Recently Rated:
Stats
Blogs: 1
youtube videos: 71
SoundCloud Tracks: 2
images: 347
BETHESDA CAERDYDD
Category:
Duration: 00:03:06
Description:
Duration: 00:03:06
Description:
(Welsh Haka in Welsh - English version here http://americymru.ning.com/video/the-welsh-haka-bethesda-v )Bethesda 17 Caerdydd 5520/12/2008Diwrnod anfarwol i hogia' Pesda wrth iddynt wynebu clwb y Brifddinas ar Dl Ddafydd.Dechreuwyd y gweithgareddau efo arddangosfa gan chwaraewyr mini y clwb. Diddorwyd y dorf gan Seindorf Llanrug a chafwyd haka Gymraeg gan Bill Huaki cyn y chwib gyntaf.Er nad oedd disgwyl i'r clwb lleol ennill yr erbyn y tim rhan broffesiynnol, llwyddwyd i sgorio 3 chais yn eu herbyn.Rhyng-gipiodd Mathew Parry y bl rhwng 2 ganolwr Caerdydd i sgorio rhwng y pyst gan wneud y trosiad yn un hawdd iddo'i hun. Rhedodd Martyn Williams 60 metr ar hyd yr asgell i sgorio'r ail ac roedd yr un olaf gan Steven Roberts yn un i'w gofio. Dwynodd James Roberts y bl oddi ar flaenwyr Caerdydd a daliodd Paul Thomas y bl yn ddigon hir i ryddhau Steve Roberts. Ochr gamodd y bachwr gefnwr Caerdydd i sgorio cais rhyfeddol.Er i'r ymwelwyr sgorio 9 cais yn eu herbyn, diwrnod i'r tim lleol oedd hwn. Diwrnod a gaiff ei gofio am flynyddoedd i ddod - diolch i'r chwaraewyr, hyfforddwyr, merched y bwyd, y cefnogwyr a'r swyddogion sydd wedi rhoi oriau o waith am ddim i hyrwyddo rygbi cymunedol.