Paul Steffan Jones 1st


 

Recently Rated:

Stats

Blogs: 125
images: 19

Ceibwr

user image 2018-05-24
By: Paul Steffan Jones AKA
Posted in: Poetry

Mae patrymau dy glogwynau

yn adlewyrchu’r tonnau

dy daldra yn dalcen

uchel a syn

a haenau dy greigiau

fel blancedi lliwgar

wedi’u plygu a'u gosod

mewn cwpwrdd enfawr

anniben a hirymaros

rwyt ti’n croesawu’r morloi llwyd

i fewn i gysgod dy fae

sy hefyd yn gysur i ni

pan mae amser yn ein caniatau

ac mae’r byd dynol yn ormod

mae dy drysor

yn gemwaith lliwiau

seiniau a theimladau

anadliad y blaen llanw

sibrwd y glustog Fair

gwylanod yn pysgota

yng ngolau dyfriog

y wawr gynnar


Ceibwr


The patterns of your cliffs

reflect the waves

your stature a

high and puzzled forehead

and the strata of your rocks

are like colourful blankets

that have been folded and placed

in an immense untidy

and long-suffering cupboard

you welcome the grey seals

into the shelter of your bay

that also gives us comfort

when time allows us

and the human world is too much


your treasure

is a jewellery of colours

sounds and feelings

the breathing of the high tide

the whisper of the thrift

gulls fishing in the watery light

of the early dawn