Recently Rated:
Stats
Activity Stream
DATGANIAD I’R WASG: Ionawr 2019
Mai 10fed, 2019 fydd noson agoriadol cyfres o berfformiadau Americanaidd o Blodwen Joseph Parry – yr opera Gymraeg gyntaf – yn NOVA Center for the Performing Arts, Billings, Montana, UDA, mewn cyd-gynhrychiad gyda Rimrock Opera Foundation.
Cenir yr opera yn Gymraeg(!) gydag uwchdeitlau Saesneg. Ymysg y Cymry a fydd yn rhan o’r cynhyrchiad fydd y Cyfarwyddwr o Gaerdydd, Osian Rhys ynghyd â’r cantorion rhyngwladol Jeremy Huw Williams o Gaerdydd a Nerys Jones o Seattle.
Dyma fydd y cynhyrchiad llwyfan cyfan cyntaf o Blodwen yn America, gan ddefnyddio fersiwn siambr 2015 Dulais Rhys o’r gerddorfaeth. Am fwy o wybodaeth: http://dulaisrhysmusicservices.com/blodwen.htm
TOCYNNAU: http://www.novabillings.org Mae nifer y seddau’n gyfyng, felly’r cyntaf i’r felin …
PRESS RELEASE: January 2019
May 10 th , 2019 will be the opening night of a series of American performances of Joseph Parry’s Blodwen (the first Welsh opera) at NOVA Center for the Performing Arts in Billings, Montana, in a co-production with Rimrock Opera Foundation.
The opera will be sung yn Gymraeg! [in Welsh], with English supertitles. Among the Welsh artists taking part will be the Director from Caerdydd/Cardiff, Osian Rhys and international singers Jeremy Huw Williams of Caerdydd/Cardiff and Nerys Jones of Seattle.
This will be the first complete stage production of Blodwen in America and will use Dulais Rhys’s 2015 chamber version of the orchestration. More information: http://dulaisrhysmusicservices.com/blodwen.htm
TICKETS: http://www.novabillings.org Seating is limited so the early bird …
Diolch for posting
Spreading the word now 