Paragraff 1 Ni ddaw neb yn ddinesydd o un hen ardal wledig oni aned, o leiaf, ei dadcu yno. Gall fyw yn y lle yn ddigon hapus o bosibl; ond rhaid i fywyd cyflawn wrth wraidd yn y tir. Y mae gan bob gwir frodor o'r ardal lu o gyfrinachau na w^yr neb ond ef ei hun -- ac ymwybyddiaeth ddirgelaf ei gymrodorion -- ddim amdanynt; pethau nas dinoethir ond ambell dro gan storm y teimlad megis ar ddydd marwolaeth, neu briodas, neu angladd. Eithr ni chlyw neb so^n amdanynt hyd yn oed yr adeg honno, ond ei galon ei hun. Ac eto, y pethau cyfrin, anghyffwrdd hyn, sydd ar yr un pryd yn eiddo i bawb a heb fod yn eiddo i neb ond iddo ef ei hun, yw sylweddau cadarnaf ei fywyd. Yn gymysg a^ hwy y mae tynfeini drud ei dynged ac ysbrydion o'r anwel yn eu gwylio. Pan gollo afael arnynt y mae mewn perygl o golli ei enaid. Pan sonio amdanynt ar goedd hefyd, fel y gwnaf i yn awr -- y mae'n rhedeg i'r un rhysedd. Duw a roddo i mi ynteu, gynildeb y cybydd ar ei aur!
Cyfieithiad: Nobody becomes a citizen of a single, rural county unless his grandfather, at least, was born there. He may possibly live in the place happily enough, but a full life must be rooted in the earth. Every true native of the region possesses a host of secrets that noone but he alone – and the most secret awareness of his fellows – knows anything about; things that are never exposed, but on occasion by the turbulence of emotion, such as on the day of a death, or a wedding, or a funeral. But, nobody will hear tell of them even at that time, apart from his heart alone. And yet, it is these secret intangible things which, at the same time, belong to everyone without belonging to anyone but him alone. They are the surest realities of his life. Among them, the costly lodestone of his destiny. and the spirits of the invisible watch him. If he fails to seize them, he is in peril of losing his soul. If he speaks of them aloud, As I am doing now, he runs to the same difficulty. May God grant me, then, the frugality of the miser over his gold.
Paragraff 2 Y mae yn yr Hen Ardal o ryw wyth neu naw ugain o drigolion, fawr a mân, dri thylwyth o bobl, sydd mor gwbl nodweddiadol ohonynt eu hunain ac mor annhebyg i'w gilydd mewn corff a meddwl a thuedd ag ydoedd yr Iberiad, y Celt, a'r Sacson traddodiadol. Yn ffodus iawn i'r hanesydd hefyd, y mae eu nodweddion personol a threfn eu hamser yn dyfod i'r ardal yn cyfateb yn drawiadol o agos i'r tair cenedl dynghedlawn a enwyd. Gelwir hwy gennym ni, yr ardalwyr, yn Dylwyth Llywele-- sydd acw na w^yr neb ers pa bryd; Tylwyth y Doleydd-- sydd o un ochr yn hen iawn hefyd; a Thylwyth y Cnwc-- sef disgynyddion pâr ifanc o Sir Aberteifi a ddechreuodd eu byd mewn ffarm yn y cyffiniau o'r enw hwnnw, ryw ychydig cyn canol y ganrif ddiwethaf. Erbyn hyn, y mae'r tylwyth hwn wedi llenwi'r ardal ac yn heddychol feddiannu'r wlad oddi amgylch.
Tags:
Permalink Reply by Ymwelydd anfynych on August 29, 2009 at 2:21pm
Permalink Reply by alwyn parry on March 10, 2012 at 6:37pm Annwyl Gyfaill
Rwyf yn gweld eich bod wedi dewis dyfniad a oedd wedi ei ysgrifennu yn 1934 ac meddwl efalla rhywbeth wedi ei ysgrifennu yn fwy ddiweddar bysa yn well. I mention this as I was recently interviewed by S4C and whilst the interviewer an I had a great chat in Welsh prior to the interview when they began filming he used today's "bbc"language which left me somewhat perplexed.
Hwyl fawr
Alwyn
© 2013 Created by Ceri Shaw.
© Copyright Ning AmeriCymru.
