Paul Steffan Jones 1st


 

Recently Rated:

Stats

Blogs: 125
images: 19

Gweithio Mewn Swyddfa

user image 2017-02-05
By: Paul Steffan Jones AKA
Posted in: Poetry

Ymhlith y sgrinau sy'n tynnu sylw

y celwyddau sy'n chwedlau

sy'n gelwyddau

yn gwastraffu degawdau

bywydau pobl sy ddim

mynd i oroesi'r dyfodol

paid meddwl amdanaf fel clerc

neu swyddog

ney cynghorwr

neu gweinyddwr

neu diawl dof y Llywodraeth


dw i'n was i'r ser

y lleuad

y mor

a'r haul

y byd heb nenfwd

bugail clustiau'r gwenith

yn symud mewn awel gymedrol

fel neidr yn nesau at ei amcan

...