Ceri Shaw


 

Stats

Playlists: 6
Blogs: 1938
events: 233
youtube videos: 537
SoundCloud Tracks: 21
images: 827
Files: 55
Invitations: 9
Groups: 33
audio tracks: 1098
videos: 8
Facebook

BANERI GLYNDŴR MAWR IAWN 5” x 8”

user image 2012-06-18
By: Ceri Shaw
Posted in:

A message from member Sian Ifan :-

"Roeddwn wedi ymchwilio i mewn ir posibilrwydd yma llynedd ond wedi ei osod i un ochr oherwydd prysurdeb ond, mae na nifer go lew eto eleni wedi ymholi am faneri Glyndr mawr iawn 5 X 8. Gallaf archebu'r rhain ond, maen rhaid archebu o leiaf 200 ohonynt - a chyn y byddaf yn barod i wneud hynny, mae na ofyn i fi gael archebion pendant oddi wrth unrhyw un sydd am gael un or baneri. 15 yr un fydd y pris a 1 am gludiant.

Lle a phryd gellir defnyddior faner enfawr yma:

Ar ddyddiau pwysig yn ymwneud ag Owain Glyndr sef:

Mai 28: Dydd Pen-blwydd Owain Glyndr

Mehefin 21: Dydd Coroni Owain Glyndr a Dydd y Senedd.

Medi 16: Dydd Glyndr - Dydd Annibyniaeth.

Ar eich cartrefi neu ar bolyn yn yr ardd. Ar bolyn tu allan i siopau, gwestai, tafarndai, adeiladau dinesig, ysgolion, cestyll, Gwyliau o bo math, meysydd carafannau a bob math o fusnesau eraill

Yn ogystal, gellir ei chwifio drwyr haf fel modd o addurno Cymru mewn lliwiau addas a lliwgar a gellir ei chwifio mewn gemau pel droed a rygbi ac mewn pob math o chwaraeon eraill.

Hefyd, wrth gwrs, gellir ei chwifio mewn protestiadau - ac mae llu o rheini i ddod dros y blynyddoedd nesaf yng Nghymru wrth i ni geisio a gwarchod ein hadnoddau rhag cyfalafwyr fyd eang rheibus.

A heb swnior rhy morbid, mae sawl un wedi nodi eu bod am gael y faner enfawr i orchuddio eu heirch.

Felly, os ydych am gael un neu fwy or baneri - ac am fy nghynorthwyo fi (ar yr un pryd) i gael 200 o archebion, bydd rhaid cadarnhau eich archeb gyda fi erbyn diwedd yr wythnos er, bydd dim rhaid gyrru arian nes byddain gallu cadarnhaun bendant fy mod wedi cael digon o archebion i garion mlaen ar archeb. Gellir cynnig telerau mwy ffarfiol am archeb o 20 baner neu fwy. Cysylltwch I drafod.

Os ydych yn gynghorydd yn unrhyw le yng Nghymru, beth am sicrhau bod eich Cyngor chin archebu cyflenwad or baneri. Mae trefi fel Penrhyndeudraeth, Pwllheli, Conwy, Corwen a nifer o drefydd eraill yn chwifio baneri Glyndr yn flynyddol erbyn hyn. Ystyriwch pa mor drawiadol bydda'r rhai mawr iawn yma ar hyd y prif strydoedd! Ffordd hwylus I foddir holl glytiau undebol!

Felly, dim oedi ar hyn, os am gael y baneri yma erbyn Dydd Glyndr eleni! Diolch."