Ceri Shaw


 

Stats

Playlists: 6
Blogs: 1926
events: 233
youtube videos: 537
SoundCloud Tracks: 21
images: 827
Files: 55
Invitations: 9
Groups: 33
audio tracks: 1098
videos: 8
Facebook

THE SEARCH FOR 12 NEW HORIZONS ARTISTS IS ON / DATGANIAD I'R WASG - Y CHWILIO AM 12 ARTIST GORWELION NEWYDD WEDI DECHRAU

user image 2019-04-04
By: Ceri Shaw
Posted in: Music

image004.png BBC Cymru Wales and Arts Council of Wales are today announcing that the search for Horizons artists to join its 2019 project is now underway.

Celebrating its 5th year this year, Horizons has given a platform to over 48 emerging artists from Wales giving them opportunities to reach new audiences in Wales, the UK and beyond. And now they’re looking for 12 new artists.

The application process is now open. The 12 successful acts will be supported in various ways over the next 12 months – with opportunities to appear at festivals and events, on the radio including BBC Wales’ national services - BBC Radio Cymru and BBC Radio Wales and on social media.

The Horizons project aims to showcase promising talent in Wales. Highlights over the past five years include recording at the world-renowned Rockfield Studios in Monmouthshire, Maida Vale Studios in London, and an exclusive collaboration with partners like the Football Association of Wales who are currently showcasing Horizons’ artist’s music as the soundtrack of Welsh football.

As the Horizons project celebrates its fifth year, there are plans to work with new partners as well as bring a host of new and former Horizons artists together to create some extra special moments across 2019.

Bethan Elfyn, Project Manager of Horizons at BBC Wales, said:

“We’re looking forward to welcoming 12 new musical talents to the project. In this fifth year we’ll be on a mission to celebrate the role the project plays; we’re proud of everything from the grassroots work we do to the larger scale collaborations, representing a wide range of diverse musical styles, talents, locations and backgrounds. Horizons is a crucial injection into an already energised, and prolific Welsh music scene.”

“By supporting a group of artists, not only do we help nurture new talent but create a window on Welsh music at home as well as further afield. Our vision continues to be to bring a new, fresh sound to represent a modern Wales – and some of the stories from the Welsh music world are having a huge cultural impact at a crucial time.”

Lisa Matthews, Portfolio Manager at Arts Council of Wales, says:

"We’re proud to support Horizons for a further year and see another 12 artists have a creative and potentially career changing year. There’s been some incredible opportunities created so far and we’re looking forward with excitement to enabling more developmental music experiences."

Applications are open from April 4 to Midnight, May 1, and announcements will follow in June. Acts who want to be considered fill in a form online via bbc.co.uk/horizons . Horizons acts will be selected by a panel of experts from within the partnership and the wider music sector.

Please follow Twitter and Facebook - @horizonscymru - for all the information.

Horizons acts have been showcased at some of the biggest festivals at home and internationally from Glastonbury, The Great Escape, Festival No.6, Focus Wales, to Eurosonic and SXSW and performed sessions at the legendary Maida Vale Studios. In the four years of the project previous Horizons alumni include Himalayas, Candelas, Swnami, Casi, Hannah Grace, Violet Skies, Adwaith, Afrocluster, Baby Queens, Kizzy Crawford, Seazoo, Reuel Elijah, Danielle Lewis and many more who have benefitted from the Horizon’s Project.

HORIZONS 12 EADYTH.jpg

Eadyth, one of the artists from the 2018 project says:

"I was so thrilled to be selected last year for Horizons, and the year has given me the encouragement to keep on with my music. I’ve done all sorts of things including a gig in the woods at San Ffagan and streaming a show live from the Assembly building in Cardiff Bay to an event in New York for Welsh Language Music Day. Another honour was to be the first artist to be chosen to soundtrack the Horizons partnership with the Football Association of Wales’ women’s team campaign. Best of all, I’ve got great gigs lined up with Horizons for the year ahead too."

2018 Horizons band Adwaith added:

"Congratulations to Horizons on their 5th year Anniversary. We started our year with Horizons playing at the Radio One Academy in Swansea last May, and then live on BBC Radio Cymru from the fringe. One of the highlights for us this year was recording at Rockfield Studios – they’re iconic! Another highlight was a gig in London, which started at a networking lunch with Sony. We’ve enjoyed the journey with the Horizons team and met some amazing people on the way too. It's been fun!"

Ian Gwyn Hughes, Head of Public Affairs, Football Association of Wales said of the Horizons/FAW collaboration:

"We're excited to be heading into the new year with Horizons. Music and football are two very special parts of Welsh culture and we’re eager to support new talent from Wales in the music industry by being one of the platforms for bringing new music to a wider audience."


CYMRAEG

image004.png

Mae BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru heddiw’n cyhoeddi bod y chwilio am artistiaid Gorwelion i ymuno â phrosiect 2019 bellach wedi dechrau.

Yn dathlu ei 5ed flwyddyn eleni, mae Gorwelion wedi rhoi llwyfan i dros 48 o artistiaid newydd o Gymru gan roi cyfleoedd iddynt gyrraedd cynulleidfaoedd newydd yng Nghymru, y DU a thu hwnt. Nawr maent yn chwilio am 12 artist newydd.

Mae’r broses ymgeisio nawr yn agored. Bydd y 12 ymgeisydd llwyddiannus yn cael cymorth mewn gwahanol ffyrdd dros y 12 mis nesaf – gyda chyfleoedd i ymddangos mewn gwyliau a digwyddiadau, ar y radio gan gynnwys gwasanaethau cenedlaethol BBC Cymru Wales – BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales ac ar gyfryngau cymdeithasol.

Nod prosiect Gorwelion yw arddangos doniau addawol yng Nghymru. Mae uchafbwyntiau'r pum mlynedd diwethaf yn cynnwys recordio yn Stiwdios Rockfield byd enwog yn Sir Fynwy, Maida Vale Studios yn Llundain a chydweithrediad unigryw gyda phartneriaid fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru sydd ar hyn o bryd yn arddangos cerddoriaeth un o artistiaid Gorwelion fel trac sain pêl-droed Cymru.

Wrth i brosiect Gorwelion ddathlu ei bumed pen-blwydd, mae cynlluniau i weithio gyda phartneriaid newydd yn ogystal â dod â llu o artistiaid newydd a chyn-artistiaid Gorwelion at ei gilydd i greu eiliadau hynod arbennig ar draws 2019.

Dywedodd Bethan Elfyn, Rheolwr Prosiect Gorwelion yn BBC Cymru Wales:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu 12 dawn gerddorol newydd i’r prosiect. Yn y bumed flwyddyn hon byddwn yn mynd ati i ddathlu’r rôl a chwaraeir gan y prosiect; rydym yn falch o bopeth, o’r gwaith ar lawr gwlad i’r gwaith a wnawn ar y cydweithrediadau mwy, gan gynrychioli ystod eang o arddulliau, doniau, lleoliadau a chefndiroedd cerddorol amrywiol. Mae Gorwelion yn gyfraniad pwysig i’r sîn gerddoriaeth Gymreig sydd eisoes yn hynod gynhyrchiol a bywiog.”

“Drwy roi cefnogaeth i grŵp o artistiaid, nid yn unig yr ydym yn helpu i feithrin doniau newydd ond hefyd yn creu ffenestr ar gerddoriaeth Gymreig yma yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein gweledigaeth yn parhau i ddod â sain newydd, ffres i gynrychioli Cymru fodern – ac mae rhai o’r straeon o fyd cerddoriaeth Cymru’n cael effaith ddiwylliannol enfawr ar adeg hynod bwysig.”

Dywedodd Lisa Matthews, Rheolwr Portffolio yng Nghyngor Celfyddydau Cymru:

“Rydyn ni’n falch o gael cefnogi Gorwelion am flwyddyn arall a chael gweld 12 artist arall yn cael blwyddyn greadigol a allai newid eu gyrfaoedd. Mae cyfleoedd anhygoel wedi cael eu creu hyd yma ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at alluogi mwy o gyfleoedd datblygu newydd.”

Bydd modd ymgeisio rhwng Ebrill 4 a Hanner Nos, Mai 1, a bydd cyhoeddiadau'n dilyn ym mis Mehefin. Dylai artistiaid sydd eisiau cael eu hystyried lenwi ffurflen ar-lein drwy bbc.co.uk/horizons . Bydd rhestr Gorwelion yn cael ei dewis gan banel o arbenigwyr yn y bartneriaeth ac yn y sector cerddorol ehangach.

Dilynwch ar Twitter a Facebook os gwelwch yn dda - @horizonscymru - i gael yr holl wybodaeth.

Mae artistiaid Gorwelion wedi cael cyfle i arddangos eu doniau yn rhai o’r gwyliau mwyaf yn y wlad hon ac yn rhyngwladol, o Glastonbury, The Great Escape, Gŵyl Rhif 6, Focus Wales, i Eurosonic a SXSW ac wedi perfformio sesiynau yn Maida Vale Studios chwedlonol. Yn ystod pedair blynedd flaenorol y prosiect, mae’r rhai fu’n cymryd rhan yn cynnwys Himalayas, Candelas, Swnami, Casi, Hannah Grace, Violet Skies, Adwaith, Afrocluster, Baby Queens, Kizzy Crawford, Seazoo, Reuel Elijah, Danielle Lewis a llawer mwy sydd wedi cael budd o Brosiect Gorwelion.

Meddai Eadyth, un o’r artistiaid ar brosiect 2018:

“Roeddwn i wrth fy modd o gael fy newis ar gyfer Gorwelion y llynedd, ac mae’r flwyddyn wedi rhoi anogaeth i mi ddal ati gyda fy ngherddoriaeth. Rydw i wedi gwneud pob math o bethau, gan gynnwys gig yn y coed yn Sain Ffagan, a ffrydio sioe yn fyw o adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd i ddigwyddiad yn Efrog Newydd ar gyfer Dydd Miwsig Cymru. Anrhydedd arall oedd bod yr artist cyntaf i gael ei dewis i ddarparu trac sain partneriaeth Gorwelion gydag ymgyrch tîm merched Cymdeithas Pêl-droed Cymru. A’r peth gorau un, mae gen i gigs gwych wedi’u trefnu gyda Gorwelion ar gyfer y flwyddyn i ddod hefyd.”

HORIZONS 12 ADWAITH.jpg

Ychwanegodd Adwaith, grŵp Gorwelion 2018:

“Llongyfarchiadau i Gorwelion ar eu 5ed Pen-blwydd. Fe wnaethon ni ddechrau ein blwyddyn gyda Gorwelion yn chwarae yn y Radio One Academy yn Abertawe fis Mai diwethaf, ac yna’n fyw ar BBC Radio Cymru o’r ffrinj. Un o’r uchafbwyntiau i ni eleni oedd recordio yn Rockfield Studios - mae nhw’n eiconig! Uchafbwynt arall oedd gig yn Llundain, a ddechreuodd mewn cinio rhwydweithio gyda Sony. Rydyn ni wedi mwynhau’r daith gyda thîm Gorwelion ac wedi cwrdd â phobl wych ar y ffordd hefyd. Mae wedi bod yn hwyl!”

Meddai Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Materion Cyhoeddus Cymdeithas Pêl-droed Cymru am y cydweithio rhwng Gorwelion a’r Gymdeithas:

“Rydym yn gyffrous wrth ddechrau blwyddyn newydd gyda Gorwelion. Mae cerddoriaeth a phêl-droed yn ddwy agwedd arbennig ar ddiwylliant Cymru ac rydym yn awyddus i gefnogi doniau newydd o Gymru yn y diwydiant cerdd drwy fod yn un o’r llwyfannau ar gyfer dod â cherddoriaeth at gynulleidfa ehangach.”

Mae Gorwelion / Horizons yn gynllun a redir gan BBC Cymru Wales mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd yng Nghymru.