• croeseiriau cymraeg.jpg

     
    Translation Exercise 5:  Chwaraeon - Sports by Matt Spry

  • geograph1584292byColinSmith.jpg

    Chwaraeon - Sports by Matt Spry


    Mae Glyn a Dewi yn y tafarn. Mae Glyn yn dod o Gymru ac mae e wedi symud i America. Mae Dewi yn dod o Efrog Newydd ac maen nhw'n byw yn 'yr Afal Mawr'. Maen nhw'n siarad am chwaraeon.

    ...

    Glyn: Dyna ti... potel o gwrw i ti. Lemonêd i fi. Dw i wedi prynu pecyn o greision a phecyn o gnau hefyd.

    Dewi: Diolch. Dwyt ti ddim yn yfed heno?

    Glyn: Nac ydw. Dw i'n gyrru. Dw i byth yn yfed pan dw i'n gyrru. Wyt ti'n gwylio'r bêl-droed ar y teledu nos yfory?

    Dewi: Ydw. Y Giants yn erbyn y Cowboys. Dw i'n cefnogi'r Giants. Mae'n gas gen i'r Cowboys. Mae'r Cowboys yn mynd i golli unwaith eto! Dw i'n meddwl am brynu tocyn tymor ar gyfer tymor nesa.

    Glyn: Na! Y bêl-droed. Soccer! Dw i ddim yn sôn am bêl-droed Americanaidd!

    Dewi: Pêl-droed! Dwyt ti ddim angen dweud 'Americanaidd'!

    Glyn: Ta beth! Mae gêm bêl-droed rhwng Abertawe a Chaerdydd nos yfory. Dw i'n cefnogi Caerdydd. Mae'n gas gen i Abertawe. Mae Caerdydd yn mynd i ennill. Mae'n well gen i bêl-droed. Soccer. A bod yn onest dw i ddim yn deall pêl-droed Americanaidd. Dw i wedi trio dilyn gêm ond dw i ddim yn gwybod beth sy'n digwydd. Mae'n rhy gymhleth i fi.

    Dewi: Mae'n well gen i bêl-droed. Pêl-droed Americanaidd, hynny yw. Wedi dweud hynny, mae soccer yn fwy poblogaidd yn America nag erioed. Mae sawl chwaraewr o America wedi chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr a dyn ni wedi cystadlu yng Nghwpan y Byd sawl gwaith. Dwyt ti ddim wedi gwylio digon o gêmau pêl-droed Americanaidd i ddeall y rheolau, dyna i gyd.

    Glyn: Dw i'n gwybod. Beth wyt ti'n meddwl am rygbi? Dw i'n dwlu ar rygbi. Dw i'n cefnogi Gleision Caerdydd a dw i wrth fy modd yn gwylio tîm rygbi Cymru, yn enwedig pan maen nhw'n chwarae yn erbyn Lloegr!

    Dewi: A dweud y gwir dw i ddim wedi gwylio llawer o rygbi. Dw i wedi trio dilyn gêm ond mae'n rhy gymhleth i fi! Dyw rygbi ddim yn boblogaidd iawn yn America eto ond mae'r tîm wedi cystadlu yng Nghwpan Rygbi'r Byd.

    Glyn: Dw i newydd feddwl am syniad. Dyn ni'n gallu gwylio gêm bêl-droed Americanaidd gyda'n gilydd rhywbryd. Rwyt ti'n gallu esbonio'r rheolau a beth sy'n digwydd yn ystod y gêm. Wedyn dyn ni'n gallu gwneud yr un peth gyda rygbi. Dw i'n gallu esbonio rheolau rygbi i ti.

    Dewi: Syniad ardderchog!

    Glyn: Wyt ti'n hoffi unrhyw chwaraeon eraill?

    Dewi: Ydw. Dw i'n caru pêl-fas. Dw i ddim yn hoffi pêl-fasged. Beth amdanat ti?

    Glyn: Dw i ddim yn deall pêl-fas ond dw i'n hoffi pêl-fasged. Wyt ti'n hoffi criced?

    Dewi: Nac ydw. Dim o gwbl! Mae'n gas gen i griced! Wyt ti?

    Glyn: Wel, dyn ni'n cytuno ar rywbeth o'r diwedd! Dw i ddim yn hoffi criced cwaith! Wyt ti eisiau diod arall?

    Dewi: Ydw. Potel o gwrw arall, plîs. A mwy o greision – maen nhw'n flasus iawn!

    .

    ...


    This is the fifth of a new series of revision translation exercises written by Matt Spry  ( Eisteddfod Welsh Language Learner 2018). These exercises utilize the vocabulary and grammar that you have already learned on the Croeseiriau Cymraeg course so far. There may be one or two words that you are unfamiliar with but you can always look them up. There will be six exercises  in the series when complete. 

    As you can see above the English and Welsh texts are on separate tabs SO you can translate from Welsh to English or vice versa. You can also use the Welsh text as a reading and comprehension exercise if you don't feel fully confident to translate it straight off the bat. We are sure that this resource will prove invaluable however you decide to use it. Mwynhewch!

    Translation Exercises

    Traeth - Beach

    Gwaith - Work

    Y Siop Lyfrau - The Book Shop

    Ysgol - School

    Chwaraeon - Sports

    Pen-blwydd - Birthday