Paul Steffan Jones 1st


 

Recently Rated:

Stats

Blogs: 125
images: 19

Osgoi Ffordd Osgoi

user image 2018-05-10
By: Paul Steffan Jones AKA
Posted in: Poetry

Does dim palmant

dim marciau ffordd

dim ffordd ymlaen

dim ots

allan yn yr anialwch peiriannol

ceir yn erbyn ceir

gyrrwyr yn erbyn gyrrwyr

y milltiroedd  yn ysu amser

y byd yn gul

yn ein drychau

byd cul

ein dyddiau

dw i am gerdded

tuag at y cyntadau

a chrwydro’n ddifeddwl

diamcan a diystyr

a byw ar lethr

wrth ochr y draffordd

gyda’r ehedydd a’r barcut

yn ymyl y chwyn

yn sgîl y mygdarthau

y twrw

y damweiniau

y niwed

a’r ceudyllau sy’n uno

i greu un twll enfawr

ac anfarwol

roeddwn yn arfer edrych allan

am arwyddion ffordd

nawr dw i’n chwilio

am arwyddion ffydd

dw i am gerdded

ond mae’n rhy peryglus

heb balmant

heb farciau ffordd

heb ffordd ymlaen

dim ots


Avoiding a Bypass


There’s no pavement

no road markings

no way ahead

it doesn’t matter

out in the mechanical wilderness

cars against cars

drivers against drivers

the miles consuming time

the world narrow

in our mirrors

the narrow world

of our days

I want to walk

towards the ancestors

and wander thoughtlessly

aimlessly and meaninglessly

and live on a slope

by the side of the motorway

with the lark and the kite

among the weeds

in the wake of the fumes

the tumult

the accidents

the damage

and the potholes that are uniting

to create one immense

and unforgettable hole

I used to look out for

road signs

but now I search

for signs of faith

I want to walk

but it’s too dangerous

without a pavement

without road markings

without a way ahead

it doesn’t matter