New Welsh Americana band ‘Tapestri;’ release first single - 'Y Fflam'
Bydd Sera Zyborska (o Gaernarfon) a Lowri Evans (o Drefdraeth Sir Benfro) yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd miwsig Cymru fel artistiaid dwyieithog sydd wedi bod yn ysgrifennu, perfformio a recordio yn unigol ers amser. Rhyngddynt maent wedi cael eu hyrwyddo ar BBC 6 Music, Radio 2, wedi perfformio ym mhobman o ŵyl y Dyn Gwyrdd i Gŵyl Rhif 6, o King Tut’s yn Glasgow i’r Union Chapel; O Gymru i America i Ffrainc, sydd fel mae'n digwydd, lle bu’r ddwy yn cyfarfod am y tro cyntaf y llynedd, wrth berfformio ym mhafiliwn Cymru yng ngŵyl Lorient yn Awst 2019.
Sbardunodd y cyfarfod cyntaf hwn syniad i ffurfio band gyda merched ar y blaen, a chreu eu brand eu hunain o ‘Americana’; band â all berfformio ar lwyfannau mawr a chynrychioli lleisiau menywod. Wedi’i ysbrydoli gan The Highwomen, ‘supergroup’ o’r Unol Daleithiau sy’n cynnwys Brandi Carlile ac Amanda Shires, a ffurfiodd fel ymateb i ddiffyg cynrychiolaeth artistiaid benywaidd ar radio a gwyliau canu gwlad.
Mae ei caneuon yn cymryd eu lliwiau cerddorol o balet eang sy'n cynnwys Americana, ‘Roots’, Gwerin a Gwlad.
Mae nhw wedi cael dechrau anodd a dweud y lleiaf. Roedd Tapestri am lansio mewn sioe yn Y Galeri Caernarfon yn ôl ym mis Chwefror, ond cafodd ei ganslo oherwydd difrod i'r theatr gan Storm Ciara. Yna fe gafodd ei phlaniau i recordio a rhyddhau EP a mynd ar daith haf, fel gyda llawer o artistiaid a bandiau eraill, ei effeithio gan amodau Covid-19. Ond er eu bod yn byw 4 awr ar wahân, mae Lowri a Sera wedi llwyddo i barhau i weithio ar eu recordiadau. ‘Y Fflam’ yw fersiwn Gymraeg o’i trac ‘Open Flame’ a fydd ar eu EP yn y dyfodol.
‘Y Fflam’ is the first single from newly formed ‘Tapestri;’ the Americana band fronted by Lowri Evans and Sera Zyborska
Sera (from Caernarfon) and Lowri (from Newport Pembs) will be especially familiar to Welsh music audiences as two bilingual singer-songwriters that have been writing, performing and recording as solo artists for some time. Between them they have been championed on BBC 6 Music, Radio 2, performed everywhere from Greenman, Festival Number 6, from King Tut’s to the Union Chapel; From Wales to America to France, which is as it happens, where the two met for the first time last year, performing at the Welsh Pavilion at the Lorient Celtic festival in August 2019.
This first meeting sparked an idea to form a female fronted band and to create their own brand of Americana; an act that could headline and represent women’s voices. Inspired by The Highwomen , a US ‘supergroup’ featuring Brandi Carlile and Amanda Shires, who formed as a response to the lack of representation of women artists on country music radio and festivals.
Their songs take their musical colours from a broad palette that includes Americana, Roots, Folk and Country, all beautifully knitted together through their innate musicality and heartfelt delivery.
They’ve had a bumpy start to say the least. Tapestri was due to launch at a show in Y Galeri Caernarfon back in February, which was cancelled due to theatre damage from Storm Ciara. Their EP release and subsequent summer tour then, as with many other artists and bands, suffered from the effects of the Covid-19 lockdown. But despite being a 4 hour drive apart, Lowri and Sera have managed to continue to work on their recordings. ‘Y Fflam’ is the Welsh language version of their ‘Open Flame’ track from their forthcoming EP.
Cyfryngau Cymdeithasol/Social Media
www.facebook.com/tapestrimusic
Twitter @tapestrimusic
Instagram @tapestrimusic
Cysylltu/Contact
Bookings: tapestrimusic@gmail.com
Label: Shimi Records
Cyfryngau/Media: kev@pyst.cymru / Nannon@pyst.cymru