Gaabriel Becket


 

Recently Rated:

Stats

Blogs: 288
events: 50
youtube videos: 43
images: 56
Invitations: 2
Groups: 2
videos: 1

Llangollen National Eisteddfod adding extra opening gala concert this year -

user image 2009-03-22
By: gaabi
Posted in:

English

New Eisteddfod Opening Gala: Faryl Smith, Mark Evans, Fron Male Voice Choir, Cor Godrer Aran, Cantorion Colin Jones and Alexei Kalvecs

A fantastic extra concert has been added to this years Eisteddfod lineup on Monday 6 July, 2009. The new Opening Gala, in aid of Llangollens Competitors Bursary Appeal, will star Eisteddfod Winner and Britains Got Talent finalist Faryl Smith, Denbighshire born Your County Needs You finalist Mark Evans and classical chart toppers Fron Male Voice Choir.

The concert will also feature Eisteddfod Male Choir champions Cr Godrer Aran, local male choir Cantorion Colin Jones and young tenor Alexei Kalvecs. In association with Cr Godrer Aran, a donation from the evenings proceeds will also go to Wrexhams Nightingale House Hospice.

The Competitors Bursary Appeal will offer financial support to competitor groups from all over the world. Mervyn Cousins, Executive Director of the Eisteddfod says, The Friends of the Eisteddfod have already played a leading role in providing support for competitors. We often forget how hard it is for the competitors who travel to Llangollen from all over the world. We hope the Fund will help international performers continue to visit the festival and become stars of the future.

Continued here

Cymru

DATGANIAD IR WASGDydd Llun 16eg Mawrth 2009Noson ychwanegol i gyngherddau LlangollenFaryl Smith yn serennu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

Gala Agoriadol Nos Lun 6ed o Orfennaf 2009 Faryl Smith, Mark Evans, Cr Meibion y Fron, Cantorion Colin Jones, Cr Godrer Aran, Alexei Kalvecs'

Bydd Faryl Smith, y gantores ifanc ddisglair, yn siwr o serennu yn Eisteddfod Rhyngwladol Gerddorol Llangollen eleni. Saethodd Faryl i'r brig yn dilyn ei llwyddiant ar raglen ITV 'Britain's got Talent a dydi hi ddim yn ddiethr i Wyl Gogledd Cymru gan iddi gystadlu gyntaf pan yn 10 oed, pan enillodd y wobr gyntaf yn yr unawd rhwng 10 a 15 oed. 'Dwi'n wirioneddol yn edrych 'malen i ddychwelyd i Langollen, achos mae gen i atgofion gwych o gystadlu yn yr Eisteddfod; dyna oedd fy mhrofiad cyntaf o berfformio ar lwyfan rhyngwladol ac mi roddodd hyder i mi i ddilyn fy mreuddwyd'.

Mae Faryl yn ymuno gyda llu o gyn gystadleuwyr Llangollen a aeth ymlaen i sicrhau enwogrwydd yn y byd cerddorol. Mae Placido Domingo yn cydnabod mai yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen y cafodd ei brofiad proffesiynol cyntaf, ac yn 1955 bu'r diweddar Luciano Pavarotti yn aelod o gor meibion llwyddiannus o'i dref enedigol Modena, gan ddychwelyd yn 1995 fel y tenor mwyaf enwog yn y byd. Aeth Faryl ymlaen 'Dwi wedi nghyffroi i gyd, o ddilyn yng nghamau fy arwyr Pavarotti, Domingo a Katherine Jenkins. O ganu yn y gyngerdd agoriadol, dyna yw gwireddu breuddwyd'.

Mae'r Gala Agoriadol, sy'n digwydd ar ddydd Llun 6ed o Orffennaf, yn cefnogi 'Competitor Bursary Appeal Fund' Llangollen sy'n mynd i 'gynnig cymorth ariannol i grwpiau o gystadleuwyr ar draws y byd' eglura Mervyn Cousins, Cyfarwyddwr Gweithredol Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen. 'Mae Cyfeillion yr Eisteddfod eisoes wedi chwarae rhan flaenllaw yn cynnig cymorth i gystadleuwyr. Yn aml da ni'n anghofio pa mor anodd yw hi i gystadleuwyr sy'n teithio i Langollen o bob cwr o'r byd.

Bydd Mark Evans, sy'n wreiddiol o Lanrhaeadr ger Dinbych, hefyd ymysg y perfformwyr ar y noson- cyrhaeddodd Marc y tri terfynol yn sioe dalent BBC1 'Your Country Needs You'. Dwedood Marc, sydd a nifer o gredyd theatraidd i'w enw gan gynnwys High School Musical a Wicked o'r West End 'Mae gofyn i mi ganu mewn Gwyl Rhyngwladol sydd mor agos i gartre yn gymaint o anrhydedd ac yn swyn i'r glust'.

Bydd y gyngerdd yn amlygu ser y dyfodol o Langollen ac yn dathlu talent lleol gyda perfformiad gan yr aml wobrwyiog Cr Meibion y Fron, a ffurfiwyd yn arbennig i gystadlu yn Eisteddfod Rhyngwladol gyntaf Llangollen yn 1947 ac sydd wedi mynd o nerth i nerth a chael eu gwobrwyo gyda'u halbwm 'Voices of the Valley'. Bydd Cr Godre'r Aran, sy'n ddeiliaid pencampwriaeth cystadleuaeth Cr Meibion Llangollen, Cantorion Colin Jones a'r tenor ifanc Alexei Kalvecs hefyd yn ymddangos. Bydd cyfraniad o elw'r Gala yn mynd i Hospis Llety'r Eos Wrecsam, mewn cysylltiad a Chr Godre'r Aran.

Bydd y cyngerdd newydd nos Lun 'Gala Agoriadol' yn ychwanegiad arall i drefn yr Eisteddfod eleni, sydd eisoes wedi ei ymestyn gyda diwrnod ychwanegol o weithgareddau ar y Sul gyda chyngerdd trawiadol i gloi'r Wyl. Bydd cyngerdd nos Sul 'Licensed to Thrill' yn amlygu cerddoriaeth James Bond wedii berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Opera Cymru dan arweiniad Carl Davies, gyda Bond Girl Honor Blackman yn serennu a thn gwyllt. Am goctl ffrwydrol!

-Diwedd-