Ceri Shaw


 

Stats

Playlists: 6
Blogs: 1938
events: 233
youtube videos: 537
SoundCloud Tracks: 21
images: 827
Files: 55
Invitations: 9
Groups: 33
audio tracks: 1098
videos: 8
Facebook

'Yn y Tŷ Hwn' by Sian Northey now published as 'This House'

user image 2024-04-21
By: Ceri Shaw
Posted in: Book News

THIS HOUSE by Sian Northey

Translated from Welsh by Susan Walton

Published by 3TimesRebel Press

Plastic-free paperback with French flaps & Wibalin® endpapers

Pages: 190

ISBN 978-1-7391287-9-1

Price £12.99 / e-book £6.99


Screenshot from 2024-04-21 14-57-11.jpg Our first translation from Welsh comes out this March. The fair trade independent publisher 3TimesRebel Press is excited to announce the publication of This House . It is the sixth fiction title in our groundbreaking and debate-sparking catalogue of works in translation written exclusively by women in minority languages. This House is written by Sian Northey and translated by Susan Walton. It is a novel that comes out of a booming Welsh literary scene, as attested by last year’s Yoto Carnegie medal being awarded for a translation of a Welsh YA novel.

Out 21 March 2024

Grief, solitude, and the inner call to be freed from her past are the threads that beautifully and tightly intertwine in this novel.

Anna has lived alone for decades. She is cocooned by, and marooned in, an isolated cottage called Nant yr Aur in the Welsh mountains. The arrival of Siôn, a young man who seems strangely at home in the house, leads to an unpicking of Anna’s past.

As Anna’s relationship with Siôn develops, her perspective on the solidity of her past shifts. Uncertainty, distortion, illusion and subtle betrayal are gradually exposed. Ultimately, a quietly devastating revelation changes the lives of both Siôn and Anna.

Sian Northey writes with economy and precision, setting out what the life of a middle-aged woman with an emotionally complicated past feels like from the inside.

'Astute, understated, compassionate. Sian Northey gently unpicks the threads of love and memory that bind us to place and to each other. A beautiful, glowing gem of a novel, now brought to a wider audience by Susan Walton's wonderful translation.'

Angharad Price, Welsh academic and novelist.

Sian Northey has been a full-time writer for the last fourteen years. Almost all her work is written and published in Welsh. She is the author of three novels for adults, one poetry collection, three short story collections, several scripts, and numerous children’s and teens’ novels. Her novels are Yn y Tŷ Hwn (Gwasg Gomer, 2011), Rhyd y Gro (Gwasg Gomer, 2016), and Perthyn (Gwasg Gomer, 2019). In 2022 she co-edited the bilingual poetry anthology A470: Poems for the Road/Cerddi'r Ffordd (Arachne Press, 2022).

Sian Northey is also a literary translator. She translated into Welsh the memoir The Journey is Home by John Sam Jones, and Alys Conran’s debut novel, Pigeon , which in its original English won the Wales Book of the Year Award in 2017. Both books were published in English and Welsh by Parthian Books in 2021 and 2016, respectively. She recently translated the award-winning The Last Firefox by Lee Newbery (Penguin Random House, 2022) under the title Y Llwynog Tân Olaf (Firefly Press, 2022).

Susan Walton has been commissioned to translate books from Welsh to English for the publishing house Gwasg Carreg Gwalch since 2009. She has had fourteen translated books published, including eight novels for older children/young adults. During 2020 Susan was mentored under the Literature Wales scheme as an emerging literary translator. This House is her first translation of adult fiction.

ABOUT 3TIMESREBEL PRESS

Based in Dundee, Scotland, and founded by Bibiana Mas, 3TimesRebel Press is an independent publisher like no other, looking to shake up the publishing world and contemporary society.

Challenging the mainstream by being rebel in three ways, 3TimesRebel Press exclusively publish books that are: written in minority languages originally; written by women; and finally written to inspire deep, challenging conversations.

As a pioneering fair-trade publisher, 3TimesRebel Press work to achieve equitable agreements with their authors, translators, illustrators and partners. Their books are locally printed in the UK using responsibly sourced paper, minimising carbon footprint and following environmentally friendly standards. This House is its first plastic-free publication.

3TimesRebel Press are keen to preserve an artisanal feel and meticulous attention to detail in everything they do. Their books are beautifully designed by award-winning master in typography Enric Jardí, and each has a visually striking cover created by a nominated artist.

Website : 3TimesRebel.com | X : @3TimesRebel | Instagram : @3TimesRebel

bbbbb

THIS HOUSE gan Sian Northey

Cyfieithwyd o'r Gymraeg gan Susan Walton

Cyhoeddwyd gan 3TimesRebel Press

Clawr meddal cyfan gwbl di-blastig
gyda fflapiau Ffrengig a thudalennau gweili Wibalin®

Tudalennau: 190

ISBN 978-1-7391287-9-1

Pris £12.99 / e-lyfr £6.99


Screenshot from 2024-04-21 14-57-11.jpg Bydd ein cyfieithiad cyntaf o'r Gymraeg yn ymddangos fis Mawrth eleni. Mae'r cyhoeddwr annibynnol marchnad deg 3TimesRebel wedi gwirioni eu bod yn cyhoeddi This House. Hwn fydd y chweched gyfrol ffuglen yn ein catalog arloesol sydd wedi ennyn cryn drafodaeth – cyfieithiadau Saesneg o lyfrau wedi'u hysgrifennu gan ferched mewn ieithoedd lleiafrifol. Ysgrifennwyd This House gan Sian Northey ac mae wedi cael ei gyfieithu gan Susan Walton. Fel y tystia llwyddiant The Blue Book of Nebo yn ennill gwobr Yoto Carnegie mae'r byd yn barod am gyfieithiadau o lyfrau Cymraeg.

Dyddiad cyhoeddi 21 Mawrth 2024

Galar, unigedd, ac angen menyw i gael ei rhyddhau oddi wrth ei gorffennol yw'r llinynnau sydd yn plethu yn dynn a chelfydd yn y nofel hon.

Mae Anna wedi byw ar ei phen ei hun ers degawdau. Caiff ei gwarchod, a'i hynysu, gan Nant yr Aur, ei chartref anghysbell. Yna mae Siôn yn ymddangos, dyn ifanc sydd fel petai'n od o gartrefol yn y tŷ, ac mae hynny'n arwain at ddatod gwead gorffennol Anna.

Wrth i berthynas Anna a Siôn ddatblygu, sylweddola nad yw ei gorffennol mor gadarn ag y dychmygai. Bob yn dipyn datgelir ansicrwydd, twyll a brad tawel. Yn y diwedd mae datguddiad distaw ddinistriol yn newid bywydau Siôn ac Anna.

Mae Sian Northey yn awdur eithriadol gynnil, ac yn cyflwyno bywyd mewnol menyw ganol oed sydd â gorffennol emosiynol gymhleth.

Craff, cynnil a thawel angerddol. Perl o nofel sy'n datod edefynnau cariad a'r cofion sy'n ein clymu wrth le ac i'n gilydd. A braf yw gweld dawn arbennig Sian Northey yn cyrraedd cynulleidfa ehangach trwy gyfieithiad meistrolgar Susan Walton.

Angharad Price

Bu Sian Northey yn awdur llawn amser ers bron i bymtheg mlynedd bellach. Mae wedi cyhoeddi tair nofel i oedolion, un casgliad o gerddi, tri chasgliad o straeon byrion, a sawl llyfr i blant. Mae hefyd yn sgriptio a golygu. Ei nofelau yw Yn y Tŷ Hwn (Gwasg Gomer, 2011), Rhyd y Gro (Gwasg Gomer, 2016), a Perthyn (Gwasg Gomer, 2019). Yn 2022 cyd-olygodd, gyda Ness Owen, A470:Poems for the Road/Cerddi'r Ffordd (Arachne Press, 2022).

Ond mae Sian hefyd yn gyfieithydd llenyddol ei hun. Cyfieithodd gofiant John Sam Jones, The Journey is Home , a nofel gyntaf Alys Conran, Pigeon , i'r Gymraeg o dan y teitlau Y Daith Ydi Adra a Pijin . Yn y Saesneg gwreiddiol enillodd Pigeon Lyfr y Flwyddyn yn 2017 a bu cynhyrchiad llwyfan dwyieithog llwyddiannus. Cyhoeddwyd y llyfrau hyn, yn Saesneg ac yn Gymraeg, gan Parthian. Yn ddiweddar cyfieithodd The Last Firefox gan Lee Newbery (Penguin Random House, 2022) o dan y teitl Y Llwynog Tân Olaf (Firefly Press, 2022). Mae The Last Firefox wedi ennill sawl gwobr.

Mae Susan Walton wedi bod yn cael ei chomisiynu i gyfieithu llyfrau o'r Gymraeg i Saesneg ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch ers 2009. Bellach mae tri ar ddeg o lyfrau a gyfieithwyd ganddi wedi'u cyhoeddi, gan gynnwys saith nofel ar gyfer plant hŷn neu oedolion ifanc. Yn ystod 2020 derbyniodd Susan fentoriaeth dan nawdd cynllun Llenyddiaeth Cymru ar gyfer cyfieithwyr llenyddol newydd. Dyma'r tro cyntaf iddi gyfieithu nofel lenyddol ar gyfer oedolion.

GWYBODAETH AM WASG 3TIMESREBEL

Lleolir y wasg yn Dundee yn yr Alban a chafodd ei sefydlu gan Bibiana Mas. Mae 3TimesRebel yn gyhoeddwr annibynnol unigryw a'r nod yw gweddnewid y byd cyhoeddi a chymdeithas.

Gan herio'r prif-ffrwd trwy fod yn rebel mewn tair ffordd mae pob llyfr sy'n cael ei gyhoeddi gan 3TimesRebel wedi'i ysgrifennu yn wreiddiol mewn iaith leiafrifol, wedi'i ysgrifennu gan fenyw, ac yn olaf wedi'i ysgrifennu i ysbrydoli sgyrsiau dwfn a heriol.

Fel cyhoeddwr marchnad deg blaengar mae 3TimesRebel yn ymdrechu i gael cytundebau teg gyda'i awduron, cyfieithwyr, darlunwyr a phartneriaid. Mae'r llyfrau yn cael eu hargraffu yn lleol yn y DU gan ddefnyddio papur wedi'i gaffael yn gydwybodol, gan wneud yr ôl troed carbon mor fach â phosib a chan gadw at safonau amgylcheddol gyfeillgar. This House fydd y llyfr cyntaf iddynt lwyddo i'w gynhyrchu heb unrhyw blastig yn y clawr hyd yn oed, peth sydd yn anghyffredin iawn.

Mae 3TimesRebel yn awyddus i'r llyfrau gael eu cynhyrchu yn grefftus a chan roi sylw gofalu i'r manylion ym mhob ffordd. Creir dyluniad hardd y llyfrau gan y teipograffydd arobryn Enric Jardí, ac mae clawr trawiadol pob un wedi'i greu gan artist penodol.

Website : 3TimesRebel.com | X : @3TimesRebel | Instagram : @3TimesRebel