Iona Wyn Hall


 

Recently Rated:

Stats

Blogs: 8
images: 32

CF1 Tangnefeddwyr




Category:
Duration: 00:04:52
Description:
Cor CF1 - Tangnefeddwyr - Capel Salem, Treganna, 7 Gorffennaf 2010

David Llewelyn Williams
12/22/11 04:59:38AM @david-llewelyn-williams:

Diolch i Swansea Jack am y cyfieithiad. Pwy yw awdur y trosglwyddiad?


alwyn parry
12/18/11 08:39:11PM @alwyn-parry:

Clws yw'r gan ac clws yw'r pobol ifanc hefyd - Beautiful is the song and beautiful the young people too.


Gwyndaf Jones3
12/17/11 11:18:31PM @gwyndaf-jones3:

Gwych!!!


Iona Wyn Hall
12/17/11 02:57:22PM @iona-wyn-hall:

Eric Jones composed this beautiful piece of music http://www.literaturewales.org/writers-of-wales/i/131350/desc/jones-eric


Iona Wyn Hall
12/16/11 11:24:56PM @iona-wyn-hall:

Diolch Jack - great timing!


Iona Wyn Hall
12/16/11 11:23:24PM @iona-wyn-hall:

If anyone has the English translation please post. Diolch.


Iona Wyn Hall
12/16/11 11:13:25PM @iona-wyn-hall:

Y Tangnefeddwyr

Uwch yr eira, wybren ros,
Lle mae Abertawe'n fflam.
Cerddaf adref yn y nos,
Af dan gofio 'nhad a 'mam.
Gwyn eu byd tu hwnt i glyw,
Tangnefeddwyr, plant i Dduw.

Ni chi enllib, ni chi llaid
Roddi troed o fewn i'w tre.
Chwiliai 'mam am air o blaid
Pechaduriaid mwya'r lle.
Gwyn eu byd tu hwnt i glyw,
Tangnefeddwyr, plant i Dduw.

Angel y cartrefi tlawd
Roes i 'nhad y deuberl drud:
Cennad dyn yw bod yn frawd,
Golud Duw yw'r anwel fyd.
Gwyn eu byd tu hwnt i glyw.
Tangnefeddwyr, plant i Dduw.

Cenedl dda a chenedl ddrwg -
Dysgent hwy mai rhith yw hyn,
Ond goleuni Crist a ddwg
Ryddid i bob dyn a'i myn.
Gwyn eu byd, daw dydd a'u clyw,
Dangnefeddwyr, plant i Dduw.

Pa beth heno, eu hystd,
Heno pan fo'r byd yn fflam?
Mae Gwirionedd gyda 'nhad
Mae Maddeuant gyda 'mam.
Gwyn ei byd yr oes a'u clyw,
Dangnefeddwyr, plant i Dduw.

Waldo Williams
Dail Pren, Llandysul, 1991.


Iona Wyn Hall
12/16/11 11:10:23PM @iona-wyn-hall:
Diolch Jack. Waldo Williams' words are so moving.
Iona Wyn Hall
12/16/11 11:07:34PM @iona-wyn-hall:
Diolch Brett, those young voices are wonderful.
Brett Hull
12/16/11 10:29:39PM @brett-hull:
Beautiful piece of music Iona. Thanks for sharing.