Ceri Shaw


 

Stats

Playlists: 6
Blogs: 1924
events: 233
youtube videos: 537
SoundCloud Tracks: 21
images: 827
Files: 55
Invitations: 9
Groups: 33
audio tracks: 1098
videos: 8
Facebook

ROGUE JONES - SENGL NEWYDD/NEW SINGLE: 'TRIONGL DYFED' - ALLAN NAWR / OUT NOW AR/ON LIBERTINO

user image 2022-11-08
By: Ceri Shaw
Posted in: Music
triongl dyfed.jpg
(SCROLL DOWN FOR ENGLISH)
  
'Triongl Dyfed' oedd enw'r ardal o orllewin Cymru lle gwelwyd sawl UFO yn y 1970au a'r 1980au. Cysyniad canolog y gân yw damcaniaeth ddychmygol fod ymosodiadau bwriadol Meibion ​​Glyndŵr i losgi bythynnod gwyliau wedi’u cyflawni gan estroniaid.


Yn cael ei chanu yn bennaf o safbwynt yr estroniaid - mae'r gân yn benthyg o 'Mae Gen i Het Tri Chornel', yn dyfynnu rocwyr y 70au Edward H Dafis 'Mae'n Braf Cael Byw Mewn Tŷ Haf', ac yn enwi'r canwr ac actor chwedlonol Bryn Fôn, a gafodd ei arestio ar gam ar amheuaeth o fod yn aelod o Meibion ​​Glyndwr, yn ogystal ag Owain Glyndŵr ei hun. Roedd Edward H a ​​Bryn Fôn ill dau yn barod iawn i ganiatáu'r band i gyfeirio atynt – mae tawelwch Owain Glyndŵr ar y mater yn fyddarol.

Fel yr albwm cyfan, cafodd ei recordio yn Stiwdios Tŷ Drwg, Grangetown gyda Frank Naughton ac mae’n cynnwys perfformiadau gan Llŷr Parri ar y drymiau a Harri Rees ar y clarinet gyda phopeth arall yn cael ei berfformio gan Bethan ac Ynyr.


“Rydym yn credu bod yr argyfwng ail gartrefi yng Nghymru yn wirion bost ac rydym yn credu y dylai’r llywodraeth ymyrryd i atal prisiau tai rhag codi mor ddramatig ac i ganiatáu i bobl ifanc gafodd eu magu yn yr ardal fedru brynu tŷ fforddiadwy lle maen nhw’n byw” meddai'r band.

*Rhag ofn i'r geiriau gael eu camddehongli; yn bendant nid yw Rogue Jones yn awgrymu mai llosgi ail gartrefi yw’r peth iawn i’w wneud – cân yw hon am estroniaid yn dod i lawr o’r gofod i losgi tai haf*
 

 
'Triongl Dyfed' (The Dyfed Triangle), was the name for the area of west Wales in which there were multiple UFO sightings in the 1970s and 1980s. The central concept of the song is an imagined conspiracy theory that the Meibion Glyndwr holiday cottage arson attacks were carried out by aliens.

Mostly sung from the point of view of the extra-terrestrials – the song borrows from ‘Mae Gen i Het Tri Chornel’ an old welsh nursery rhyme, quotes 70s rockers Edward H Dafis’ hit ‘Mae’n Braf Cael Byw Mewn Tŷ Haf’ (‘It’s nice to live in a holiday home’) and name-checks the legendary singer and actor Bryn Fôn, who was falsely arrested on suspicion of being a member of Meibion Glyndwr, as well as Owain Glyndŵr himself. Both Edward H and Bryn Fôn were extremely accommodating in allowing the band to reference them – Owain Glyndŵr’s silence on the matter is deafening.

As with the whole album, it was recorded in Tŷ Drwg Studios, Grangetown with Frank Naughton and features appearances from Llŷr Parri on drums and Harri Rees on clarinet with everything else performed by Bethan and Ynyr.

"We believe that the second home crisis in Wales is completely out of hand we believe that government should intervene to prevent house prices from rising so dramatically and to allow young people who grew up in the area to buy an affordable home where they live" said the band.

*In case the lyrics get misconstrued; Rogue Jones are categorically not suggesting that burning second homes is the right thing to do - this is a song about aliens coming down from outer space to burn holiday homes*