Y Lolfa yn Eisteddfod yr Urdd
Bydd gan Y Lolfa stondin yn Eisteddfod yr Urdd , Eryri (stondin rhif 127-128). Os ydach chi neu aelod och teulu yn cystadlu, dymunwn bob hwyl i chi, a chofiwch fod croeso mawr i chi alw draw am sgwrs ! Bydd cyfle i brynur llyfrau sydd ar restrau fer Llyfr y Flwyddyn Pantglas (Mihangel Morgan) a Cofiant Kate Roberts (Alan Llwyd).
Dyma restr o ddigwyddiadaur Lolfa yn Eisteddfod yr Urdd:
Dydd Llun 4 Mehefin
Canu gyda Rala Rwdins yn stondin CBAC , caneuon or llyfr Caneuon Ffadldi-Rwla-La , rhwng 11 a 2 or gloch .
Cyfle i neud Cadw Mi Gei papier mache yn stondin Palas Print am 2 or gloch , ac i glywed Morgan Tomos yn darllen ei lyfr newydd yng nghyfres Alun yr Arth - Alun yr Arth yn yr Ysgol.
Dydd Mawrth 5 Mehefin
Angharad Tomos yn arwyddo copau oi llyfrau yn stondin Y Lolfa am 11 or gloch , ac yna yn stondin Palas Print am 11.30 or gloch .
Dydd Sadwrn 9 Mehefin
Gwennan Evans yn lansio ei nofel newydd yn stondin Y Lolfa am 2 or gloch !
Bydd gan Y Lolfa nifer o lyfrau newydd fydd ar werth am y tro cyntaf yn Steddfod yr Urdd, yn cynnwys:
Alun yr Arth yn yr Ysgol Morgan Tomos
Guto Ny thbrn Jeremy Turner
Gwastraff Catrin Jones Hughes (Cyfres y Copa)
Gyl Peter Davies (Cyfres y Copa)
Bore Da Gwennan Evans (Cyfres y Dderwen)