• croeseiriau cymraeg.jpg

     
    Translation Exercise 1:  Traeth - Beach by Matt Spry

  • geograph2084921byJohnDuckfield.jpg

    Traeth - Beach
    by Matt Spry


    Mae'n ddydd Sadwrn ar ddiwedd mis Gorffennaf. Dyn ni'n mynd i'r traeth heddiw. Dyn ni ddim wedi mynd i'r traeth am wythnos. Mae hi wedi bod yn bwrw glaw bob dydd ond mae hi'n braf heddiw. Dyw hi ddim yn bwrw glaw. Mae hi'n heulog ac yn dwym. Dyn ni'n mynd i yrru yno a dyn i'n mynd i barcio yn y maes parcio ger y traeth. Mae'r ci Twm yn dod gyda ni hefyd. Mae Siân yn mynd i redeg gyda Twm ond dw i'n mynd i gerdded - dw i ddim yn hoffi rhedeg. Dw i'n mynd i nofio yn y môr. Dyw Twm ddim yn mynd i nofio yn y môr gyda fi. Dyw e ddim yn hoffi dŵr o gwbl. Mae e'n casáu amser bath! Dyw Siân ddim yn mynd i nofio chwaith. Dyw hi ddim yn gallu nofio ond mae hi'n meddwl am ymuno â gwersi nofio yn y pwll nofio lleol cyn bo hir.

    Mae caffi bach ar y traeth. Maen nhw'n gwerthu te, coffi, diodydd ysgafn, brechdanau, creision, cacennau, siocled a bisgedi yno a dyw e ddim yn rhy ddrud. Mae staff y caffi yn hoffi cŵn ac maen nhw wastad yn hapus i roi dŵr mewn powlen i roi iddyn nhw. Weithiau mae bisgedi cŵn ar gael am ddim hefyd! Ar y ffordd adre dyn ni'n bwriadu ymweld â rhieni Siân i ddweud shwmae ac i gasglu'r golch. Mae ein peiriant golchi ni wedi torri a dyn ni wedi bod yn defnyddio eu peiriant golchi nhw. Yn y nos dw i'n mynd i goginio sbageti bolognese i fi a Siân a chael gwydraid neu ddau o win coch. Ar ôl bwyta mae Siân yn mynd i'r sinema i weld ffilm gyda hen ffrindiau o'r ysgol a dw i'n aros yn y tŷ i ddarllen nofel Gymraeg. ...

    ...


    This is the first of a new series of revision translation exercises written by  Matt Spry  ( Eisteddfod Welsh Language Learner 2018). These exercises utilize the vocabulary and grammar that you have already learned on the Croeseiriau Cymraeg course so far. There may be one or two words that you are unfamiliar with but you can always look them up. There will be six exercises  in the series when complete. 

    As you can see above the English and Welsh texts are on separate tabs SO you can translate from Welsh to English or vice versa. You can also use the Welsh text as a reading and comprehension exercise if you don't feel fully confident to translate it straight off the bat. We are sure that this resource will prove invaluable however you decide to use it. Mwynhewch!

    Translation Exercises

    Traeth - Beach

    Gwaith - Work

    Y Siop Lyfrau - The Book Shop

    Ysgol - School

    Chwaraeon - Sports

    Pen-blwydd - Birthday