• croeseiriau cymraeg.jpg

     
    Translation Exercise 6:  Pen-blwydd - Birthday by Matt Spry

  • 792pxBirthday_Cake2.jpg

    Pen-blwydd - Birthday by Matt Spry


    Mae Owain yn 12 mlwydd oed heddiw. Mae e'n codi'n gynnar yn llawn cyffro ac yn mynd i lawr y grisiau i'r gegin. Mae'r teulu i gyd yno ac maen nhw'n canu 'Pen-blwydd Hapus' iddo fe. Mae pentwr o gardiau pen-blwydd ac anrhegion ar fwrdd y gegin. Mae e'n agor y cardiau'n gyntaf ac mae arian yn y cerdyn gan ei ewythr a modryb – 50 o ddoleri! Wedyn mae e'n dechrau dadlapio yr anrhegion. Gitâr gan Mam a Thad, gêm pêl-droed PlayStation newydd gan Mam-gu a Thad-cu, llyfr 'sut i chwarae gitâr' gan ei chwaer a het, sgarff a menig clwb pêl-droed Dinas Caerdydd gan ei frawd. Mae e wrth ei fodd gyda nhw! Mae Mam yn gwneud brecwast arbennig – wyau wedi'u ffrio, selsig, ffa pob, madarch, bacwn, tomatos, tost a bara lawr. Ar ôl brecwast mae Mam-gu yn dechrau gwneud cacen ben-blwydd ac mae'r post yn cyrraedd – mwy o gardiau a mwy o arian! Mae Owain yn treulio'r bore yn chwarae'r gitâr a'r gêm newydd ac yn meddwl am sut i wario'r arian.

    Mae'n ddiwrnod braf felly mae'r teulu yn penderfynu mynd am dro yn y prynhawn. Mae Mam-gu yn aros cartref i orffen y gacen ac mae Tad-cu yn aros cartref i bendwmpian yn y gadair freichiau o flaen y tân! Maen nhw'n gyrru i'r mynyddoed ac yn treulio tua dwy awr yn crwydro o gwmpas. Ar y ffordd adref maen nhw'n mynd i'r archfarchnad - mae cwpl o ffrindiau Owain yn dod draw am 5 o'r gloch i wylio fideos, chwarae gêmau ar y PlayStation, chwarae cerddoriaeth a bwyta ac maen nhw eisiau cwpl o bethau. Maen nhw'n prynu pitsa, bara garlleg, creision, jeli a hufen iâ. Maen nhw ar fin gadael yr archfarchnad ac mae Mam yn cofio rhywbeth – mae hi angen prynu canhwyllau ar gyfer y gacen ben-blwydd! Mae hi'n rhuthro yn ôl i'r siop ac yn prynu bocs o ganhwyllau.

    Am 5 o'r gloch mae ffrindiau Owain yn cyrraedd – lot o hwyl, lot o chwerthin a lot o fwyd, gan gynnwys y gacen. Cacen siocled. Hoff gacen Owain! Mae Mam yn cynnau'r canhwyllau, mae pawb yn canu 'Pen-blwydd Hapus' unwaith eto ac mae Owain yn chwythu ar y canhwyllau ac maen nhw'n diffodd. Am 9 o'r gloch mae ffrindiau Owain yn mynd adre. Mae Owain wedi blino'n lân ond mae e'n hapus. Mae hi wedi bod yn ddiwrnod hir ond yn ddiwrnod da. Mae e'n mynd i fyny'r grisiau i'r gwely ac wrth fynd i gysgu mae e'n edrych ymlaen at ei ben-blwydd yn 13 mlwydd oed flwyddyn nesa.

    .

    ...


    This is the sixth in a new series of revision translation exercises written by Matt Spry  ( Eisteddfod Welsh Language Learner 2018). These exercises utilize the vocabulary and grammar that you have already learned on the Croeseiriau Cymraeg course so far. There may be one or two words that you are unfamiliar with but you can always look them up. There will be six exercises  in the series when complete. 

    As you can see above the English and Welsh texts are on separate tabs SO you can translate from Welsh to English or vice versa. You can also use the Welsh text as a reading and comprehension exercise if you don't feel fully confident to translate it straight off the bat. We are sure that this resource will prove invaluable however you decide to use it. Mwynhewch!

    Translation Exercises

    Traeth - Beach

    Gwaith - Work

    Y Siop Lyfrau - The Book Shop

    Ysgol - School

    Chwaraeon - Sports

    Pen-blwydd - Birthday