• croeseiriau cymraeg.jpg

     
    Translation Exercise 4:  Ysgol - School by Matt Spry

  • geograph2451820byJaggery.jpg

    Ysgol - School by Matt Spry


    Mae'n fore dydd Llun ac mae Elin yn aros am y bws i fynd i'r ysgol. Mae hi'n gweld ei ffrind Carys yn dod i lawr y stryd.

    ...

    Elin: Helo Carys sut wyt ti heddiw?

    Carys: Wedi blino. Gormod o waith cartref i wneud dros y penwythnos. Sut wyt ti? Wyt ti wedi cael penwythnos da?

    Elin: Dw i'n iawn diolch ac ydw, dw i wedi cael penwythnos da ond mae'n mynd yn rhy gyflym!Wyt ti'n dal y bws heddiw?

    Carys: Ydw. Dw i'n teimlo'n ddiog a dw i ddim eisiau cerdded y bore yma!

    Elin: Beth wyt ti'n wneud yn yr ysgol heddiw?

    Carys: Dw i'n mynd i checio'r amserlen. Dw i'n anobeithiol – dw i ddim yn gallu cofio'r amserlen o gwbl! O na! Mathemateg yn gyntaf. Dw i ddim yn hoffi Mathemateg. Mae'n rhy anodd. Wedyn Bioleg ac wedyn Hanes. Dw i'n caru Hanes! Beth wyt ti'n wneud y bore yma?

    Elin: Gwyddoniaeth yn gyntaf, Cymraeg yn ail ac wedyn Daearyddiaeth. Dw i'n hoffi Gwyddoniaeth ond dw i ddim yn hoffi'r athro! Mae Mr Jones wastad yn gweiddi! Beth wyt ti'n wneud amser cinio?

    Carys: Dw i'n cwrdd â Lowri, Gethin ac Evan. Maen nhw yn y clwb drama gyda fi a dyn ni eisiau ymarfer sgript y ddrama dyn ni'n perfformio nos Iau wythnos nesa. Dyn ni wedi ysgrifennu drama am hanes pobl o Gymru yn America. Beth wyt ti'n wneud?

    Elin: Dw i'n mynd i'r llyfrgell. Dw i angen dychwelyd cwpl o lyfrau, casglu cwpl o lyfrau a dw i eisiau llungopïo cwpl o bethau. Ydy dy rieni'n dod i weld y ddrama?

    Carys: Ydyn. Wel, mae Dad yn dod. Dyw Mam ddim yn gallu dod. Mae hi'n gweithio'n hwyr yn anffodus. Beth wyt ti'n wneud y prynhawn yma?

    Elin: Sbaeneg, Celf a Llenyddiaeth Americanaidd. Dyn ni'n astudio The Grapes of Wrath gan John Steinbeck ar hyn o bryd. Mae'n nofel dda iawn. Beth amdanat ti?

    Carys: Saesneg - dw i wedi gorffen y gwaith cartef diolch byth - wedyn Drama a Chwaraeon. Pêl-foli heddiw.

    Elin: Dw i'n gwneud Chwaraeon yfory. Pêl-foli hefyd. Dw i'n gobeithio ennill lle yn y tîm.

    Carys: O! Pob lwc! Rwyt ti'n haeddu lle yn y tîm.

    Elin: Diolch i ti! Ble mae'r bws? Faint o'r gloch yw hi? Dyn ni'n mynd i fod yn hwyr am y dosbarth cyntaf.

    Carys: Mae hi'n ugain munud i wyth. Mae'r bws yn dod am hanner awr wedi saith fel arfer. Dw i ddim eisiau bod yn hwyr. Dw i'n hoffi bod ar amser neu'n gynnar.

    Elin: Dw i'n cytuno. Edrych! Mae'r bws yn dod o'r diwedd!

    Carys: Diolch byth!

    .

    ...


    This is the fourth of a new series of revision translation exercises written by Matt Spry  ( Eisteddfod Welsh Language Learner 2018). These exercises utilize the vocabulary and grammar that you have already learned on the Croeseiriau Cymraeg course so far. There may be one or two words that you are unfamiliar with but you can always look them up. There will be six exercises  in the series when complete. 

    As you can see above the English and Welsh texts are on separate tabs SO you can translate from Welsh to English or vice versa. You can also use the Welsh text as a reading and comprehension exercise if you don't feel fully confident to translate it straight off the bat. We are sure that this resource will prove invaluable however you decide to use it. Mwynhewch!

    Translation Exercises

    Traeth - Beach

    Gwaith - Work

    Y Siop Lyfrau - The Book Shop

    Ysgol - School

    Chwaraeon - Sports

    Pen-blwydd - Birthday