Ceri Shaw


 

Stats

Playlists: 6
Blogs: 1925
events: 233
youtube videos: 537
SoundCloud Tracks: 21
images: 827
Files: 55
Invitations: 9
Groups: 33
audio tracks: 1098
videos: 8
Facebook

Rogue Jones - "1,2,3 / Flachlwch Bach" Their brand new Double AA Side single

user image 2023-02-03
By: Ceri Shaw
Posted in: Music

rogue_jones.jpg


(scroll down for English)

Mae’n bosib mai’r ddau drac yma yw’r mynegiad mwyaf pur a chrisialaidd o brif thema’r albym – profiadau Bethan ac Ynyr o fod yn rhieni. Maen nhw hefyd yn ganeuon pop da – felly roeddent yn teimlo fel par o ganeuon addas am sengl ddwbl.

1,2,3
Fel nifer o’r caneuon ar yr albym, cyfansoddwyd y gân hon yn wreiddiol ar y piano gan Bethan. Mae Ynyr a Bethan yn chwarae’r utgyrn ac yn ymuno a hwy mae Ioan Hefin, y dyn sy’n gyfrifol am solo trwmped mwyaf eiconig cerddoriaeth Gymraeg yn Gloria Tyrd Adre gan Eryr Wen. Mae hi’n gân am gariad a’r teimlad o geisio amgyffred maint y cariad gallwch deimlo at rhywun. Mae’n berthnasol i unrhyw fath o gariad ond yn yr achos hwn fe’i hysgrifennwyd wrth i’w merch droi yn dri mlwydd oed, gyda Bethan gwneud ymgais i fynegi a deall y cariad roedd hi’n ei deimlo am ei phlentyn a mawredd rhoi genedigaeth; yr her, gorchfygu a gorfoledd a holl fregusdra amrwd y profiad.

Geiriau
Shwt gall rhywbeth mor bitw
Siglo’r ddaear, tanio iâs?
Pan fi’n teimlo fe’n curo,
So’ fe tu fewn nawr, mae e tu fas,
Un, dau, tri Menywod doeth oedd yn gwylio,
Fy nghyn-famau, rhowch i mi nerth.
Holltodd twll yn y nefoedd,
Dysgu gwers o beth yw gwerth.

Fflachlwch Bach
Teyrnged i’w plentyn cyntaf-anedig. Daeth yr ysbrydoliaeth wrth i Bethan geisio cyfansoddi rhywbeth ar y piano gyda’i merch yn ei chôl yn scriblo dros y nodau. Mae prydferthwch mewn normalrwydd a phethau dydd i ddydd, gorfoledd mewn diwrnod arferol gyda phlant bach. Mae seren y gan yn ymddangos gyda solo allweddellau a’i llinell;

‘Beth chi’n aros am? Cân neu beth?
Fi mynd i ddechre un nawr so agor eich clustiau!’

Rhwng ysgrifennu a rhyddhau’r gan, mae eu hail blentyn wedi dod i dynnu sylw a chreu anrhefn wrth y piano unwaith eto, gan ysgrifennu rhan i’w hun yn y gân o nawr ymlaen hefyd. Mae Llyr Parri ar y dryms, Elen Ifan ar y soddgrwth a Mari Morgan ar y ffidil yn ymuno â Bethan ac Ynyr ar y trac yma.

Fflachlwch Bach (Bach) yw teitl y fersiwn fyrhaëdig hon o’r gân, gyda’r ferswin lawn yn ymddangos ar y record. Roedd y dull hyn o enwi yn fwy diddorol na galw’r trac yn ‘(Radio Edit)’ er ei fod mwy na thebyg yn fwy tebygol o achosi dryswch.



These two tracks are possibly the most crystalline and pure expression of the album’s main theme – Bethan and Ynyr’s experiences of parenthood. They’re also good pop songs – so they felt like an appropriate AA-side.

1,2,3
Like much of the album, this song was initially composed by Bethan on the piano. It features Ynyr and Bethan on trumpets but also features Ioan Hefin, the man responsible for performing Welsh music’s greatest and most iconic trumpet solo in Eryr Wen’s Gloria Tyrd Adre. It’s a song about love and the feeling of trying to comprehend the magnitude of the love that you can feel for someone. It can relate to any form of love but in this instance it was written when their daughter turned 3 years old, with Bethan trying to articulate and comprehend the outpouring of love felt for a child and the hugeness of childbirth; the challenge, escalation, triumph, glory and the raw vulnerability of it all.

Lyrics:
How can something so small
Shake the earth, spark shivers?
When I feel it beating It’s not inside now, it’s outside
One, two, three Wise women were watching
My ancestral mothers, give me strength
A hole split in the sky
Learning a lesson about what value is

Fflachlwch Bach
An ode to their first-born child. The inspiration came as Bethan was trying to compose something on the piano with their daughter in her lap scribbling over the notes. There’s beauty in normality and the everyday, joy in an average day with small children. The star of the song also makes appearance with a keyboard solo and her self-penned line;

‘What are you waiting for? A song or what?
I’m going to begin one now so open your ears!’

Between the writing and release of the song, the arrival of their second child has brought fresh distractions, beats and chaos to the piano, thus writing himself a part in the song. Llyr Parri on drums, Elen Ifan on cello, Mari Morgan on Violin join Ynyr and Bethan for this one.

This shortened radio edit version is called ‘Fflachlwch Bach (Bach)’ whereas the full-length album version is Fflachlwch Bach - bach means small or little. Whilst it’s more fun than just calling it ‘(Radio Edit)’, it’s probably more confusing.