llyfr newydd Dulais Rhys: 'Blodwen yn America' (Dydd Gwyl Dewi 2023)
Blodwen yn America Hanes y perfformiad cyntaf yn yr Unol Daleithiau o Blodwen Joseph Parry,
sef opera gyntaf – a Chymraeg – Cymru. Llyfr newydd gan Dulais Rhys – Dydd G ŵyl Dewi 2023
Cyhoeddwyd gan Eres Books yn yr Unol Daleithiau: eresbooks.com
Ym mis Mai 2019, yn Billings, Montana yn yr Unol Daleithiau, perfformiwyd opera Joseph Parry Blodwen gan Rimrock Opera Foundation yn NOVA Center for the Performing Arts. Dyma oedd y perfformiad llwyfan llawn c yntaf o Blodwen yn America a’r cwmni opera oedd y cyntaf yn y wlad i ganu yn Gymraeg.
Yn dilyn braslun o fywyd a gyrfa gerddorol Joseph Parry, amlinellir hanes ei operâu, gan ganolbwyntio ar Blodwen , ei opera gyntaf, a’i phwysigrwydd yn hanes cerddoriaeth Cymru; yna manylir ar gysylltiad yr awdur gyda Joseph Parry.
Yn 1978, ar gyfer dathlu canmlwyddiant perfformiad cyntaf Blodwen , cynhaliodd Gŵyl Gerdd Menai berfformiad cyngerdd o’r opera. Ar gyfer yr ŵyl, creodd yr awdur fersiwn cerddorfa newydd a oedd yn seiliedig ar lawysgrif wreiddiol Parry – gwaith a wnaethpwyd tra oedd yn fyfyriwr yn yr Unol Daleithiau. Yn dilyn llwyddiant y perfformiad, creodd yr awdur fersiwn siambr o’r sgôr, fel y gellid perfformio Blodwen mewn theatrau llai a gyda cherddorfa fach.
Ar ôl ymfudo i’r Unol Daleithiau yn 2011, cynigiodd yr awdur y trefniant i gwmnïau opera’r wlad. Derbyniwyd sawl ymateb calonogol ac yn 2016, cymerodd Rimrock Opera Foundation yn Billings yr abwyd a datgan ei fwriad i berfformio Blodwen . Dilynwyd hyn gan gyfnod o drafodaethau, cyfarfodydd cynhyrchu, clyweliad au lleisiol, dethol y corws a gwahodd cantorion proffesiynol (o bell – yn cynnwys Cymru – ac agos) i ymgymryd â phrif rannau’r opera.
Cafodd y cynhyrchiad gyhoeddusrwydd eang yn y wasg a’r cyfryngau ar ddwy ochr yr Iwerydd ac mae Blodwen yn America yn olrhain hanes y trafodaethau, y paratoadau a’r ymarferion ynghyd â’r perfformiadau ac ymateb y gynulleidfa a’r wasg.
In May 2019, in Billings, Montana in the United States, Joseph Parry Blodwen's opera was performed by Rimrock Opera Foundation in Nova Center for the Performing Arts. It was the first full stage performance of Blodwen in America and the opera company was the first in the country to sing in Welsh.
Following a sketch of Joseph Parry's life and musical career, the history of his operas is outlined, focusing on Blodwen, his first opera, and her importance in the history of Welsh music; The author's connection is then detailed with Joseph Parry.
In 1978, to celebrate the centenary of Blodwen's first performance, the Menai Music Festival held a concert performance of the opera. For the festival, the author created a new orchestra version based on Parry's original manuscript - a work done while he was a student in the United States. Following the success of the performance, the author created a chamber version of the score, so that Blodwen could be performed in smaller theaters and with a small orchestra.
After emigrating to the United States in 2011, the author offered the arrangement to the country's opera companies. Several encouraging responses were received and in 2016, Rimrock Opera Foundation took the bait and declared its intention to perform Blodwen. This was followed by a period of discussions, production meetings, vocal auditions, chorus selection and inviting professional singers (remotely - including Wales - and near) to undertake the main parts of the opera.
He received a broad publicity production in the press and media on both sides of the Atlantic and Blodwen in America traces the history of the discussions, preparations and exercises as well as the performances and the audience and press response.