Ceri Shaw


 

Stats

Playlists: 6
Blogs: 1938
events: 233
youtube videos: 537
SoundCloud Tracks: 21
images: 827
Files: 55
Invitations: 9
Groups: 33
audio tracks: 1098
videos: 8
Facebook

SYBS Debut Album / Albym Gynta 'Olew Nadroedd' Out / Mas 03.05 via Libertino

user image 2024-05-03
By: Ceri Shaw
Posted in: Music
SYBS.jpg
ALBWM CYNTAF SYBS ALLAN YFORY AR LIBERTINO

Mae albwm cyntaf SYBS, 'Olew Nadroedd', yn gapsiwl amser teimladwy o’r cyffro a’r pryderon â ddaw ynghyd wrth dyfu fyny. Er bod y byd o'n cwmpas yn gyffrous a'n lliwgar, mae ymroi yn llawn i'r profiadau newydd hynny yn frawychus ac ar adegau, yn anghyfforddus. Dyna'n union mae Osian Llŷr (cyfansoddwr, prif leisydd a gitarydd SYBS) yn ei gyfleu ar yr albwm.

Eglura Osain: "Yr hyn roedden ni moen cyflawni gyda ‘Olew Nadroedd’ oedd cymryd snapshot o ble oedden ni fel band pan gafodd llawer o’r caneuon eu cyfansoddi; ble roeddem ni’n arbrofi llawer ac yn ceisio ffeindio ein ‘sŵn’, a ble o ni’n agored i fyd o ddylanwadau cerddorol gwahanol.

Cefais fy ysbrydoli gan albyms fel 'I Can Hear the Heart Beating as One' gan Yo La Tengo a 'Fantasma' gan Cornelius, sy'n teimlo fel ryw collages mawr o synau a genres gwahanol, ond sy'n dal i swnio fel eu bod yn perthyn i'r un lle.

Roedd e’n adeg gyffrous iawn yn ein bywydau cyn covid, lle’r oedd y rhan fwyaf ohonom wedi symud i ddinasoedd gwahanol ar gyfer y brifysgol a'n cael yr holl brofiadau newydd yma, ond yn dal i ddod yn ôl i gigio yng Nghaerdydd yn aml iawn. Dwi’n hoffi meddwl ein bo' ni wedi llwyddo i ddal ychydig o’r anhrefn a’r egni o’r cyfnod hwnnw ar yr albwm.

Mae llawer o'r geiriau ar yr albwm yn fyfyriol, yn bryderus a'n ansicr, ond mae'r gerddoriaeth ar y cyfan yn lliwgar, swnllyd, a'n 'llawn'; a dwi'n teimlo bod hynny yn cyfleu'r ddeuoliaeth o ble'r oedden ni pan ddechreuon ni ddod â'r albwm at ei gilydd yn 2018."

Bydd 'Olew Nadroedd' allan ddydd Gwener 3ydd o Fai ar Libertino.
 
 

SYBS' DEBUT ALBUM OUT TOMORROW VIA LIBERTINO

SYBS' debut album, 'Olew Nadroedd', is a moving time capsule of the excitement and wide eye wonder — on one hand fear, and anxiety on the other — of young adulthood. The world outside entices and enthrals yet there is trepidation in fully embracing a life beyond the comfort of childhood. It’s this dichotomy that Osian Llŷr (songwriter, vocalist, guitarist) captures with every note and lyric on SYBS' debut album.

Osian explains: “I think what we wanted to achieve with 'Olew Nadroedd' is a snapshot of where we were as a band when a lot these songs came to fruition; when we were still experimenting with finding our sound, and where we opened ourselves up to a world of musical influences where anything goes.

I was really inspired by albums such as ‘I Can Hear the Heart Beating as One’ by Yo La Tengo and ‘Fantasma’ by Cornelius, that feel like this big collage of sounds and genres, but still manage to sound like they’re coming from the same source.

It was a really exciting time in our lives pre-covid where most of us had moved to different cities for university and were having all these new experiences, but still gigging in Cardiff very frequently, and I like to think we’ve managed to capture some of that chaos and energy in the album.

A lot of the lyrics are reflective, anxious and uncertain but the music for the most part is vibrant, noisy, and almost hyperactive; and I feel like that really captures the dichotomy of where we were at when the album started coming together around 2018. You have all this enthusiasm and curiosity for the world but you’re not really sure what to make of any of it or what you’re meant to be doing, so you end up being open to everything.”

'Olew Nadroedd' is out this Friday 3rd May via Libertino.