• croeseiriau cymraeg.jpg

     
    Translation Exercise 3:  Y Siop Lyfrau - The Book Shop by Matt Spry

  • geograph3026688byJimBarton.jpg

    Y Siop Lyfrau - The Book Shop by Matt Spry


    Cwsmer: Bore da. Sut dych chi?

    Gweithiwr: Bore da. Dw i'n iawn diolch. Sut dych chi?

    Cwsmer: Da iawn diolch ond mae hi'n oer heddiw.

    Gweithiwr: Ydy, mae hi'n oer iawn ond o leiaf dyw hi ddim yn bwrw glaw. Dych chi'n chwilio am unrhyw beth?

    Cwsmer: Dw i'n dysgu Cymraeg a dw i eisiau prynu llyfr gramadeg. Dych chi'n gallu awgrymu unrhyw beth?

    Gweithiwr: Ydw. Dw i'n hapus i helpu. Mae llawer o lyfrau gramadeg ar gael. A diolch yn fawr iawn i chi am ddysgu Cymraeg!

    Cwsmer: Diolch!

    Gweithiwr: Mae'r llyfrau gramadeg ar y silff ar y dde. Mae 'Modern Welsh: A Comprehensive Grammar' gan Gareth King, 'Welsh Rules' gan Heini Gruffudd a 'Welsh Grammar You Really Need To Know' gan Christine Jones yn dda iawn. Maen nhw'n gwerthu'n gyflym.

    Cwsmer: Gwych! Diolch i chi.

    Gweithiwr: Dych chi'n gyfarwydd â'r gyfres eitha newydd o lyfrau i ddysgwyr 'Amdani' wedi'u hysgrifennu, a'u graddio, i oedolion sy'n dysgu Cymraeg gan rai o awduron mwya adnabyddus Cymru?

    Cwsmer: Dych chi'n gallu dweud hynny unwaith eto os gwelwch yn dda? Mae'n ddrwg gen i. Dw i ddim yn deall. Dw i angen mwy o ymarfer siarad a gwrando!

    Gweithiwr: Wrth gwrs! Dim problem! Dych chi wedi clywed am y llyfrau 'Amdani'? Llyfrau - nofelau a straeon - i ddysgwyr Cymraeg o bob lefel gan awduron poblogaidd o Gymru.

    Cwsmer: Nac ydw.

    Gweithiwr: Maen nhw'n ardderchog ac maen nhw wedi nodi'r lefel ar bob llyfr - Mynediad i Uwch. Maen nhw ar y silff ar y chwith.

    Cwsmer: Diolch. Dw i wedi darllen cwpl o lyfrau Lois Arnold. Mae hi'n ysgrifennu i ddysgwyr hefyd. Maen nhw'n wych.

    Gweithiwr: Ydyn. Dw i wedi clywed llawer o ddysgwyr yn canmol ei llyfrau.

    Cwsmer: Reit. Dw i eisiau y llyfr gramadeg yma, y llyfr yma o'r gyfres 'Amdani', copi o Lingo Newydd, y cylchgrawn i ddysgwr, a'r cerdyn pen-blwydd yma os gwelwch yn dda.

    Gweithiwr: Dewis da! Dych chi eisiau defnyddio cerdyn credyd i dalu?

    Cwsmer: Ydw. Ydw i'n gallu cael derbynneb hefyd?

    Gweithiwr: Wrth gwrs. Dyma'r llyfrau, cylchgrawn a cherdyn pen-blwydd a dyma'r dderbynneb.

    Cwsmer: Diolch yn fawr am eich help. Hwyl fawr!

    Gweithiwr: Hwyl!

    ...


    This is the third in a new series of revision translation exercises written by Matt Spry  ( Eisteddfod Welsh Language Learner 2018). These exercises utilize the vocabulary and grammar that you have already learned on the Croeseiriau Cymraeg course in parts 1 & 2. There may be a few words that you are unfamiliar with but you can always look them up. There will be six exercises  in the series when complete. 

    As you can see above the English and Welsh texts are on separate tabs SO you can translate from Welsh to English or vice versa. You can also use the Welsh text as a reading and comprehension exercise if you don't feel fully confident to translate it straight off the bat. We are sure that this resource will prove invaluable however you decide to use it. Mwynhewch!

    Translation Exercises

    Traeth - Beach

    Gwaith - Work

    Y Siop Lyfrau - The Book Shop

    Ysgol - School

    Chwaraeon - Sports

    Pen-blwydd - Birthday