Ceri Shaw


 

Stats

Playlists: 6
Blogs: 1924
events: 233
youtube videos: 537
SoundCloud Tracks: 21
images: 827
Files: 55
Invitations: 9
Groups: 33
audio tracks: 1098
videos: 8
Facebook

N'FAMADY KOUYATÉ - SENGL 'AROS I FI YNA' FT LISA JEN BROWN ALLAN NAWR AR LIBERTINO / N'FAMADY KOUYATÉ - SINGLE 'AROS I FI YNA' OUT NOW ON LIBERTINO

user image 2021-09-22
By: Ceri Shaw
Posted in: Music

356595.jpg


Mae'r brif sengl oddi ar EP cyntaf N'famady Koyaté ‘Aros i Fi Yna’ yn teimlo fel heulwen braf yr haf bach mihangel yn ein cofleidio. Yn un o uchafbwyntiau cerddorol perfformiadau hwylus a llwyddiannus y band mewn sawl gŵyl o Dyn Gwyrdd i Ganolfan Mileniwm Cymru, i enwi ond ychydig.  

Mae 'Aros i Fi Yna' yn cynnwys perfformiad gan Lisa Jên Brown (9Bach), yn gân serch sy'n estyn dros gyfandiroedd ac sy'n cael ei fynegi drwy gerddoriaeth afieithus a chywrain N'famady. Mae ei gerddoriaeth wedi'i wreiddio yn nhraddodiad Mandingue o'i famwlad yng Ngorllewin Affrica gydag ysbrydoliaeth gan gerddoriaeth indi, pop a jazz o'i gartref newydd yng Nghymru.  "Esblygodd 'Aros i Fi Yna' o fy nghân wreiddiol ‘Dianamô’, yna addaswyd i'r Gymraeg.

Mae'n gân serch am hiraeth a gwahanu; wedi'i ysbrydoli gan yr amser y bûm i'n byw mewn cyfandir gwahanol i'm nghariad, fe drefnon ni gwrdd â'n gilydd hanner ffordd" - N'famady Kouyaté.  Mae N'famady wrthi'n teithio gyda Gruff Rhys ar ei daith albym 'Seeking New Gods'. Bydd 'Aros i Fi Yna' yn cael ei ryddhau fel sengl ar 17 Medi ar Recordiau Libertino.  


The title track from N’famady Kouyaté's debut EP 'Aros I Fi Yna' feels like the last rays of summer’s golden sun washing over us. It’s a song that became a key musical highlight in N’famady’s joyous and successful performances during this years festival season ….. from Green Man to Cardiff’s Mileniwm Centre, to name just two.  

'Aros I Fi Yna' features a guest performance by Lisa Jên Brown (9Bach). It's a love song stretching across continents and expressed through N’famady’s exuberant and intricate music…..Music that’s rooted in the Mandingue tradition of his West African homeland with inspiration from indie, pop, and jazz of his new home in Wales.  “Aros I fi Yna evolved from my original song "Dianamô" which means 'your one' and was adapted into Welsh.  

It is a song of love, separation, and longing; inspired by the time when I was living in a different continent to my love, and we arranged to meet each other half way.” - N’famady Kouyaté  N’famady is now out on the road playing with Gruff Rhys on his Seeking New Gods album tour. 'Aros i Fi Yna' will be released as a single on 17 September on Libertino Records.


Social Links:

https://m.facebook.com/ successorsofthemandinguemusic/

https://twitter.com/nfamady_ kouyate