Ceri Shaw


 

Stats

Playlists: 6
Blogs: 1936
events: 233
youtube videos: 537
SoundCloud Tracks: 21
images: 827
Files: 55
Invitations: 9
Groups: 33
audio tracks: 1098
videos: 8
Facebook

MWY O STRAEON FFRAETH I DDYSGWYR GAN SIÔN TOMOS OWEN

user image 2024-08-01
By: Ceri Shaw
Posted in: New Titles

image001 2.jpg


Mae’r arlunydd, cyflwynydd, bardd ac awdur Siôn Tomos Owen yn cyhoeddi ail gyfrol o straeon am fyw yn y Rhondda’r wythnos hon. Mae  Y Fawr a’r Fach 2: Mwy o Straeon o’r Rhondda  yn rhan o’r gyfres Amdani, ac mae llyfr Siôn yn addas ar gyfer dysgwyr lefel Sylfaen.  

Mae Siôn yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C, diolch i  Pobol y Rhondda , cyfres oedd yn mynd ar daith trwy Gwm Rhondda, ac roedd ei gyfrol gyntaf o straeon ffraeth am ei blentyndod a’i arddegau yn boblogaidd iawn.  

Meddai Siôn Tomos Owen:

“Pan sgwennes i’r gyfrol gyntaf nôl yn 2018 ges i lawer o hwyl ond ges i drafferth yn dewis pa storïau i’w cynnwys, ac o’n i’n gwybod byse rhaid i mi sgwennu ail lyfr rhywbryd! Ac ar ôl magu fy mhlant yn y cwm hefyd, mae gen i hyd yn oed mwy o straeon doniol i’w rhannu.  

“Mae’r ymateb i’r gyfrol gyntaf wedi bod yn wych a dwi wedi siarad a gwneud ffrindiau gyda chymaint o ddysgwyr Cymraeg sydd wedi darllen fy llyfr – pobl o Brighton i Lithuania, Gwlad Pwyl a hyd yn oed Santa Barbara yng Nghaliffornia! Ac mae pawb yn dweud eu bod nhw’n mwynhau’r ffaith bod yna gartwnau yn cyd-fynd gyda’r straeon hefyd, sy’n gwneud i fi wenu.”  

Cafodd Siôn Tomos Owen ei eni a’i fagu yn y Rhondda, ac mae e’n byw yno o hyd. Mae’r ail gyfrol yma yn dweud ei hanes yn tyfu’n ddyn a dod yn dad, ac am y lle mae’n ei garu – y Rhondda.  

Mae lluniau du a gwyn Siôn yn cyd-fynd â phob un o’r 18 stori fer. Mae geirfa ar bob tudalen a rhestr eirfa yng nghefn y llyfr.  

Meddai Siôn Tomos Owen:

“Un o fy hoff bethau am deithio yw cwrdd â phobl newydd ac mae’r niferoedd dwi wedi cwrdd â nhw yn ddiweddar sy’n dysgu Cymraeg mor galonogol. Yn ddiweddar, mae teulu ffrind fy merch wedi newid iaith y tŷ i’r Gymraeg ar ôl dysgu’r iaith – rwy’n sgwrsio gyda’r fam ar y ffordd wrth fynd â fy merch i’r ysgol bob dydd. Mae’r profiad yn gwneud i mi eisiau ysgrifennu mwy o lyfrau i ddysgwyr oherwydd y cynnydd yn y nifer o bobl sy’n dysgu ac mae brwdfrydedd dysgwyr i siarad Cymraeg yn anhygoel!”  

Lansiwyd cyfres Amdani yn 2018, prosiect a welodd gweisg Cymru yn cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Chyngor Llyfrau Cymru i ddatblygu a chyhoeddi llyfrau darllen cyffrous yn arbennig at gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Erbyn heddiw mae yna dros 40 o gyfrolau i gyd.  

Mae cyfres Amdani eisoes yn boblogaidd ac wedi meithrin darllenwyr brwd. Y gobaith yw y bydd llyfrau fel straeon Siôn Tomos Owen yn annog darllenwyr hen a newydd i ddatblygu eu Cymraeg.

 

Bydd straeon  Y Fawr a’r Fach 2  yn cael eu darllen bob diwrnod ar Faes D yn yr Eisteddfod Genedlaethol am 2 o’r gloch.

Mae  Y Fawr a’r Fach 2: Mwy o Straeon o’r Rhondda  gan Siôn Tomos Owen ar gael nawr (£6.99, Y Lolfa).


image002.jpg