• croeseiriau cymraeg.jpg

     
    Translation Exercise 10:  Cwpl o Ddiwrnodau yn Eryri - A Couple of Days in Snowdonia  by Matt Spry

  • geograph6234460byDMWilmot.jpg

    Cwpl o Ddiwrnodau yn Eryri - A Couple of Days in Snowdonia  by Matt Spry


    Mae Lowri a Manon wedi cwrdd mewn caffi yng nghanol y dre. Roedd gan Lowri wythnos bant o’r gwaith ac mae Manon eisiau gwybod beth wnaeth hi.


    Manon:
    Dyma ni. Coffi i ti a phaned o de i mi.

    Lowri: Diolch. Dyma’r tro cyntaf i mi ddod i’r caffi yma. Mae’n hyfryd. Wyt ti wedi bod yma o’r blaen?

    Manon: Cwpl o weithiau. Des i â fy rhieni yma pan wnaethon nhw ymweld â fi fis diwethaf. Gest ti wythnos da bant o’r gwaith ‘te?

    Lowri: Do, diolch. Ces i wythnos hyfryd.

    Manon: Beth wnest ti? Dwedaist ti dy fod ti’n meddwl am fynd i Eryri os dw i’n cofio’n iawn.

    Lowri: Do a dyna beth wnaethon ni. Wnaethon ni - fi, fy ngŵr Geraint a’r plant - dreulio cwpl o ddiwrnodau yn Eryri.

    Manon: Aethoch chi â’r ci, Twm?

    Lowri: Naddo. Aethon ni ddim â’r ci. Wnaeth Twm aros gyda fy nghymydog.

    Manon: Sut wnaethoch chi deithio? Aethoch chi ar y trên?

    Lowri: Naddo. Aethon ni ddim ar y trên. Wnaethon ni yrru. Wnes i rannu’r gyrru gyda Geraint. Wnaethon ni adael Caerdydd am naw o’r gloch fore Llun a wnaethon ni gyrraedd Llanberis tua hanner awr wedi dau yn y prynhawn. Ro’n ni wedi bwcio ‘gwely a brecwast’ yn Llanberis ymlaen llaw. Wnaethon ni stopio am egwyl a chinio yn Rhaeadr ar y ffordd i fyny.

    Manon: Beth wnaethoch chi yn Llanberis ar ôl i chi gyrraedd?

    Lowri: Ar ôl i ni gofrestru yn y ‘gwely a brecwast’ aethon ni am dro o gwmpas Llanberis, aethon ni am bryd o fwyd mewn tŷ bwyta ac aethon ni i’r gwely yn gynnar er mwyn bod yn barod i ddringo’r Wyddfa y diwrnod canlynol.

    Manon: Wnaethoch chi ddringo’r Wyddfa? Chwarae teg i ti!

    Lowri: Naddo! Dw i’n dweud ‘dringo’ ond aethon ni ar y trên! Mae’r plant yn rhy ifanc. Wnes i ddringo’r Wyddfa pan o’n i’n ifancach ond dw i’n rhy hen nawr! Bwyteais i ormod i frecwast i allu dringo hefyd!

    Manon: Wnes i anghofio i ofyn. Sut oedd y ‘gwely a brecwast’? Sut oedd y bwyd? Beth wnaethoch chi fwyta am frecwast?

    Lowri: Roedd y ‘gwely a brecwast’ yn dda. Roedd yn lân ac yn dawel. Ces i frecwast wedi’i ffrio enfawr! Cafodd Geraint a’r plant rawnfwyd. Maen nhw’n fwy call na fi! Roedd yn ddiwrnod hyfryd. Wnaethon ni i gyd fwynhau’r daith ar y trên i fyny, yr amser ar gopa’r mynydd, a’r daith i lawr. Wnaethon ni siarad â llawer o ymwelwyr eraill. Wnaeth y plant gwrdd â phlant eraill a wnaethon nhw fwynhau chwarae gyda’i gilydd. Ar ôl pryd o fwyd arall yn Llanberis yn y nos aethon ni i’r gwely.

    Manon: Wnaethoch chi aros yn Llanberis?

    Lowri: Naddo. Wnaethon ni ddim aros yno. Bore Mercher wnaethon ni yrru i lawr yr A4086 i Gapel Curig, wedyn yr A5 tuag at Fetws-y-Coed. Ro’n ni wedi bwcio ‘gwely a brecwast’ yno ond cyn cyrraedd wnaethon ni benderfynu stopio i ymweld â Rhaeadr Ewynnol sy’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Wnaethon ni dreulio cwpl o oriau yno yn cerdded o gwmpas, wedyn aethon ni yn ein blaenau i Fetws-y-Coed i gael cinio, dod o hyd i’r ‘gwely brecwast’ a threulio gweddill y dydd yn crwydro o gwmpas y pentref. Mae e mor dlws.

    Manon: Cawsoch chi i gyd amser da iawn ‘te!

    Lowri: Do. Wnaethon ni godi’n gynnar y diwrnod canlynol a wnaethon ni ddechrau ar y daith yn ôl i Gaerdydd. Cawson ni i gyd amser da iawn. Doedd gennyn ni ddim digon o amser i ymweld â llefydd eraill fel Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, bardd y Gadair Ddu yn Nhrawsfynydd nag Ogofâu Lechwedd sy’n atyniad twristiaid ger Blaenau Ffestiniog sy’n dangos hanes diwydiant llechi ‘r ardal.

    Manon: Dych chi’n bwriadu mynd yn ôl, ‘te?

    Lowri: Ydyn. Cyn gynted â phosib. Mae cymaint i’w weld yno.

    Manon: O gyda llaw - gafodd y ci Twm amser da gyda dy gymydog?

    Lowri: Do! Ond chafodd fy nghymydog ddim amser da! Wnaeth Twm gnoi rhai o’i chlustogau, pâr o sliperi a phâr o’i hesgidiau! Bydd rhaid i mi dalu amdanyn nhw!

    ...


    This is the tenth in a new series of revision translation exercises written by Matt Spry  ( Eisteddfod Welsh Language Learner 2018). These exercises utilize the vocabulary and grammar that you have already learned on the Croeseiriau Cymraeg course so far (Parts 1 & 2). There may be one or two words that you are unfamiliar with but you can always look them up.  

    As you can see above the English and Welsh texts are on separate tabs SO you can translate from Welsh to English or vice versa. You can also use the Welsh text as a reading and comprehension exercise if you don't feel fully confident to translate it straight off the bat. We are sure that this resource will prove invaluable however you decide to use it. Mwynhewch!

    ,,,

    Translation Exercises

    Course 1 & 3 translation exercises can be found here and here.

    ...

    Ar y Trên - On The Train

    Diwrnod yng Nghaerdydd - A Day in Cardiff

    Llyfr Da - A Good Book

    Cwpl o Ddiwrnodau yn Eryri - A Couple of Days in Snowdonia

    Croesi'r Hafren - Crossing the Severn

    Cerdded yn y Bryniau - Walking in the Hills