Ceri Shaw


 

Stats

Playlists: 6
Blogs: 1925
events: 233
youtube videos: 537
SoundCloud Tracks: 21
images: 827
Files: 55
Invitations: 9
Groups: 33
audio tracks: 1098
videos: 8
Facebook

Breichiau Hir announce new double A side single on Libertino Records

user image 2019-09-08
By: Ceri Shaw
Posted in: Music
Artwork.jpg

Yn gymsgedd byrlymus o gords gwych sy'n symud o'r bygythiol, miniog, a ffrwydol i dristwch synfyfyriol mae sengl ddwbwl  newydd Breichiau Hir yn destament i hyder cynyddol y band. Mae eu senglau diweddaraf yn profi bod Breichiau Hir yn torri  cwys eu hun. Mae'r sengl ddwbwl 'Yn Dawel Bach / Saethu Tri' yn perthyn i'w gilydd, maent yn dod o'r un man greadigol ac  emosiynol fel esbonia'r prif leisydd Steffan Dafydd - 


"Mae Saethu Tri yn esbonio'r ofn a'r edifarhad sy'n gallu dod drosta i, a sut yr ydw i byth rili'n siwr sut i ddelio ag e. Dwi ddim  yn trio dramateiddio'r teimlad yn y gân, dwi'n cadw'r disgrifio'n blaen ac yn onest, yn cyfleu'r gwacter a'r diflastod sy'n dod law  yn llaw a'r teimlad hwnnw. Mae'n drist ac yn dywyll"

"Mae Yn Dawel Bach yn ymateb uniongyrchol i'r ofn dwi'n siarad amdano yn Saethu Tri. Mae'n pwyntio allan y tonnau o banig  sy'n gallu dy lethu ar unrhyw adeg. Gall y teimlad grasho ar dy ben di lle bynnag yr wyt ti. Dyw e ddim yn gofyn caniatad, ma fe  jyst yn cyrraedd, heb wahoddiad a heb i neb ofyn amdano."

Mae'r emosiynau bregus yma i'w clywed trwy'r ddau trac ac yn cael eu disgrifio mewn modd hyfryd. Mae'r penillion llonydd yn  denu'r gwrandawydd mewn i rhyw fyd ffug-ddiogel cyn i wal enfawr o sŵn ddod i ddinistrio'r byd hwnnw.

Bydd y sengl ddwbwl ar gael ar niferoedd cyfyngedig o dapiau a bydd Breichiau Hir yn dathlu'r sengl ddwbwl yn The Dojo, Kings Road Yard, Caerdydd ar Medi 28.

++++++++++++++++++++++++++++++ +++++++

To move from the caustic, the abrasive, the aggressive to a pensive sadness that eventually brake’s into a cacophony of blistering  chords with such ease is a testament to Breichiau Hir’s growing confidence. The last 12 month of releases has shown a band forever forging their own individual path. ‘Yn Dawel Bach / Saethu Tri’ is their new Double A side single, it’s also the band's most  melodic songs to date. These songs combine Breichiau Hir’s love for loud noise and soft sad moments. Emphatic sounds and melancholic atmosphere.  ‘Yn Dawel Bach / Saethu Tri’ belong together, they come from the same emotional and creative place. As Steffan Dafydd the bands lyricist and vocalist explains:

“In Saethu Tri, I outline the dread or regret that can overcome me and how I’m never totally sure how to deal with it. I don’t dramatise  it in the song, I kept it matter of factly and tried to convey the numbness and dullness that comes with it. It’s wistful and sombre.”

“Yn Dawel Bach is nearly a response to this dread I talk about in Saethu Tri. It basically points out that these waves of panic can overwhelm you whenever it wishes. It can come crashing at you wherever you are. It doesn’t ask permission, it just arrives, unannounced and uninvited.”

These frail emotional landscapes the songs move through are beautifully conveyed. Calm verses that ease the listener into a false sense  of security and control before a wall of sound blissfully brakes into the chorus.

The single will be available on limited edition cassette tape and Breichiau Hir will celebrate the release with a launch night at The Dojo, Kings Road Yard, Cardiff on September 28th.

Breichiau Hir Links: 

https://breichiauhir.bandcamp.com
https://www.facebook.com/BreichiauHir/
soundcloud.com/breichiauhir
https://twitter.com/BreichiauHir
https://www.instagram.com/breichiauhir
https://open.spotify.com/artist/6w8gBGhM600UpUlfHtrhWy


BreichiauPress.jpg