Ceri Shaw


 

Stats

Playlists: 6
Blogs: 1938
events: 233
youtube videos: 537
SoundCloud Tracks: 21
images: 827
Files: 55
Invitations: 9
Groups: 33
audio tracks: 1098
videos: 8
Facebook

Duolingo

user image 2017-02-25
By: Ceri Shaw
Posted in: Cymraeg

A course in Welsh on Duolingo , the free language-learning platform, was launched earlier this year. There are now 405,000 registered Duolingo users from around the world learning Welsh – this compares with 18,000 adults attending Welsh language classes in Wales. There are also 499 virtual Welsh language classrooms in Duolingo serving schools and colleges.

Duolingo includes a language-learning website and app for mobile devices, and provides extensive written lessons and dictation, with speaking practice for more advanced users. The app is available on iOS, Android and Windows 8 and 10 platforms and there is also a Facebook group where Welsh learners can discuss matters related to the course. For more information, visit the Duolingo website on https://www. duolingo .com or download the mobile app from the Apple App Store or Google Play Store.

Congratulations to the developers of the Welsh language course in Duolingo on the success of the enterprise, and in particular to Draig Werdd committee member Richard Morgan, who is one of eight contributors to the course.


Lansiwyd cwrs Cymraeg Duolingo , y platfform dysgu iaith am ddim, yn gynharach eleni. Erbyn hyn mae 405,000 o ddefnyddwyr Duolingo o bob cwr o’r byd yn dysgu Cymraeg – mae hyn yn cymharu â 18,000 o oedolion sy’n mynychu dosbarthiadau Cymraeg yng Nghymru. Mae yna hefyd 499 o ystafelloedd dosbarth Cymraeg yn Duolingo sydd yn gwasanaethu ysgolion a cholegau.

Mae Duolingo yn cynnwys gwefan ddysgu iaith ac app ar gyfer dyfeisiau symudol, ac yn darparu gwersi ysgrifenedig ac arddweud, gydag ymarfer siarad i ddefnyddwyr profiadol. Mae’r app ar gael ar iOS, Android a llwyfannau Windows 8 a 10 ac mae yna hefyd grŵp Facebook lle gall dysgwyr y Gymraeg drafod materion sydd yn ymwneud â’r cwrs. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Duolingo ar https://www. duolingo .com neu lawrlwytho’r app symudol o’r Apple App Store neu’r Google Play Store.

Llongyfarchiadau i ddatblygwyr y cwrs Cymraeg yn Duolingo ar lwyddiant y fenter, ac yn arbennig i aelod pwyllgor Draig Werdd Richard Morgan, sydd yn un o wyth o gyfranwyr i’r cwrs.