• croeseiriau cymraeg.jpg

     
    Translation Exercise 11:  Croesi'r Hafren - Crossing the Severn  by Matt Spry

  • geograph696049byChrisDowner.jpg

    Croesi'r Hafren - Crossing the Severn by Matt Spry


    Dw i’n dod o Loegr yn wreiddiol, o ddinas yn y de-orllewin o’r enw Plymouth. Ces i fy ngeni yno a ches i fy magu yno. Mae cysylltiad cryf rhwng y ddinas a’r Unol Daleithiau. Ym 1620 wnaeth y Tadau Pererin adael Lloegr o Plymouth ar long o’r enw y Mayflower. Wnaethon nhw hwylio ar draws Gefnfor yr Iwerydd a wnaethon nhw sefydlu Gwladfa Plymouth yn Massachusetts.

    Wnes i symud o Plymouth i Gaerdydd, prifddinas Cymru, am y tro cyntaf ym 1991 yn 19 oed. Dyna oedd y tro cyntaf i mi groesi’r Hafren, yr afon hiraf ym Mhrydain. Wnes i groesi yng nghar fy nhad. Wnaethon ni yrru dros y Bont Hafren gyntaf. Wnes i astudio Athroniaeth yn y Brifysgol. Wnes i raddio gyda gradd 2:1. Wnes i ddim dysgu Cymraeg bryd hynny. Yn ystod fy amser yng Nghaerdydd wnes i groesi’r Hafren llawer o weithiau, mewn bws gan amlaf ond weithiau ar y trên. Os dych chi’n dal y trên, yn lle croesi uwchben yr afon ar bont dych chi’n croesi o dan yr afon mewn twnnel.

    Ar ôl i mi orffen yn y Brifysgol wnes i dreulio cwpl o flynyddoedd yn gweithio yng Nghymru ond yn 2001 wnes i symud yn ôl i Loegr. Wnes i groesi’r Hafren unwaith eto a wnes i feddwl i mi fy hun ‘ydy hyn yn mynd i fod y tro olaf i mi groesi’r Hafren?’ Wnes i ddychwelyd i Plymouth a wnes i ddod o hyd i waith yno ond wnes i ddim anghofio am Gymru.

    Wnes i ddim croesi’r Hafren eto tan 2013. Ro’n i wedi penderfynu symud yn ôl i Gymru. Wnes i logi fan. Wnes i bacio fy stwff a bant â fi. Wnes i groesi’r Hafren unwaith eto ond y tro yma ar y bont newydd - yr Ail Bont Hafren. Cafodd y bont newydd ei hadeiladu rhwng 1992 a 1996. Cafodd hi ei hagor ar 5ed Mehefin 1996. Dyna oedd yr ail dro i mi fyw yng Nghymru a’r tro yma wnes i ddysgu Cymraeg.

    Mae ffordd arall o groesi’r Hafren wrth gwrs - ar gwch. Yn y gorffennol roedd gwasanaeth stemar olwyn o Gaerdydd ac Abertawe yn Ne Cymru i Ogledd Dyfnaint a Gwlad yr Haf yn Lloegr. Wnaeth y gwasanaeth ddechrau yn y 1880au. Cafodd fy Mam-gu, Mam fy Mam, ei geni yng Nghastell-Nedd yn 1916. Yn 14 oed, wnaeth hi symud i Ilfracombe yng Ngogledd Dyfnaint. Wnaeth hi deithio ar draws yr Hafren ar stemar olwyn o Abertawe i Ilfracombe. Buodd fy Mam-gu farw pan o’n i’n ifanc iawn felly dw i ddim yn gallu cofio llawer amdani hi ond yn ôl fy Mam roedd hi’n gallu siarad Cymraeg. Felly wnaeth y Gymraeg groesi’r Hafren gyda hi. Ond wnaeth hi golli’r iaith. Doedd ganddi hi ddim cyfleoedd i’w siarad yn Lloegr ond mae fy Mam yn gallu cofio fy Mam-gu’n gweiddi yn Gymraeg pan oedd hi’n grac felly wnaeth hi gofio ychydig o’r hen iaith!

    Wnaeth rhyw fath o wasanaeth masnachol i groesi’r Hafren ar gwch barhau tan 2019 ond erbyn hyn os dych chi eisiau hwylio ar draws yr afon dych chi’n gorfod dod o hyd i rywun sy’n berchen ar gwch a threfnu mynd gyda nhw neu ddysgu sut i hwylio a naill ai brynu neu logi cwch!

    Y tro diwethaf i mi groesi’r Hafren oedd ym mis Mehefin eleni. Es i i Plymouth i weld fy rhieni. Ces i lifft gan ffrind yn ei gar felly aethon ni dros y bont. Wnes i ddal y trên yn ôl i Gaerdydd felly es i drwy’r twnnel o dan yr afon. Tybed pryd bydd y tro nesaf i mi groesi’r Hafren?

    ...


    This is the eleventh in a new series of revision translation exercises written by Matt Spry  ( Eisteddfod Welsh Language Learner 2018). These exercises utilize the vocabulary and grammar that you have already learned on the Croeseiriau Cymraeg course so far (Parts 1 & 2). There may be one or two words that you are unfamiliar with but you can always look them up.  

    As you can see above the English and Welsh texts are on separate tabs SO you can translate from Welsh to English or vice versa. You can also use the Welsh text as a reading and comprehension exercise if you don't feel fully confident to translate it straight off the bat. We are sure that this resource will prove invaluable however you decide to use it. Mwynhewch!

    ,,,

    Translation Exercises

    Course 1 & 3 translation exercises can be found here and here.

    ...

    Ar y Trên - On The Train

    Diwrnod yng Nghaerdydd - A Day in Cardiff

    Llyfr Da - A Good Book

    Cwpl o Ddiwrnodau yn Eryri - A Couple of Days in Snowdonia

    Croesi'r Hafren - Crossing the Severn

    Cerdded yn y Bryniau - Walking in the Hills