Ceri Shaw


 

Stats

Playlists: 6
Blogs: 1926
events: 233
youtube videos: 537
SoundCloud Tracks: 21
images: 827
Files: 55
Invitations: 9
Groups: 33
audio tracks: 1098
videos: 8
Facebook

Ani Glass reveals new single 'Peirianwaith Perffaith'(Perfect Machinery) & Shows including Pop Montreal as part of Focus Wales delegation!

user image 2018-09-17
By: Ceri Shaw
Posted in: Music


Ani Glass  Peirianwaith Perffaith by Ani Saunders.jpg

“Ani transcends language with her shimmering take on pop.” Eugenie Johnson – DIY


Ani Glass releases her new single 'Peirianwaith Perffaith' (Perfect Machinery) on the 26th of October through Recordiau Neb. She will be performing at Pop Montréal on the 28th and 29th of September and will be attending as part of the Focus Wales delegation, supported by PRS Foundation's International Showcase Fund and Wales Arts International.

Ani Glass is back with her new single 'Peirianwaith Perffaith' (Perfect Machinery) underpinned by a tapestry of pulsing and prodding synths, samples and programmed beats bathed in the neon of the city’s industrial glow. Her sublime pirouetting vocal refrains infuses a knowing pop universality into the overwhelming experience of life in the city’s engine room. Ani says it’s about how the “search for identity in a moving city and society insists on a sense of stillness often found in the shadows of progress”.

Released as a single in 2016, the industrial electro-pop of ‘Y Ddawns’ (The Dance) is a rallying call for those seeking inspiration in language and art. Laura Snapes of Pitchfork said it was "a double-edged sword that's as stern as it is hopeful; music for the end of the world, and the start of a new one." While BBC Wales’s Bethan Elfyn named it “Perfect Euro Pop!”

Ani followed this with the release of her debut EP ‘Ffrwydrad Tawel’ (Silent Explosion) on Recordiau Neb which included six infectious, socially conscious electronic pop songs. They stand as a document of Ani Glass’s artistic evolution invested with grander themes concerning the Welsh language and politics. A Remix version of the EP was later released and featured reinterpretations by Carcharorion, Cotton Wolf, Plyci and R. Seiliog.

Biography

Ani Glass is the persona of Cardiff-based electronic pop musician, producer, artist and photographer, Ani Saunders. Fiercely proud of her heritage, Glass sings in her native languages Welsh and Cornish, and in 2016 released her first solo material with lead single ‘Ffôl’ (Foolish) being chosen as single of the week on BBC Radio Cymru and gaining plays on BBC 6 music.

Ani is also known for her work with The Pipettes, joining in 2008 to record the Martin Rushent-produced Earth Vs. The Pipettes album. Prior to her stint with the polka-dotted pop band, Glass was a member of Genie Queen, managed by OMD’s Andy McCluskey.

Gigs

28.09 Casa Del Popolo - Montréal (Pop Montréal)
29.09 Marché des Possibles Park - Montréal (Pop Montréal)
03.10 Clwb Ifor Bach – Cardiff (Forté Project & FOCUS Wales)

Links

Website http://www.recordiauneb.com/
Facebook https://www.facebook.com/aniglasscymru/
Twitter https://twitter.com/AniSaunders
Soundcloud https://soundcloud.com/aniglass


Ar y 26ain o Hydref, bydd Ani Glass yn rhyddhau ei sengl newydd Peirianwaith Perffaith ar Recordiau Neb. Fe fydd Glass yn perfformio yng Ngŵyl Pop Montréal ar y 28ain a’r 29ain o fis Medi fel rhan o ddirprwyaeth Gŵyl Focus Wales – a hyn wedi iddi dderbyn cefnogaeth PRS Foundation a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Mae Ani Glass nôl gyda’i sengl newydd ‘Peirianwaith Perffaith’ sy’n frodwaith o synau synth gofodol, samplau a churiadau diwydiannol. Mae pob nodyn o’i llais yn arnofio’n swynol uwchben sain peirianyddol y ddinas. Yn ôl Ani, mae’r gân yn trafod yr ysfa i “chwilio am hunaniaeth yng nghanol dryswch y ddinas a ffeindio cysur a llonyddwch yng nghysgodion gobaith”.

Rhyddhawyd sengl ‘Y Ddawns’ yn 2016 – roedd yn alwad ar y rheiny oedd yn chwilio am ysbrydoliaeth mewn iaith a chelf. Yn ôl Laura Snapes o Pitchfork, roedd y gân yn "gerddoriaeth ar gyfer diwedd y byd, a dechrau un newydd" tra disgrifiodd Bethan Elfyn BBC Wales hi’n “Ewro-pop perffaith!”

Yn dilyn hyn, fe wnaeth Ani rhyddhau ei EP cyntaf, ‘Ffrwydrad Tawel’, ar Recordiau Neb. Roedd yn cynnwys chwe chân pop – saif fel ddogfen o esblygiad Ani fel artist wrth iddi ymwneud â themâu ehangach gan gynnwys yr iaith Gymraeg a gwleidyddiaeth. Rhyddhawyd fersiwn remics o'r EP yn ddiweddarach a oedd yn cynnwys ail-ddehongliadau gan Carcharorion, Cotton Wolf, Plyci ac R. Seiliog.

Bio

Ani Glass yw persona’r gerddores gerddoriaeth bop electronig, artist, ffotograffydd a chynhyrchwraig Ani Saunders. Bydd Ani Glass yn canu yn ei hieithoedd brodorol sef y Gymraeg a’r Gernyweg ac y mae’n hynod falch o’i hetifeddiaeth. Rhyddhaodd ei gwaith cyntaf fel unawdydd yn ystod 2016. Cafodd ei phrif record sengl ‘Ffôl’ ei dewis yn ‘sengl yr wythnos’ gan BBC Radio Cymru ac yr oedd i’w chlywed ar sianel BBC 6 Music.

Bu Ani yn aelod o The Pipettes, gan ymuno yn 2008 a recordio’r albwm Earth Vs. The Pipettes gyda’r cynhyrchydd Martin Rushent. Cyn hyn roedd Glass yn aelod o Genie Queen a oedd yn cael eu rheoli gan Andy McCluskey o’r grŵp OMD.

Gigs

28.09 Casa Del Popolo - Montréal (Pop Montréal)
29.09 Marché des Possibles Park - Montréal (Pop Montréal)
03.10 Clwb Ifor Bach – Caerdydd (Forté Project & FOCUS Wales)

Lincs

Gwefan http://www.recordiauneb.com/
Facebook https://www.facebook.com/aniglasscymru/
Twitter https://twitter.com/AniSaunders
Soundcloud https://soundcloud.com/aniglass