• croeseiriau cymraeg.jpg

     
    Translation Exercise 7:  Ar y Trên - On The Train by Matt Spry

  • geograph1482254byEricJones.jpg

    Ar y Trên - On The Train by Matt Spry


    Mae Angharad ar y trên o Abertawe i Gaerfyrddin. Mae’n brysur ac mae dyn o’r enw Rhodri yn chwilio am rywle i eistedd.

    ...

    Rhodri: Prynhawn da. Good afternoon. Ga i eistedd yma os gwelwch yn dda. May I sit here please?

    Angharad: Wrth gwrs.

    Rhodri: O! Dych chi’n siarad Cymraeg?

    Angharad: Ydw. Tipyn bach. Dysgwr ydw i.

    Rhodri: Gwych! Ers pryd dych chi’n dysgu?

    Angharad: Dw i’n dysgu ers tair blynedd.

    Rhodri: A dych chi’n dod o Gymru?

    Angharad: Nac ydw. Dw i’n dod o America yn wreiddiol. Columbus yn Ohio. Wnaeth fy mam-gu a’m tad-cu symud o Gymru i America. Ro’n i’n gwneud ymchwil i hanes fy nheulu yng Nghymru a wnes i ddarganfod bod llawer ohonyn nhw yn siarad Cymraeg felly wnes i benderfynu dechrau dysgu Cymraeg.

    Rhodri: Ardderchog! Sut aethoch chi ati i ddysgu Cymraeg ‘te?

    Angharad: Wnaeth rhywun ddweud wrtho i am wefan ardderchog o’r enw AmeriCymru. Wnes i edrych ar y wefan a wnes i ffeindio llawer o bethau am y Gymraeg yno - cwrs Cymraeg, croeseiriau Cymraeg, geiriadur, pethau i’w darllen a mwy.

    Rhodri: Bydd rhaid i mi edrych arni hi. Mae’n swnio’n wych.

    Angharad: Mae’n ardderchog. Wnes i ddechrau defnyddio’r adnoddau yno ac wedyn wnes i gofrestru am gwrs ar-lein gyda nhw. Wnes i weld dolen i Say Something in Welsh felly wnes i gofrestru gyda nhw a lawrlwytho eu cyrsiau nhw. Ar ôl dysgu am gwpl o flynyddoedd wnes i benderfynu dod i Gymru i wneud cwrs gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac wrth gwrs i deithio o gwmpas Cymru ac ymarfer fy Nghymraeg.

    Rhodri: Mae’n ardderchog clywed am gymaint o bethau sy’n helpu pobl dysgu Cymraeg. Ble aethoch chi yng Nghymru?

    Angharad: Des i Abertawe i wneud y cwrs. Cafodd fy mam-gu a’m tad-cu eu geni yma. Ar ôl i’r cwrs orffen es i i’r Gogledd i Gaernarfon. Ro’n i wrth fy modd! Mae bron bawb yn siarad Cymraeg yno a wnes i glywed Cymraeg ymhob man ond ces i drafferth deall yr acen i ddechrau! Dw i’n hoff iawn o’r bobl yno, y Cofis. Wnaethon nhw roi croeso enfawr i mi ac ro’n nhw mor amyneddgar ac mor barod i helpu gyda fy Nghymraeg. Cyn dod yn ôl i Abertawe wnes i dreulio cwpl o ddiwrnodau yn Aberystwyth. Wnes i gwrdd â rhywun o Gaerfyrddin ar y cwrs a wnaeth hi fy ngwahodd i aros gyda hi am benwythnos. Dw i’n mynd yno nawr a dw i’n mynd yn ôl i America wythnos nesa.

    Rhodri: Wnaethoch chi fwynhau eich amser yng Nghymru ‘te!

    Angharad: Do! Yn bendant.

    Rhodri: A chawsoch chi lawer o gyfleoedd i ymarfer eich Cymraeg.

    Angharad: Do. Llawer iawn ohonyn nhw!

    Rhodri: Aethoch chi i Gaerdydd? Ces i fy ngeni yno ond wnes i symud i Abertawe blynyddoedd yn ôl.

    Angharad: Naddo, yn anffodus. Doedd gen i ddim digon o amser. Ond dw i’n bwriadu dod yn ôl i Gymru blwyddyn nesa. Dw i’n bwriadu ymweld â Chaerdydd.

    ...


    This is the seventh in a new series of revision translation exercises written by Matt Spry  ( Eisteddfod Welsh Language Learner 2018). These exercises utilize the vocabulary and grammar that you have already learned on the Croeseiriau Cymraeg course so far (Parts 1 & 2). There may be one or two words that you are unfamiliar with but you can always look them up.  

    As you can see above the English and Welsh texts are on separate tabs SO you can translate from Welsh to English or vice versa. You can also use the Welsh text as a reading and comprehension exercise if you don't feel fully confident to translate it straight off the bat. We are sure that this resource will prove invaluable however you decide to use it. Mwynhewch!

    ,,,

    Translation Exercises

    Course 1 & 3 translation exercises can be found here and here.

    ...

    Ar y Trên - On The Train

    Diwrnod yng Nghaerdydd - A Day in Cardiff

    Llyfr Da - A Good Book

    Cwpl o Ddiwrnodau yn Eryri - A Couple of Days in Snowdonia

    Croesi'r Hafren - Crossing the Severn

    Cerdded yn y Bryniau - Walking in the Hills