Ceri Shaw


 

Stats

Playlists: 6
Blogs: 1938
events: 233
youtube videos: 537
SoundCloud Tracks: 21
images: 827
Files: 55
Invitations: 9
Groups: 33
audio tracks: 1098
videos: 8
Facebook

Datganiad i’r Wasg – Dydd Mawrth, 2 Mehefin 2009 Eisteddfod Llangollen yn dathlu Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr: Mehefin 1af – 7fed

user image 2009-06-03
By: Ceri Shaw
Posted in:

Your browser may not support display of this image.

Datganiad ir Wasg Dydd Mawrth, 2 Mehefin 2009

Eisteddfod Llangollen yn dathlu Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr: Mehefin 1 af 7 fed

Mervyn Cousins yn diolch i 1000 o wirfoddolwyr Llangollen

Ar 5 Mehefin bydd bron i 1000 o wirfoddolwyr Llangollen yn derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith caled mewn digwyddiad arbennig sydd wedi ei drefnu gan Gyfarwyddwr Gweithredol Llangollen, Mervyn Cousins, i gyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr syn dathlu 25 mlynedd eleni. Ers 63 mlynedd, mae Gyl Llangollen wedi bod yn gwbwl dibynnol ar waith caled gwirfoddolwyr; hebddynt, ni fyddair yl yn bodoli .

Mae Cyfarwyddwr Gweithredol Llangollen, Mervyn Cousins ar Cadeirydd , Phil Davies , wedi bod eisiau cydnabod yr holl oriau ou hamser y maer gwirfoddolwyr mor barod iw rhoi pob blwyddyn. Dywedodd Mervyn Cousins : Mae gan yr yl wirfoddolwyr heb eu hail mae gennym bron i 1000 o bobl syn helpu mewn rhyw ffordd ac maen nhwn amrywio o bobl syn dod i Langollen am wythnos yr yl yn unig, i bobl syn llywior Eisteddfod yn ystod y flwyddyn trwy eu haelodaeth or pwyllgorau amrywiol. Mae rhai yn y swyddfa rhan fwyar flwyddyn. Yn syml, ni fyddai modd i ni gynnal yr yl hebddynt ac rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn ffordd o ddiolch iddynt. Bydd hefyd yn gyfle gwych i ddangos ein gwerthfawrogiad or staff sydd hefyd mor ymroddgar.

Dywed Phil Davies , Cadeirydd yr Eisteddfod sydd hefyd yn wirfoddolwr fod gwirfoddoli yn ffordd o fyw i drigolion Llangollen ac maer yl yn dystiolaeth fod gwirfoddoli yn weithgaredd i bobl o bob oedran gydag ymwelwyr yn aml wedi eu syfrdanu gan yr holl bobl ifanc a myfyrwyr syn helpu yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn benodol. A does dim rhaid i chi fyw yn ardal Llangollen i gymryd rhan mae gwirfoddolwyr yn dod o bob cwr or Deyrnas Unedig pob blwyddyn er mwyn bod yn rhan o fwrlwm yr yl. Daw ambell i wirfoddolwr o dramor, gan ychwanegu at naws rhyngwladol yr yl ai nod o hybu dealltwriaeth a chydweithrediad rhwng cenhedloedd.

Caiff lwyddiant yr yl ei sicrhau gan bobl megis Bob Attenburrow, a ddyluniodd poster cyntaf yr Eisteddfod ym 1947 (gweler y llun), a fydd yn dathlu 50 mlynedd o wasanaeth ar Fwrdd yr Eisteddfod eleni. Aelod amhrisiadwy arall or llu o wirfoddolwyr yw Les Potts syn aelod or pwyllgor tocynnau, mae Les wedi mynychu pob Eisteddfod ers y cyntaf ym 1947 ar wahn i ddau tra roedd yn gwneud gwasanaeth gwladol.

Mae Ann Ankers , sydd wedi bod yn wirfoddolwraig ymroddedig ers bron i 50 mlynedd, wedi paratoi casgliad o straeon byrion difyr or enw Miscellany Medley syn gofnod o hynt a helyntion gwirfoddolwyr dros y blynyddoedd (ar gael o Sywddfar Eisteddfod ac ar y maes am 3). Yn l Ann: Ryn ni i gyd yn bwrw mlaen gydan dyletswyddau gwahanol. Byddaf yn meddwl amdano fel jig-so enfawr ble mae gan bawb ddarn, rhai gyda dim ond 1 ac eraill gyda 1000 ond dim ond pan fyddwn yn eu rhoi at ei gilydd y bydd yr yl yn llwyddo. Felly dwin meddwl fod pawb mor bwysig 'i gilydd.

Eleni, maer gwirfoddolwyr yn lansio nwyddau a fydd yn cyd-fynd seremoni codi banerir holl wledydd syn cystadlu bydd yn cael ei gynnal yn gynharach eleni. Bydd y nwyddau newydd yn cynnwys crysau chwys, crysau-t, crysau polo i gyd logor Eisteddfod. Yn ogystal, bydd nwyddau am 99c ar gael i blant. Bydd yr holl nwyddau ar gael o siop yr Eisteddfod neu trwyr wefan. ( www.llangollen2009.com )

Dywedodd Ian Lebbon, Cadeirydd y pwyllgor cyhoeddusrwydd: "Maer nwyddau newydd yn ddeniadol dros ben ac am brisiau cystadleuol iawn. Dwin gobeithio ein bod wedi archebu digon!

-Diwedd-

Nodiadau ir Golygydd

Cyfweliadau ar gael ar gais.

Ymholiadaur Wasg ar Cyfryngau

Am fwy o fanylion cysylltwch Lydia Jones - Mr Producer

Ffn: 02920 916 667

Ebost: llangollen@mrproducer.co.uk

Wythnos Genedlaethol Gwirfoddoli

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.volunteerswe ek.org.uk

Gwybodaeth Gyffredinol am Eisteddfod Llangollen

Am un wythnos, mewn un dref, daw pobl o dros 50 gwlad ynghyd ar gyfer un o ddigwyddiadau mwyaf unigryw Cymru. Ym mis Gorffennaf, daw 50 000 o berfformwyr ac ymwelwyr o bedwar ban byd i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn Nyffryn Dyfrdwy, Gogledd Cymru. Maer digwyddiad cl a diwylliannol hwn, a gaiff ei ystyried fel anrheg Cymru ir Byd, ei sefydlu ym 1947 i hybu heddwch ac ewyllys da rhwng cenhedloedd trwy gerddoriaeth a dawns. Mae Eisteddfod Llangollen yn mynd o nerth i nerth ac erbyn hyn yn un o wyliau mwyaf lliwgar y byd. Ceir thema benodol i bob diwrnod ac yn ystod pob diwrnod mae maes yr yl wastad llawn bwrlwm gyda chystadlaethau ar y brif lwyfan, perfformiadau ar y maes, gweithdai, canu a dawnsio byrfyfyr o bedwar ban byd mewn gwisgoedd traddodiadol. Mae cyngherddau Gala a gaiff eu cynnal gydar nos wedi denu enwau mwyaf y byd adloniant megis Pavarotti, Michael Ball, Elaine Paige, Domingo, Katherine Jenkins a Dame Shirley Bassey. Mae eleni hefyd yn sicr o syfrdanu gyda chyngherddau gyda Barbara Dickson, Syr Willard White, Blake, Natasha Marsh, ac hyd yn oed Cerddoriaeth James Bond, ymhlith y gwesteion arbennig bydd Honor Blackman, sef Pussy Galore! Am goctel ffrwydrol! Ymunwch gweddill y byd, ymynwch yn yr hwyl. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01978 862 001 neu ewch ir wefan: http://www.llangollen2009.com/

Eleni, bydd Gala Agoriadol newydd a chyffroes a gynhelir ar ddydd Llun, Gorffennaf 6. Ymhlith sr y Gala Agoriadol bydd y gantores ifanc, Faryl Smith, Mark Evans o Your Country Needs You, BBC One a hefyd Cr Meibion Froncysyllte. Yn ogystal bydd Cr Meibion buddugol llynedd, Cr Godrer Aran yn perfformio, ynghyd Chantorion Colin Jones ar tenor ifanc, Alexei Kalvecs. Bydd elw or noson yn mynd tuag at Apl Bwrsariaeth Cystadleuwyr Llangollen syn cynnig cefnogaeth ariannol i grwpiau o gystadleuwyr syn teithio o dramor i gystadlu yn yr yl.

Bydd y gyngerdd syfrdanol, Licensed to Thrill ar nos Sul Gorffennaf 12 yn cynnwys perfformiadau o gerddoriaeth James Bond gan Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru dan arweiniad Carl Davies , cyflwynydd y noson bydd y Ferch Bond , Honor Blackman , sef Pussy Galore. Caiff y gynulleidfa eu syfrdanu gan berfformiadau cerddorfaol gwefreiddiol o ganeuon enwog gan gynnwys Goldfinger, You Only Live Twice, ar Bond Theme eiconig. Bydd y noson yn cloi gyda Thn Gwyllt anhygoel a fydd hefyd yn cloi dathliadaur wythnos. Mae Stratstone of Wilmslow wedi gaddo darparu ceir Aston Martin ar gyfer y noson a bydd David Pender Richards - Cadeirydd Aston Martin yn westai anrhydeddus.

Manylion cyffredinol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

  • Maer Eisteddfod yn cynnig platfform i bobl o bedwar ban byd gyfarfod a chyfathrebu drwy iaith ryngwladol greddoriaeth a dawns. Mae hyn yn hybu heddwch, harmoni a dealltwriaeth iachach o ddiwylliant fyd-eang.
  • Mae gan yr Wyl gysylltiadau cryf gydar Cenhedloedd Unedig ac mi enwebwyd i dderbyn Gwobr Nobel am Heddwch yn 2004.
  • Maer Tywysog Charles yn Noddwr ir Eisteddfod a Terry Waite CBE yn Arlywydd.
  • Dechreuwyd yr Eisteddfod gan wirfoddolwyr yn 1947 i hybu heddwch ac Ewyllys Da drwy cerddoriaeth a dawns ac erbyn hyn maer wyl wedi llwyddo i fod yn un o Wyliau goraur byd.
  • Mae eu cyngherddau proffesiynnol au cystadleuthau dyddiol wedi eu rhwymo hefo gweithgareddaur maes.
  • Mae cartrer Eisteddfod yn un o drefi harddar Wlad, yn Nimbych , Gogledd Cymru.
  • Maer maes yn llenwi a lliw, dawns a chan bob blwyddyn gyda digwyddiadau awyr agored, gweithdai a pherfformiadau byrfyfyr o bedwar ban byd.
  • Bu 50 o wledydd yn cystadu yno llynnedd.
  • Bu bron i 4000 o gydtadleuwyr yn perfformio ar lwyfan y Paviliwn yn 2008

Amserlen 2009

Llun 6ed Gorffennaf Gala Agoriadol - Faryl Smith, Mark Evans, Cr Meibion y Fron,

Cantorion Colin Jones, Cr Godrer Aran, Alexei Kalvecs

Mawrth 7ed Gorffennaf Barbara Dickson -Yn Fyw yn Llangollen.

Mercher 8ed Gorffennaf Cyngerdd Heddwch Llangollen.

Iau 9ed Gorffennaf Syr Willard White

Gwener 10ed Gorffennaf Blake a Natasha Marsh

Sadwrn 11ain Gorffennaf Cr y Byd

Sul 12ed Gorffennaf Licensed to Thrill Carl Davies yn cyflwyno cerddoriaeth James Bond

gyda Honor Blackman.

Mawrth 7ed Gorffennaf Diwrnod Ryngwladol y plant

Mercher 8ed Gorffennaf Diwrnod cerddoriaeth a dawns Ryngwladol

Iau 9ed Gorffennaf Diwrnod Ryngwladol Ieuenctid

Gwener 10ed Gorffennaf Diwrnod Ryngwladol Geltaidd a Gwerinol

Sadwrn 11ain Gorffennaf Diwrnod Ryngwladol y Teulu

Sul 12ed (newydd) Diwrnod ychwanegol o weithgareddau a cherddoriaeth ar Maes yr Eisteddfod ac yn dref Llangollen

Ar gyfer tocynnau neu fanylion pellach 01978 862001 neu www.llangollen2009.com

Gwybodaeth Ychwanegol: Caiff ddeiliaid Tocyn Tymor Llawn ddewis o'r seddi gorau yn y Pafiliwn i fwynhau cystadleuthau a chyngherddau'r Eisteddfod o ddydd Mercher hyd ddydd Sadwrn, am ddim ond 125 - gostyngiad rhyfeddol o 23% Yn ychwanegol, mae gostyngiad unigryw ar docynnau Cyngerdd Nos Fawrth - prynwch docyn 35 am 30. Caiff ddeiliaid Tocyn Tymor hefyd Gofraglen yr Eisteddfod yn rhad ac am ddim.