Sian Northey
@sian-northey
11/29/17 07:34:08PM
4 posts
Mi oeddwn i isio sgwennu stori erchyll. Stori fyddai'n codi gwallt eich pen chi, yn eich cadw'n effro'r nos ac yn gwneud i chi ddifaru eich bod chi 'rioed wedi prynu'r blydi cylchgrawn 'na. Ugain mlynedd ar ôl i chi ei brynu 'sa chi'n dal i ddifaru oherwydd fe fyddai'r llun y llwyddais i'w greu yn eich pen yn ailymddangos ar adegau. Fyddai ond angen i chi weld dyn ychydig yn wargrwm, ychydig byrrach na'r cyffredin neu wrth gwrs bâr o esgidiau cochion heb eu criau ac fe fyddai'r ias a'r ofn yn dechrau...
            Mae'r stori honno'n bod ond chewch chi 'mo'i darllen hi. Efallai na fyddai'r golygyddion, er mor fentrus oeddan nhw â'r cylchgrawn yn newydd, wedi'i chyhoeddi beth bynnag. Ond mi wnes i ei sgwennu hi. A'i hargraffu ar bapur (rhag ofn i dechnoleg newid). A'i rhoi mewn drôr. A phob rhyw ddwy neu dair blynedd byddwn yn ei thynnu o'r drôr, yn yfed joch reit dda o wisgi, ac yn ei darllen. Ei darllen yn ddistaw wrtha fi fy hun wrth gwrs. Does gen i neb i wrando ar fy storïau. Ddim bellach. Dyna pam ges i gymaint o sioc neithiwr. Mi oeddwn i wedi tywallt y wisgi i'r gwydryn. Jura, pymtheg oed; roedd o wedi'i ostwng yn yr archfarchnad. Ta waeth, tydi hynny ddim yn berthnasol; roedd y wisgi yn y gwydryn a'r stori ar y bwrdd. Roeddwn i'n credu bod y drws wedi'i gloi ond mae'n rhaid nad oedd o. Tasa'r drws wedi'i gloi fysa fo ddim wedi gallu dod i mewn yn na fysa? Os nad oeddwn i wedi anghofio cau ffenest y lle chwech. Neu os nad...
            "Well i chdi gael hwn yn ôl."
            A dyma fo'n gosod goriad ar y bwrdd o fy mlaen. Goriad yn crogi oddi ar gylch ac eliffant bach rwber yn sownd wrth y cylch. Goriad yr oeddwn i wedi'i golli flynyddoedd yn ôl. Eisteddodd y dyn yn y gadair arall wrth y bwrdd, gyferbyn â fi. Doeddwn i heb ddweud gair.
            "Dw i heb golli'r dechra yn naddo?" gofynnodd. Mi oedd o'n gwrtais, doedd yna ddim byd bygythiol amdano. Nid o ran corffolaeth o leia. Roedd o'n eistedd yna'n amlwg yn disgwyl i mi ddechrau darllen. Estynnais am y goriad ac edrych yn fanwl arno. Ia, fy hen un i oedd o.
            "Lle gawsoch chi hwn?"
            "Mi oeddwn i y tu ôl i chi. Ond mi ydw i wedi bod y tu ôl i chi y rhan fwyaf o'r amser wrth gwrs."
            Oedodd am ennyd ac yna ychwanegu, "Fi a'r lleill." Bron nad oedd o fel petai am fod yn deg, ddim isio i mi feddwl ei fod o'n bwysicach na'r lleill. Pwy bynnag oedd y lleill. Cymerais joch reit dda o'r wisgi.
            "Isio clywed y stori 'da chi?"
            "Ia. Dw i'n sylweddoli nad ydi hyn yn arfer digwydd, mai fi ydi'r unig un mwya tebyg, ond..."
            Roedd o'n ymddiheuro am rywbeth, ond wyddwn i ddim be. Edrychais arno'n fwy gofalus. Roedd ganddo lygaid gleision. Mae llygaid gleision i fod yn llawn direidi ac yn llawn cariad. Ond doedd yna ddim byd ond tristwch ac ofn yn y rhain.
            "Adewa i lonydd i chi ar ôl i mi glywed y stori," meddai, ac yna eistedd yno'n dawel a disgwylgar. Doedd gen i ddim dewis rhywsut. Dechreuais ddarllen y stori'n uchel. Doeddwn i heb ddarllen y stori'n uchel erioed o'r blaen, roedd ei darllen hi'n ddistaw wrtha fi fy hun yn ddigon drwg.
            Dechreuais yn betrus. Tydw i ddim yn un da am ddarllen fy ngwaith yn uchel. Mae’n gas gen i wneud mewn lansiadau a ballu. Dw i’n teimlo’n ffuantus, fel pe bawn i’n trio fy ngorau i wneud i rwtsh swnio’n well nag ydio. Awdur ydw i, nid dramodydd nac actor. Ond mi oedd gen i gynulleidfa ddelfrydol neithiwr.   Gwrandawai’r dyn yn astud, ond gan anadlu’n sydyn weithiau wrth i mi gyrraedd darn arbennig o erchyll o’r stori. Er nad oeddwn yn edrych arno gallwn ei deimlo’n fferru wrth i mi gyrraedd y darn yn y stori lle mae’r dyn yn dechrau toddi, yn dechrau datgymalu, yn dechrau diflannu. Y darn lle mae'n rhaid iddo gael gafael ar rywbeth diriaethol i'w glymu wrth rywbeth yn y byd hwn. Mae o'n deall bod rhaid iddo gael gafael ar gortyn neu raff neu rywbeth felly. Er mai fi sgwennodd y stori tydw i ddim yn siŵr iawn be sy’n digwydd iddo fo. Hanner ffordd trwy'r darn yna mi oeddwn i mor ymwybodol bod y dyn oedd yn eistedd gyferbyn a fi’n cael ei ddychryn nes i mi dewi ar ganol brawddeg.
            “Da chi isio i mi stopio?”
            “Oes. Nag oes. Daliwch ati. Mae’n rhaid i chi ddal ati. Mae’n rhaid i mi ei chlywed hi i gyd.”
            Tywalltais fwy o wisgi i mi fy hun. Oedais am ennyd ac yna cynnig wisgi i’r dieithryn. Wnaeth o ddim ateb, dim ond ysgwyd ei ben. Ailddechreuais ddarllen, er fy mod, fel bob tro cynt pan oeddwn i'n darllen y stori, yn casáu gwneud. Roeddwn wedi cyrraedd y darn lle dw i’n disgrifio’r boen. Y boen gorfforol wrth gwrs, ond hefyd y boen feddyliol wrth i’r cymeriad sylweddoli y gall fod yn gadael pawb a phopeth ac yn sylweddoli popeth arall hefyd, yn sylweddoli…
            Edrychais ar y gwyneb gwelw gyferbyn â fi. Roedd dagrau yn powlio’n ddistaw i lawr ei wyneb. Oedais eto, ond gwnaeth rhyw ystym bychan brysiog â’i law i fy annog i ddal ati i. Llyncais fwy o wisgi ac ail ddechrau darllen. Er bod y darn mwyaf erchyll o’r stori eto i ddod roeddwn yn tynnu at y terfyn. Dim ond y darn lle mae’r prif gymeriad yn datod ei gareiau ac yn eu tynnu’n rhydd o’i esgidiau, yr esgidiau cochion yr oedd o’n meddwl y byd ohonynt, oedd ar ôl. Mae o angen y criau er mwyn trio rhwystro’r peth, y peth 'na sy'n… Ac yna ar ôl hynny roedd diwedd y stori. Y diwedd lle nad ydi dewrder na chria sgidia na dim byd arall yn gallu ei achub. Wrth i mi ddweud y geiriau olaf daw ochenaid o ochr arall y bwrdd.
            Dw i’n hanner gwenu ar y dyn ar ôl gorffen, ac yna'n rhythu mewn syndod ar fy ngwydryn gwag. Doeddwn i ddim yn cofio gorffen y wisgi. Dw i'n tywallt rhyw fodfedd arall i’r gwydryn, ac mae’r dieithryn yn codi ar ei draed a dechrau cerdded i ffwrdd. Wrth iddo anelu at y drws, fel petai’n mynd i adael heb ddweud gair, mae’n baglu. Dw i’n edrych i lawr, yn meddwl efallai ei fod wedi baglu dros rhywbeth yr oeddwn i wedi’i adael ar y llawr, ac adeg honno dw i’n gweld ei esgidiau. Esgidiau cochion heb gria.
            Mae o bron a chyrraedd y drws. Dw i'n codi ar fy nhraed.
            'Arhoswch.'
            Mae o'n oedi am ennyd ond yna'n dal ati i gerdded oddi wrtha i.
            'Arhoswch,' medda fi eto. 'Plîs.'
            Dw i'n codi, yn camu tuag ato, yn meddwl gafael yn ei fraich, ac eto...
            Mae o fel petae o'n cofio am ennyd bod angen bod yn gwrtais ac mae'n troi tuag ata i.
            'Diolch,' medda fo. Ddim mwy na hynny.
            'Pwy yda chi?'
            Mae'r hanner gwen drist 'na yn ymddangos eto.
            'Da chi'n gwbod pwy ydw i.'
            Ac mi ydw i'n sylweddoli fy mod i wrth gwrs yn gwbod pwy ydi o. Wedi'r cyfan fi creodd o. Am wn i.
            'Ok, ok. Ddim pwy. Pam?'
            'Oherwydd bod angen ein rhyddhau ni.'
            'Ni?'
            'Fi a phawb arall yn y stori. Mae hi'n stori dda gyda llaw. Efallai y byddan nhw wedi'i chyhoeddi hi.'
            Dw i'n sylweddoli os y gall o ymddangos yn fy nhŷ, y gall rhai o gymeriadau eraill y stori ymweld â fi, ac mae'r syniad yn gwneud i mi deimlo'n sâl. Wedi'r cyfan, hwn, â'i ymdrech ofer i achub ei hun â chria sgidia, oedd y boi da. Mae'n rhaid bod fy ofn yn amlwg ar fy ngwyneb, ac mae o fel petai o'n gallu darllen fy meddwl.
            'Mae popeth yn iawn. Ddaw 'na neb arall i ymweld â chi. Mi yda ni i gyd yn rhydd rŵan. Mi alla i deimlo hynny.'
            Mae o'n amlwg ar bigau drain i adael, ond dw i angen gwybod mwy.
            'Plîs? Dw i ddim yn deall.'
            Mae o fel petai'n esbonio wrth blentyn. Plentyn dwl. Plentyn sydd wedi trio gwneud rhywbeth na ddylai plentyn ei wneud.
            'Da ni mewn limbo, mewn purdan, rwbath felly. Da ni'n gaeth i'r awdur. Doeddan ni ddim yn siŵr os y byswn i'n cyfri, gan fy mod i yn y stori....'
            Dw i dal ddim yn siŵr os ydw i wedi deall ei esboniad. Yn fras, ac ydw, dw i'n gwbod bod hyn yn swnio'n hurt bost, ond doeddach chi ddim yna neithiwr, roedd o'n honni bod cymeriadau yn gaeth i awdur hyd nes bod darllenydd neu wrandawr wedi'u rhyddhau. I'r rhai sydd mewn stori neu nofel orffenedig mae'n brofiad ofnadwy iddynt.             Wnaeth o ddim ymhelaethu ynglyn â'r profiad. Dim ond gwenu arna i am y tro olaf, a cherdded, â'r sgidiau yn fflit fflatian yn union fel y gwnes i eu disgrifio, allan trwy'r drws. Caeodd y drws ar ei ôl ac fe es inna i eistedd o flaen sgrin wag.